MSc

Gwyddor Data

Mae Gwyddor Data yn arbenigedd sy’n tyfu’n gyflym, a gellir ei ddefnyddio mewn busnes, llywodraeth a gwyddoniaeth. Mewn ystod eang o sefyllfaoedd, o fancio i siopa, ac o gyrff llywodraethol i'r GIG, mae ein gweithgareddau bob dydd yn gadael olion digidol ac mae'r byd gwaith yn cael ei drawsnewid. Mae galw mawr am Wyddonwyr Data - unigolion sydd â'r gallu i ganfod ystyr mewn data ac sy'n gyfforddus wrth weithio ar draws disgyblaethau cyfrifiadureg, mathemateg ac ystadegaeth, ac sy'n gallu cyfannu llawer o ffrydiau data i greu synthesisau treiddgar.

Mae ei ddefnydd yn amrywio o ganfod patrymau prynu cwsmeriaid i ddilyn hynt ymlediad afiechyd, o fonitro peirianwaith drud i gofnodi a gwella iechyd unigolyn.

Mae Gwyddor Data yn arbennig o briodol fel ffocws ar gyfer gradd Meistr gyffredinol mewn cyfrifiadura, gan ddarparu cyfleoedd i raddedigion o ddisgyblaethau eraill gymhwyso eu gwybodaeth newydd am gyfrifiadura i’w maes astudio gwreiddiol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree, or equivalent, in any discipline.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.0 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor Data ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn elwa o'r cyfoeth o arbenigedd a gwybodaeth a geir yn yr adrannau Mathemateg a Chyfrifiadureg.
  • Byddwch yn astudio mewn adrannau gyda chysylltiadau â nifer o gwmnïau mawr ac sy’n canolbwyntio’n gryf ar ymchwil. 
  • Byddwch yn cael cefnogaeth gyda chynllunio ar gyfer eich gyrfa trwy gydol eich gradd.
  • Mae ein graddau Meistr a ddysgir wedi'u cynllunio i ddiwallu anghenion myfyrwyr sy'n bwriadu cael gyrfa mewn ymchwil, a'r rhai sydd am sbarduno gyrfa mewn diwydiant.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Data Analytics CSM6720 20
Machine Learning for Intelligent Systems CSM6420 20
Modelling, Managing and Securing Data CSM3120 20
Statistical Concepts, Methods and Tools MAM5120 20
Statistical Techniques for Computational Scientists MAM5220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fundamentals of Intelligent Systems CSM6120 20
Programming for Scientists CSM0120 20
Dissertation CSM9060 60

Gyrfaoedd

Ceir galw aruthrol am raddedigion gyda sgiliau mewn ‘Data Mawr’. Mae ein graddedigion Gwyddor Data wedi mynd ymlaen i weithio i gwmnïau megis Google a MarkLogic, yn rheolwyr cynnyrch i fanciau buddsoddi, ac eraill wedi sefydlu eu cwmnïau eu hunain.

Mae llawer o gyfleoedd i Wyddonwyr Data yn y farchnad swyddi, a beth bynnag fo’ch bwriad ar ôl MSc, byddwch yn cael cynnig cymorth i gynllunio’ch gyrfa. 

Sgiliau

Trwy gydol y cwrs hwn, byddwch chi'n datblygu sgiliau, rhinweddau ac arbenigedd a fydd yn eich gwneud chi'n hynod hawdd i’ch marchnata i gyflogwyr. Ar y cwrs hwn byddwch chi: 

  • Yn datblygu sgiliau technegol arbenigol ym meysydd trin data, rheoli data, dadansoddi data a chloddio data, modelu perthynol, cryptograffeg, a diogelwch systemau 
  • Yn datblygu arbenigedd pwnc-benodol, gan gynnwys ymwybyddiaeth o'r materion cyfreithiol, cymdeithasol, moesegol a phroffesiynol sy'n gysylltiedig â thrin data, a gwybodaeth am dechnegau a dulliau ystadegol ar gyfer setiau data mawr 
  • Yn datblygu sgiliau astudio ac ymchwil 
  • Yn gwella eich gallu i ddadansoddi, a’ch sgiliau datrys problemau. 
  • Yn gwella eich sgiliau cyfathrebu trwy gymysgedd amrywiol o ddulliau dysgu ac asesu.

Dysgu ac Addysgu

Gellir astudio'r cwrs hwn am un flwyddyn yn llawn-amser neu am ddwy flynedd yn rhan-amser. Os astudir y cwrs yn llawn-amser, mae’n cael ei rannu’n dri semester. 

Yn y ddau semester cyntaf (Medi i Fai), bydd y myfyrwyr yn cwblhau 120 o gredydau a ddysgir. Mae'r trydydd semester (Mehefin i Fedi) yn cael ei glustnodi i'r prosiect MSc a'r traethawd hir (60 credyd). Yr amser cyswllt ar gyfer y cwrs hwn yw oddeutu 12 awr yr wythnos yn y ddau semester cyntaf. 

Yn ystod y trydydd semester byddwch yn pennu faint o amser y byddwch yn ei dreulio â’r sawl sy’n eich arolygu. Mae'r rhan o'r cwrs a ddysgir yn cael ei darparu trwy ddarlithoedd, seminarau myfyrwyr a gwaith ymarferol. 

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn y ddau semester cyntaf byddwch yn ymgymryd â nifer o fodiwlau, sy'n cynnwys:

  • Advanced Data Analytics
  • Machine Learning for Intelligent Systems
  • Modelling, Managing and Securing Data
  • Statistical Concepts, Methods and Tools
  • Statistical Techniques for Computational Scientists.

Asesu

Mae'r asesiad yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, aseiniadau rhaglennu, portffolios ymarferol, arholiadau ymarferol ac arholiadau ysgrifenedig. Mae cyflwyno’r traethawd hir llwyddiannus yn semester tri yn arwain at ddyfarnu gradd MSc. 

|