Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Am ganrif a mwy mae Adran y Gymraeg Aberystwyth wedi bod yn ganolfan ymchwil o fri rhyngwladol. Mae arbenigedd ei 8 aelod o staff dysgu yn rhychwantu pob maes a chyfnod yn iaith a llenyddiaeth Cymru yn ogystal ag Astudiaethau Celtaidd. Rydym yn cynnig hyfforddiant a goruchwyliaeth i fyfyrwyr ymchwil (MPhil neu PhD), ac rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sydd â chymwysterau da.
English
For over a century the Department of Welsh at Aberystwyth has been an internationally renowned centre of research. The expertise of its 8 teaching members spans all areas and periods of Welsh literature and language as well as Celtic Studies. We offer tuition and supervision for research students (MPhil or PhD), and we welcome applications from well-qualified candidates.
Prif Ffeithiau
Cymraeg
Mae Adran y Gymraeg wedi'i lleoli yn Adeilad Parry-Williams, yn agos i'r Lyfrgell Hugh Owen sy'n cynnwys scasgliadau Cymraeg a Cheltaidd arbennig. Gerllaw mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, un o'r llyfrgelloedd hawlfraint prin ym Mhrydain. Mae ei llawysgrifau a'i harchifau yn brif adnodd i ysgolheigion Cymru.
Mae gan y Brifysgol ddiwylliant uwchraddedig bywiog: cynhelir seminarau ymchwil rheolaidd yn Adran y Gymraeg ac mewn adrannau eraill, a gall y myfyrwyr hefyd fynd i seminarau yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae digonedd o gyfleodd ar gael i ddatblygu rhuglder yn y Gymraeg ac i ymarfer Gwyddeleg, Llydaweg a Gaeleg yr Alban gyda graddedigion ac israddedigion eraill mewn grwpiau anffurfiol.
English
The Department of Welsh is situated in the Parry-Williams Building, near the University's Hugh Owen Library with it's outstanding Welsh and Celtic collections. Close at hand is the National Library of Wales, one of the few copyright libraries in Britain. Its manuscript and archival holdings in particular are a prime resource for Welsh scholars.
The University has a lively postgraduate scene: regular research seminars are held in the Department of Welsh and in other departments, and students may also attend seminars in the Centre for Advanced Welsh and Celtic Studies. There are ample opportunities to gain fluency in Welsh, and to practise Irish, Breton and Scottish Gaelic with other graduates and undergraduates in informal groups.
Trosolwg
Cymraeg
Ar gyfer y graddau hyn gellir dewis unrhyw bwnc o holl faes llenyddiaeth ac iaith Gymraeg. Mae ymchwilwyr yn y blynyddoedd diweddar wedi gweithio ar bynciau mor amrywiol ag: enwau personol dynion yng Nghymru, Cernyw a Llydaw, 400-1400AD; gwrywdod a llenyddiaeth Gymraeg o'r oesoedd canol; gwisgoedd mewn llenyddiaeth ganoloesol c1100-c1600; canu cynnar Guto’r Glyn; llên gwerin Gwylliaid Cochion Mawddwy; barddoniaeth Lewis Morris; nofelau Lleifior Islwyn Ffowc Ellis; agweddau ar nofelau Marion Eames; a chyfraniad Myrddin ap Dafydd fel ffigwr diwylliannol. Gall myfyrwyr dynnu ar yr amrediad eang o arbenigedd academaidd a ddarperir gan staff yr Adran yn y Gymraeg ac yn yr ieithoedd Celtaidd eraill.
English
For these degrees any subject may be chosen from the whole field of Welsh language and literature. Researchers in recent years have worked on topics as varied as: personal names of men in Wales, Cornwall and Brittanny, 400-1400AD; masculinity and medieval Welsh literature; costume in medieval literature c1100-c1600; the early poetry of Guto’r Glyn; the Red Bandits of Mawddwy in folklore and literature; the poetry of Lewis Morris; the Lleifior novels of Islwyn Ffowc Ellis; aspects of the novels of Marion Eames; and the contribution of Myrddin ap Dafydd as a cultural figure. Students can draw on the very wide range of academic expertise provided by the Department’s staff in both Welsh and other Celtic languages.
Ein Staff
Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg