MA

Ysgrifennu Creadigol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y cynllun gradd hwn yn eich cynorthwyo i ddatblygu eich gweledigaeth greadigol a'ch dawn ysgrifennu trwy gyfrwng rhaglen gytbwys o ddarllen, dadansoddi a gweithdai ysgrifennu.

Cewch eich cyflwyno gan ein darlithwyr i amrywiaeth o awduron rhyddiaith a barddoniaeth gyfoes a fydd yn sbarduno eich twf creadigol chi’ch hun, gan adael ichi fagu hyder ac aeddfedrwydd yn eich dull o ysgrifennu. Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â thechneg ac yn ymchwilio i'r materion ehangach sy'n gysylltiedig â'r arfer o ysgrifennu,

megis arwyddocâd genre a threfniadau‘r byd cyhoeddi. Mae'r rhaglen hefyd yn cynnwys elfen feirniadol gref, sy’n eich annog i fyfyrio ar eich dulliau creadigol eich hun yn ogystal â dulliau pobl eraill.

Fe gewch hyfforddiant unigol gan staff rhagorol yr adran, bob un ohonynt yn awduron creadigol cyhoeddedig. O dan eu harweiniad hwy, byddwch yn cynhyrchu portffolio sylweddol ar ffurf casgliad o farddoniaeth neu ddarn estynedig o ryddiaith.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:1 Bachelors (Hons) degree in a relevant subject together with submission of a satisfactory writing portfolio. These are minimum requirements for entry. A transcript of marks demonstrating consistent performance at 2:1 level should also be provided.

Non-graduates and non-subject specialists will be considered individually based on relevant experience and submission of a satisfactory writing portfolio.

The writing portfolio should consist of 4000-5000 words of critical and/or creative prose. In cases where portfolios comprise or include poetry, 100 lines of poetry is considered equivalent to 1000 words of prose.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 7.0 with minimum 7.0 in each component, or equivalent

Yn ôl i'r brig

Ffioedd a Chyllid

Course Fees:

Please see the tuition fee pages for current tuition fees. Please note that all fees are subject to an annual increase.

Funding:

Funding opportunites may be available, please check our funding calculator for details.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y radd hon yn addas i chi:

  • Os ydych chi eisiau hyfforddiant cynhwysfawr mewn dulliau o ysgrifennu creadigol ar lefel uwch.
  • Os ydych chi eisiau datblygu eich gweledigaeth greadigol a'ch sgiliau ysgrifennu i'r lefelau uchaf.
  • Os ydych yn chwilio am adolygiad manwl ac adeiladol o'ch gwaith.
  • Os ydych am weithio mewn amgylchedd deinamig a chefnogol wrth lunio portffolio o ysgrifennu creadigol

Mae ein hymchwil, sydd o arwyddocâd cenedlaethol, yn sail i'n haddysgu a thrwy gydol eich astudiaethau cewch eich dysgu gan rai o ysgolheigion mwyaf blaenllaw'r DU mewn Ysgrifennu Creadigol ac Astudiaethau Llenyddol. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol cymesur. Mae ein darlithwyr naill ai'n meddu ar gymhwyster addysgu Addysg Uwch neu'n gweithio tuag ato, ac mae'r rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd yn meddu ar Gymrodoriaethau gyda Advance HE. Mae diddordebau ymchwil staff mor eang ac mor ddeinamig â'n cwricwlwm, ac yn ddiweddar barnwyd y rhan fwyaf o'n gweithgarwch ymchwil naill ai'n rhagorol yn rhyngwladol neu gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd (REF 2021).

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Hyd:

1 flwyddyn amser llawn. 2-3 blynedd rhan-amser.

Mae'r flwyddyn academaidd (Medi i Fedi) wedi'i rhannu'n dri semester: Medi i Ionawr; Ionawr i Fehefin; Mehefin i Fedi.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Writer as Practitioner 1 WRM6140 40
Writer as Professional WRM6620 20
Writer as Scholar WRM6320 20
Writer as Practitioner 2 WRM6060 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
21st-Century Medievalisms ENM0920 20
Late Modernist Poetry ENM0020 20
Postwar American Fiction ENM1220 20
Queer and Now: 100 years of Queer Writing ENM0220 20
Reading Ulysses ENM3120 20
Research and Project Planning ENM3020 20
Romantic Radical Cultures ENM1520 20
Sensational Sales: Victorian Popular Literature 1848-1894 ENM1720 20
Women, Fiction and Female Community, 1660-1792 ENM1620 20
Writing Poetry: Modes in Contemporary Poetry WRM6420 20

Gyrfaoedd

Mae pob cwrs MA ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi'i gynllunio'n benodol i wella eich cyflogadwyedd. Yn ogystal â datblygu eich sgiliau ysgrifennu ac ymchwil, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i feistroli’r sgiliau allweddol sydd eu hangen mewn amrywiaeth eang o weithleoedd. Byddwch yn cael eich gwthio i wella'ch dulliau o gynllunio, dadansoddi a chyflwyno fel y gallwch fynd i'r afael â phrosiectau cymhleth yn drylwyr a chydag annibyniaeth broffesiynol, a bod yn hyderus wrth gyflwyno prosiectau cadarn i sylw manwl grŵp. Bydd eich MA mewn Ysgrifennu Creadigol yn eich gosod yn y farchnad swyddi fel awdur proffesiynol sydd â sgiliau dymunol iawn ac yn addas ar gyfer gyrfa yn y celfyddydau, llenyddiaeth, newyddiaduraeth neu lawer o feysydd eraill.

Sgiliau a Chymwyseddau Allweddol

Ar ôl graddio o'r MA hwn mewn Ysgrifennu Creadigol, byddwch wedi meistroli amrywiaeth o sgiliau technegol a chreadigol sy'n ymwneud ag ysgrifennu. Byddwch yn fedrus iawn mewn ymchwil ffeithiol, ysgrifennu cloriannol a datrys problemau drwy'r broses ysgrifennu. Byddwch yn deall genre a chywair, safbwynt a llais y naratif, ac yn gallu cyfiawnhau eich dewisiadau creadigol o fewn eich ffurf dewisol. Byddwch yn meddu ar ymwybyddiaeth o'ch darllenwyr arfaethedig ac yn nodi eich lle yng nghyd-destun ehangach ffuglen lenyddol a/neu farddoniaeth. Bydd gennych hefyd brofiad o roi a derbyn beirniadaeth lem ond cefnogol o fewn sefyllfa grŵp cadarnhaol.

Hunan-gymhelliant a Disgyblaeth

Mae astudio ar lefel MA yn gofyn am lefelau uchel o ddisgyblaeth a hunan gymhelliant gan bob ymgeisydd. Er y bydd arbenigedd ac arweiniad defnyddiol y staff Adrannol ar gael i chi, yn y pen draw chi sydd yn gyfrifol am ddyfeisio a chwblhau’r rhaglen barhaus o ymchwil ysgolheigaidd wrth i chi anelu at eich gradd MA. Bydd y broses hon yn cryfhau eich sgiliau wrth gynllunio, gweithredu a dadansoddi prosiectau gwaith mewn ffyrdd sy'n adlewyrchu’r arfer safonol ym myd gwaith cyflogedig.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Mae'r radd MA wedi'i chynllunio i roi ichi ystod o sgiliau trosglwyddadwy y gallwch eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau academaidd a chyflogaeth. Mae cyfran sylweddol o swyddi ôl-raddedig yn mynnu arbenigedd a chryfder penodol o ran ehangder. Felly, fel awdur hyfforddedig gyda phrawf o allu creadigol, byddwch yn gaffaeliad i unrhyw gyflogwr sy'n chwilio am unigolion a all gydbwyso dawn greadigol a gweledigaeth artistig ynghyd ag agwedd ddibynadwy o ran etheg gwaith a sgiliau ysgrifennu hawdd iawn eu haddasu.

Dysgu ac Addysgu

Byddwch yn astudio dau fodiwl craidd ynghyd â thri modiwl dewisol o’r portffolio mae’r Adran yn ei gynnig ar gyfer MA neu o feysydd astudio perthnasol eraill, gan gynnwys Astudiaethau Llenyddol. Bydd y modiwlau craidd yn eich arfogi â'r sgiliau ymchwil a'r wybodaeth pwnc-benodol sydd eu hangen i feistroli ystod o ddulliau ymarferol a damcaniaethol o ysgrifennu, tra bydd y modiwlau dewisol yn eich galluogi i gyfeirio eich astudiaeth i feysydd o ddiddordeb penodol. Mae pob modiwl yn cynnwys deg wythnos o astudio gyda chyfarfod grŵp am ddwy awr bob wythnos a darpariaeth ar gyfer ymgynghori mewn tiwtorial. Bydd y fframwaith hwn ar gyfer dysgu yn eich ysbrydoli i ehangu eich gorwelion artistig a'ch gwthio i ddatblygu eich galluoedd o fewn amgylchedd beirniadol adeiladol.

Elfen ganolog bwysig y cwrs yw eich Portffolio Ysgrifennu, a fydd yn cynnwys naill ai rhyddiaith neu farddoniaeth. Fe wnawn bob ymdrech i benodi arolygydd i'ch tywys sydd â diddordebau yn cyfateb mor agos â phosibl i'ch rhai chi.

Asesu

Mae’r asesu ar ffurf portffolios o ryddiaith a/neu farddoniaeth, gan gynnwys sylwebaethau beirniadol; prosiect ymchwil hir; ac ysgrifennu myfyriol ar ymarfer proffesiynol. Bydd cyfle gennych i amrywio eich proffil asesu trwy ddewis modiwlau sy'n caniatáu asesu trwy gyflwyniad llafar, traethawd beirniadol neu ddyddiadur dysgu. Nid oes unrhyw arholiadau ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn.

|