Cysylltiadau Rhyngwladol a Newid Hinsawdd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)
BA Cysylltiadau Rhyngwladol a Newid Hinsawdd (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod 37LF Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
37LF-
Tariff UCAS
120 - 96
-
Hyd y cwrs
4 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
76%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrNewid Hinsawdd yw’r her fwyaf sylweddol a chymhleth sy’n wynebu ein systemau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd. Mae gwleidyddiaeth ryngwladol yn allweddol i ddeall y cymhlethdod hwn ac i wynebu’r argyfwng byd-eang.
Trwy astudio’r cynllun gradd hwn byddwch yn cael cyflwyniad amlddisgyblaethol i wleidyddiaeth newid hinsawdd, gan ystyried y ffyrdd y mae gwladwriaethau a chymdeithasau yn ymrafael i reoli adnoddau a systemau ecolegol y ddaear. Cewch hefyd gyfle, trwy gyfrwng efelychiadau, i astudio’r prosesau trafod a phenderfynu cymhleth sy’n rhan o lywodraethiant rhyngwladol newid hinsawdd heddiw.
Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Cysylltiadau Rhyngwladol a Newid Hinsawdd yn Aberystwyth:
- cymryd rhan yn ein ‘Gemau Argyfwng’ enwog - ymarferion chwarae rôl dros dri diwrnod sy’n ymdrin ag ymarferion gwleidyddol, economaidd a diplomyddol a fydd yn datblygu’ch sgiliau trafodaeth a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio’n rhan o dîm, a datrys problemau
- cymryd rhan yn ein Cynllun Lleoliadau Seneddol, sy’n gyfle ichi ennill profiad hynod werthfawr ochr yn ochr ag Aelod Seneddol (Tŷ’r Cyffredin, San Steffan) neu Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) am gyfnod o bedair i chwe wythnos yn ystod yr haf.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 96
Safon Uwch BBB-CCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|