MRes

Rheoli Parasitiaid

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae'r cwrs Rheoli Parasitiaid ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain at gymhwyster MRes a gydnabyddir yn rhyngwladol ac a fydd yn darparu hyfforddiant mewn sgiliau trosglwyddadwy sy'n hanfodol i'r rhai sy'n dymuno astudio am radd PhD neu ddilyn cyfleoedd ymchwil masnachol neu ddiwydiannol. Gan ganolbwyntio'n benodol ar barasitiaid a'r afiechydon y maent yn eu hachosi, byddwch yn elwa ar wybodaeth arbenigol wrth ganfod, atal a rheoli pathogenau protosoaidd yn ogystal a rhai metasoaidd mewn anifeiliaid a dynion. Byddwch yn cael hyfforddiant mewn meysydd arbenigol gan gynnwys biocemeg, bioleg foleciwlaidd, meithrin organebau cyfan/celloedd a’u trin, biowybodeg, proteomeg, trawsgrifomeg, genomeg, genomeg swyddogaethol, darganfod cyffuriau, brechu, darganfod biomarcwyr, geneteg/epigeneteg, epidemioleg, bioleg ac ecoleg organebau lletyol cludol/rhyngol.

Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn deall sut y gellir defnyddio dulliau rhyngddisgyblaethol i reoli rhai o'r organebau heintus mwyaf marwol ar y blaned a byddwch yn barod i ddilyn eich gyrfa mewn parasitoleg.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in a relevant subject area or equivalent. Subject to agreement with project supervisor. Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 with minimum 5.5 in each component, or equivalent

Gofynion Eraill Applicants are encouraged to submit an up-to-date CV as part of their application.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Parasitism is the most successful lifestyle on the planet and leads to diverse and highly-damaging infectious diseases of agricultural, veterinary and biomedical significance. Therefore, a greater understanding of the parasite species responsible for these conditions and the means by which they are controlled remain a priority for scientists, health care professionals and farmers in the 21st century. The development of novel, creative and integrated control strategies are urgently needed to combat the growing threat of changing parasite distributions due to climate change, human migration, animal transportation and farming practices. This MRes course will provide you with a range of vocational skills and prepare you for professional employment or further postgraduate PhD studies in Parasitology or related disciplines (such as infectious diseases, public health and epidemiology).

The MRes Parasite Control has a substantial component of independent supervised research (120 of 180 credits) and structured learning opportunities via 60 credits of taught modules, through which you will gain in-depth knowledge and an understanding of current issues of parasite control. The further development of generic attributes of decision-making, independent learning and communicating effectively to a range of audiences and in a variety of media will be developed in all modules.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Un agwedd unigryw o’r cwrs hwn o’i gymharu â chyrsiau Parasitoleg lefel Meistr eraill yn y DU yw'r prosiect traethawd hir 12 mis (Semester 1-3). Gan weithio o dan arolygiaeth ymchwilwyr gweithgar yn y maes, byddwch yn datblygu prosiect ymchwil ar y cyd ar bynciau amrywiol megis rheoli organebau lletyol sy’n cludo a rhai rhyngol, cyffuriau anthelmintig a darganfod targed, adnabod biomarcwyr, dewis arwyddion gweledol ar gyfer arthropodau sy’n cludo pathogenau, modelu mathemategol o drosglwyddo clefydau, ymateb organebau lletyol i fiomoleciwlau parasitig, astudiaethau o boblogaeth parasitiaid ac organebau lletyol a thriniaeth o barasitiaid yn ôl genomeg swyddogaethol.

Bydd rhestr o'r prosiectau a'r arolygwyr sydd ar gael yn cael eu hysbysebu yn agosach at ddechrau pob blwyddyn academaidd.

Bydd eich tîm arolygu/arolygwr yn eich mentora i ddefnyddio damcaniaeth a darganfod wrth gynllunio’n arbrofol, yn darparu hyfforddiant mewn methodolegau wedi eu seilio ar waith yn y labordy a gwaith gyda chymorth cyfrifiadur, yn trefnu cyfarwyddyd mewn technegau dadansoddi, yn cynorthwyo i ddatrys problemau heriau arbrofol, yn eich cynorthwyo i ddehongli'r canlyniadau ac yn eich paratoi ar gyfer cyflwyniadau llafar llwyddiannus. Byddwch hefyd yn cael eich tywys o ran sut i gyfleu'ch canlyniadau yn fwyaf effeithlon yn ystod cyfnod ysgrifennu'r traethawd hir. Disgwylir y byddwch yn dod yn arbenigwr yn eich pwnc yn ystod y prosiect ymchwil hwn sy'n para blwyddyn.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Hot Topics in Parasite Control BRM0920 20
Infection and Immunity BRM1620 20
MRes Dissertation (A) BRM6060 60
MRes Dissertation (B) BRM6160 60

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Field and Laboratory Techniques BRM4820 20
Frontiers in the Biosciences BRM0220 20
Statistical Concepts, Methods and Tools MAM5120 20

Gyrfaoedd

Mae'r cwrs hwn yn rhaglen hyfforddi ddelfrydol ar gyfer y rhai sy'n dymuno:

  • dilyn astudiaethau PhD
  • gweithio mewn diwydiant, elusennau neu gyrff cyllido
  • gwella iechyd anifeiliaid a phobl
  • dylanwadu ar bolisïau'r llywodraeth.

Sgiliau

Trwy gydol y cwrs hwn byddwch yn:

  • datblygu sgiliau cadarn ar gyfer casglu/dehongli data, gwaith maes a gwaith labordy
  • gwella eich sgiliau cyfathrebu gwyddonol a’ch sgiliau wrth weithio mewn tîm
  • ysgrifennu ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd gan gynnwys academyddion a'r cyhoedd yn ehangach
  • gwella eich gallu i ddadansoddi, i feddwl yn feirniadol a’ch sgiliau datrys problemau 
  • datblygu sgiliau astudio ac ymchwil
  • cyfarwyddo a chynnal rhaglen astudio y byddwch yn sefydlu eich hunan wedi'i seilio ar sgiliau rheoli amser da
  • gallu gweithio'n effeithiol ac yn annibynnol
  • mireinio eich sgiliau o reoli prosiect er mwyn cyflawni cyfuniad heriol o ymchwil, dadansoddi, cyfathrebu a chyflwyno.


Dysgu ac Addysgu

Sut byddaf i'n dysgu?

Mae hwn yn gwrs blwyddyn llawn amser. Byddwch yn cwblhau 60 credyd o fodiwlau craidd sy'n canolbwyntio ar barasitoleg, rheoli parasitiaid a methodolegau ymchwil, a byddwch yn ymgymryd â chyfnod hir o waith arbrofol/casglu data ac ymchwil dan arolygiaeth eich arolygwr er mwyn cwblhau thraethawd hir 120 credyd.

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae'r modiwlau a gynhwysir yn y rhaglen hon wedi'u cynllunio i ddarparu sylfaen ar gyfer deall a chyfrannu'n ystyrlon at strategaethau rheoli parasitiaid. Byddwch hefyd yn darganfod sut y gall ymchwil fynd i'r afael â heriau mawr mewn parasitoleg yr ydym yn eu hwynebu fel cymdeithas.

Mae'r hyfforddiant ymchwil rhyngddisgyblaethol hwn yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i gwblhau eich traethawd ymchwil unigol. Nodwedd allweddol y cwrs yw eich bod yn gallu archwilio maes o fewn parasitoleg sy'n eich diddori ac ymgymryd â darn estynedig o ymchwil lefel uwch gyda chefnogaeth arolygwr.

Sut y caf fy asesu?

Asesir y modiwlau a addysgir trwy aseiniadau i ysgrifennu testunau gwyddonol (megis adroddiadau, adolygiadau beirniadol, traethodau ac erthyglau newyddiadurol), cyflwyniadau, cyfraniadau i drafodaethau grŵp mewn seminarau ac aseiniadau ar-lein.

Dyfernir gradd MRes wedi i chi gyflwyno eich traethawd hir yn llwyddiannus.

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei roi ichi ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol wrth law i'ch cynorthwyo gyda materion academaidd neu bersonol.

|