MBA

Meistr mewn Gweinyddiaeth Fusnes

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae MBA Aberystwyth yn rhoi cyfle i chi ddatblygu dealltwriaeth o sgiliau a chysyniadau rheoli ar lefel uwch a'u cymhwyso i sefyllfaoedd ymarferol. Byddwch yn cael eich dysgu trwy gwricwlwm cytbwys, gan gynnwys theori, gweithdai ac astudiaethau achos o'r arena ryngwladol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree, or equivalent, in any discipline.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience and/or professional qualifications.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r rhaglenni MBA Proffesiynol yn canolbwyntio ar ddatblygu a gwella eich sgiliau academaidd a'ch sgiliau rheoli. Un o'r amcanion pwysig yw rhoi hyfforddiant dadansoddol blaengar ar ddatblygiadau diweddaraf y sectorau cyhoeddus a phreifat mewn rheoli a threfnu strategol. Byddwch yn casglu ac yn dadansoddi gwybodaeth berthnasol ar draws amryw feysydd sy'n ymwneud â sefyllfaoedd posibl a sefyllfaoedd penodol, yn cyfuno'r wybodaeth yn ffurf briodol er mwyn pwyso a mesur atebion amgen a gwneud penderfyniadau dilynol, ac yn dod i gyswllt â phobl o wahanol gefndiroedd diwylliannol er mwyn codi lefel yr ymwybyddiaeth a’r meddwl sefydliadol. 

Fel myfyriwr ar y rhaglen Meistr Proffesiynol, byddwch yn astudio'r ddamcaniaeth ddiweddaraf ynglŷn â rheoli a'r arferion a gydnabyddir y gorau mewn meysydd megis arweinyddiaeth, gweithrediadau, llywodraethu corfforaethol a chynaliadwyedd. Mae'r rhaglen yn cynnwys edrych ar ymddygiad arweinyddiaeth ac ymddygiad sefydliadol. Trwy astudio dadansoddiadau ariannol a phenderfyniadau ariannol, pwysleisir y defnydd o ddata ariannol a chyfrifyddu i ddylanwadu ar benderfyniadau a gweithrediadau strategol a'u gwella. Mae'r sylw a roddir i economeg busnes yn pwysleisio'r cyd-destun allanol, yn ogystal â'r sylfeini economaidd, ar gyfer gwneud penderfyniadau busnes ar draws pob math o feysydd swyddogaethol.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd: 

Blwyddyn amser llawn. Rhennir y flwyddyn academaidd (o fis Medi i fis Medi) yn dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi. 

Asesiad: 

Mae'r asesiad yn digwydd ar ffurf cynigion ymchwil gan gynnwys elfen lyfryddiaethol gysylltiedig, astudiaethau achos, asesiadau llafar a thraethodau. Bydd pob myfyriwr yn cwblhau traethawd hir MSc gwerth 60 credyd yn y trydydd semester sy'n ymdrin â maes astudio o'u dewis.  

Ffioedd y Cwrs: 

Gweler y tudalennau ffioedd dysgu i weld y ffioedd dysgu cyfredol. Sylwch fod cynnydd blynyddol yn yr holl ffioedd. 

Cyllido: 

Efallai y bydd cyfleoedd cyllido ar gael, ewch i'n cyfrifiannell gyllido i gael manylion.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Economics ABM3120 20
Corporate Governance and Sustainability ABM5420 20
Financial Management and Strategic Decision Making ABM2020 20
Leading People and Organisations ABM2220 20
Strategic Marketing Management ABM2420 20
Managerial Report ABM5560 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Global Marketing ABM7220 20
International Strategy and Operations ABM5220 20

Modiwlau Dechrau Ionawr - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Managerial Report ABM5560 60
Business Economics ABM3120 20
Corporate Governance and Sustainability ABM5420 20
Financial Management and Strategic Decision Making ABM2020 20
Leading People and Organisations ABM2220 20
Strategic Marketing Management ABM2420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Global Marketing ABM7220 20
International Strategy and Operations ABM5220 20

Gyrfaoedd

Bydd y radd hon yn addas i chi: 

  • os ydych chi eisiau astudio pwnc sydd o bwys gwirioneddol yn fyd-eang 
  • os ydych yn awyddus i ddatblygu'r gallu i werthfawrogi damcaniaeth, ymarfer a'r amgylchedd ariannol yn feirniadol. 
  • os ydych yn awyddus i feithrin gyrfa yn y gwasanaethau ariannol neu fancio 
  • os ydych yn dymuno meithrin sgiliau y mae galw mawr amdanynt gan unrhyw un sy'n cyflogi uwchraddedigion. 

Sgiliau a Chymwyseddau Allweddol: 

Sgiliau Astudio 

Ochr yn ochr â chyfoeth o arbenigedd ariannol o'r radd flaenaf, byddwch yn meistroli galluoedd atyniadol iawn ym maes ymchwil academaidd, dadansoddi, ffurfio dadleuon, cyflwyno, a dadlau. Byddwch hefyd yn profi eich gallu i fyfyrio a’ch gwella eich hun; byddwch yn gallu gweld beth yw eich gwendidau academaidd a chael gwared ohonynt ac adeiladu ar eich cryfderau. 

Hunan-gymhelliant a disgyblaeth 

Mae astudio ar lefel Meistr yn mynnu disgyblaeth a hunan-gymhelliant gan bob ymgeisydd. Byddwch yn cael manteisio ar arbenigedd ac arweiniad defnyddiol y staff adrannol, ond yn y pen draw chi sy'n gyfrifol am ddyfeisio a chwblhau rhaglen o ymchwil ysgolheigaidd gyson er mwyn ennill eich gradd Meistr. Bydd y broses hon o astudio annibynnol ar lefel uchel iawn yn cryfhau eich sgiliau fel gweithiwr annibynnol a hunangynhaliol, nodwedd sy’n bwysig iawn yng ngolwg y rhan fwyaf o gyflogwyr. 

Sgiliau Trosglwyddadwy 

Mae'r rhaglen MBA wedi ei chynllunio i roi cyfres o sgiliau trosglwyddadwy i chi y bydd modd eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwaith. Ar ôl graddio, byddwch wedi profi eich gallu i strwythuro a mynegi syniadau'n effeithlon, ysgrifennu ar gyfer sawl math o gynulleidfa, siarad â chynulleidfaoedd, cloriannu a threfnu gwybodaeth, gweithio'n effeithiol gydag eraill, a gweithio o fewn ac erbyn terfynau amser penodol. 

Dysgu ac Addysgu

Strwythur y rhaglen MBA 

Rhan Un (Medi 2018 - Mehefin 2019) 

Semester Un 

People and Organizations 

Managing Marketing 

Business Economics 

 Semester Dau 

Corporate Governance and Sustainability 

Financial Analysis and Decision Making 

+ un ai 

International Strategy and Operations 

neu 

Global Marketing 

Rhan Dau (Mehefin 2019 - Medi 2019) 

Strategic Report 

Management Research Project 

Modiwlau Rhan Un 

People and Organisations 

Mae'r modiwl hwn yn ymchwilio i'r ffyrdd y mae datblygiad sefydliad yn cael ei yrru gan ei bobl. Ystyrir egwyddorion damcaniaethol perthnasol a modelau rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol ac arweinyddiaeth. Mae pynciau penodol yn cynnwys denu a dethol staff, cymhelliant a thâl gweithwyr, diwylliant sefydliadol a rheoli newid, ac amrywioldeb mewn cyflogaeth. Mae pwyslais ar gymhwyso trwy ddefnyddio enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos. 

Managing Marketing 

Mae'r modiwl hwn yn ymdrin ag adnabod marchnadoedd, cychwyn mewn marchnadoedd a'u datblygu. Mae'n rhoi sylfaen trylwyr yn y damcaniaethau, cysyniadau a thechnegau marchnata, trwy archwilio cysyniadau a modelau marchnata strategol. Mae'r modiwl yn cloriannu rhan marchnata mewn amgylcheddau sefydliadol cyfoes. Defnyddir dull rheoli cyffredinol gan gydnabod bod cycsylltiadau a chyfeiriadedd y farchnad yn gynseiliau allweddol ar gyfer rheoli busnes a marchnata. 

Business Economics 

Mae'r modiwl hwn yn ymwneud ag egwyddorion, cysyniadau a dulliau dadansoddi micro economeg a macro economeg, ac yn dadansoddi ymddygiad micro economaidd unigolion, aelwydydd, cwmnïau, a'u hymwneud a'i gilydd. Mae'r modiwl hefyd yn ymdrin ag ymddygiad macro economaidd agregau economaidd, gan gynnwys cynnyrch domestig gros, treuliant, buddsoddiad, chwyddiant, diweithdra a chydbwysedd taliadau. Mae pwyslais ar y rhan sydd i bolisi'r llywodraeth a rheoleiddio o safbwynt micro economaidd a macro economaidd. 

Corporate Governance and Sustainability 

Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno cysyniadau, damcaniaethau, ymchwil ac arferion allweddol llywodraethu corfforaethol mewn cyd-destun sy'n dod mwyfwy yn un byd-eang. Archwilir codau llywodraethu corfforaethol cyfoes, gofynion datgelu gwybodaeth, rheoli risg a systemau moesegol, gyda phwyslais ar natur gyfannol systemau a phrosesau o'r fath. Edrychir ar faterion polisi archwilio a chyfrifeg, gan gyfeirio at gydgyfeiriant rhyngwladol y safonau proffesiynol a'r ymatebion rheoleiddiol i faterion cyfredol. Rhoddir sylw arbennig i gynaliadwyedd a moeseg busnes. 

Financial Analysis and Decision Making 

Mae'r modiwl hwn yn datblygu gafael ymarferol ar gyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheolaethol, dadansoddi ariannol a’r broses o wneud penderfyniadau ariannol, sy'n berthnasol i'r darpar reolwr cyffredinol. Mae'r pynciau'n cynnwys paratoi a dehongli'r prif ddatganiadau ariannol; gofynion ac arferion cyfrifyddu ar gyfer y gwaith o gynllunio, monitro, rheoli a rheoleiddio busnes yn fewnol; a chyllid busnes, gan gynnwys ffynonellau cyllid, rheolaeth ariannol, a dadansoddiad y farchnad stoc o berfformiad. 

International Strategy and Operations (opsiwn) 

Mae'r modiwl hwn yn edrych ar strategaeth ryngwladol a rheoli gweithrediadau, gan gynnwys y gadwyn gyflenwi ryngwladol, agwedd ar gyfleoedd busnes sy'n dod yn fwyfwy pwysig ledled y byd. Mae'r modiwl yn archwilio'r technegau sydd eu hangen ar gyfer cynllunio, gweithredu a rheoli prosesau busnes ac ymgynghori, gan gynnwys dulliau o leihau risg y gadwyn gyflenwi. Pwysleisia'r modiwl bwysigrwydd y berthynas rhwng cwsmeriaid a chyflenwyr, yn ogystal â'r risgiau sy'n gysylltiedig â rheoli'r gadwyn gyflenwi. 

Global Marketing (opsiwn) 

Mae'r modiwl hwn yn ymdrin ag adnabod marchnadoedd rhyngwladol/byd-eang, mentro i mewn iddynt a’u datblygu. Rhoddir dealltwriaeth drylwyr o ddamcaniaethau, cysyniadau a thechnegau marchnata byd-eang a rhyngwladol, gan gynnwys cymhellion ar gyfer ehangu rhyngwladol, dewis marchnad a chychwyn ynddi, rheoli cyfathrebu a chysylltiadau â chwsmeriaid mewn marchnadoedd rhyngwladol, a brandio rhyngwladol. 

|