MSc

Rheolaeth Peirianneg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae’r MSc Rheoli Peirianneg ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi’i gynllunio i apelio at unrhyw un sy’n dymuno datblygu ei sgiliau a’i hyder wrth reoli systemau peirianneg a thechnoleg. Drwy gydol y rhaglen, byddwch yn datblygu sgiliau ym meysydd arloesi, dadansoddi, strategaeth busnes a rheoli. Ar ôl cwblhau'r cwrs, bydd gennych y sgiliau angenrheidiol i fod yn arweinydd a rheolwr technegol effeithiol, a dilyn gyrfa mewn ystod o rolau ym maes peirianneg, technoleg a rheoli menter.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad Normally, an undergraduate degree at 2:2 or above. However. Candidates with HND + significant and appropriate experience may be allowed to entre the programme. Each applicant will be dealt with on a case by case basis.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae gan beirianneg rôl hanfodol i'w chwarae yn y chwyldro technolegol sydd ohoni sy'n newid yn gyflym, ac mae galw mawr am reolwyr sy’n gallu arloesi wrth ymateb i heriau byd-eang. Mae’r MSc Rheoli Peirianneg yn canolbwyntio ar feithrin y sgiliau hanfodol a'r cymwyseddau sydd eu hangen ar uwch reolwyr i lwyddo yn y sector hwn, gan gynnwys sgiliau arloesi peirianneg ddiwydiannol yn ogystal â thechnegau rheoli a busnes strategol.

Byddwch yn astudio modiwlau ar reoli a pheirianneg ansawdd, strategaethau a gweithrediadau rhyngwladol, economeg busnes, arweinyddiaeth, rheoli prosiectau ac arloesedd cynnyrch. Byddwch hefyd yn cwblhau adroddiad rheoli peirianneg sylweddol sy'n canolbwyntio ar ddarparu gwelliannau gwerth ychwanegol o fewn cwmnïau.

Mae'r rhaglen hon wedi'i chynllunio i fod yn hygyrch i fyfyrwyr sydd wedi graddio o bron unrhyw ddisgyblaeth. Nid oes angen gwybodaeth dechnegol fanwl i ymgymryd â'r rhaglen.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

1 flwyddyn amser llawn.

2-3 blynedd rhan-amser.

Dyddiadau cychwyn ar gael ym mis Ionawr neu fis Medi.

Ffioedd y Cwrs:

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Noder bod yr holl ffioedd yn amodol ar gynnydd blynyddol.

Cyllid:

Efallai y bydd cyfle ichi gael cyllid. Edrychwch ar ein cyfrifiannell cyllid i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Economics ABM3120 20
International Strategy and Operations ABM5220 20
Leading People and Organisations ABM2220 20
Project Management Tools and Techniques ABM2920 20
Quality Engineering and Management ABM2820 20

Modiwlau Dechrau Ionawr - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Economics ABM3120 20
International Strategy and Operations ABM5220 20
Leading People and Organisations ABM2220 20
Project Management Tools and Techniques ABM2920 20
Quality Engineering and Management ABM2820 20

Gyrfaoedd

Mae rôl Rheolwr Peirianneg yn cynnwys cyfarwyddo timau o bobl, rheoli prosiectau a chynllunio cyllidebau. Dylai Rheolwyr Peirianneg fod wedi'u paratoi'n dda i gyfuno talentau technoleg gydag arweinyddiaeth, rheolaeth a chraffter ariannol, boed hynny wrth wella cadwyni cyflenwi peirianneg neu reoli prosiectau peirianneg mawr a llifoedd gwaith. Mae hefyd yn hanfodol i reolwyr peirianneg fod ag ymwybyddiaeth drylwyr o dechnoleg newydd a tharfol.

Ymgymryd â rôl Rheolwr Peirianneg yw'r cam nesaf yng ngyrfa unrhyw beiriannydd technegol. Mae mireinio galluoedd technegol wrth hefyd ennill sgiliau busnes a rheoli yn ffordd ddelfrydol o ddatblygu gyrfa ym maes peirianneg a chael mantais gystadleuol yn y gweithle. Trwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn ennill y sgiliau rheoli lefel uchel sy'n angenrheidiol i ragori fel arweinydd mewn busnesau technolegol a pheirianneg, boed hynny mewn cwmni neu sefydliad rhyngwladol, menter fach i ganolig, neu fel entrepreneur.

Dysgu ac Addysgu

Ar y cwrs hwn byddwch yn ymdrin â materion peirianneg a rheoli i'ch helpu i gyflymu eich cynnydd tuag at ddod yn uwch reolwr yn y sectorau peirianneg a thechnoleg.

Byddwch yn:

  • trin a thrafod materion rheoli ansawdd strategol mewn busnesau peirianneg
  • edrych ar weithredu cysyniadau economaidd wrth ddarparu atebion i broblemau rheoli
  • datblygu eich arbenigedd mewn arweinyddiaeth sefydliadol
  • ennill sgiliau rheoli prosiectau gwerthfawr
  • gwerthuso strategaethau ar gyfer rheoli marchnata mewn marchnadoedd defnyddwyr a busnes cystadleuol
  • meithrin dealltwriaeth o arloesedd cynnyrch a gwahaniaethu masnachol.

Asesu

Mae’r asesu ar ffurf adroddiadau, traethodau, arholiadau a chyflwyniadau, gan arwain at adroddiad rheoli peirianneg terfynol.

|