BA

Hanes a TESOL (Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill)

BA Hanes a TESOL (Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Cod V103 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd ein gradd BA Anrhydedd Sengl mewn Hanes a TESOL ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhoi’r cyfle ichi astudio cwricwlwm hanes amrywiol a chynhwysfawr sy’n rhychwantu ystod eang o gyfnodau cronolegol. Ar y cyd â hynny, cewch gyflwyniad trylwyr i’r ddisgyblaeth o Ddysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)

Trosolwg o'r Cwrs

Byddwch yn astudio hanes o’r cyfnod canoloesol i’r byd modern diweddar, gan edrych ar amrywiaeth o ffurfiau ar ymchwilio i hanes – o hanes cymdeithasol a gwleidyddol i’r economaidd a diwylliannol. Byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen ar haneswyr, megis asesu ffynonellau gwreiddiol, meistroli gweithiau eilradd a llunio dadansoddiadau o gymdeithasau’r gorffennol ar sail hanes. Ar yr un pryd, byddwch yn meithrin ystod o sgiliau cyfathrebu a fydd yn gweddu i’r elfennau TESOL yn y rhaglen ac yn eich helpu i ddysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill.

Ymhlith y cyfleoedd i fyfyrwyr Hanes a TESOL yn Aberystwyth mae:

  • cael profiad o addysgu arloesol sy’n seiliedig ar ymchwil yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru, sydd â’r nod o ddatblygu eich sgiliau trosglwyddadwy mewn meysydd fel dadansoddi, dehongli, a chyfathrebu
  • cael profiad o’r byd TESOL (a elwir hefyd yn TEFL) a’r cyfleoedd i deithio dramor y mae gyrfa ym maes TESOL yn ei chynnig
  • cyfle i astudio dramor yn un o’n prifysgolion partner, i fynd ar leoliad gwaith ac i gynllunio ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol
  • manteisio ar ein perthynas gydweithredol unigryw â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth – un o’r cyfleusterau ar y campws sy’n adnodd gwych i staff a myfyrwyr y brifysgol – yn ogystal â mynediad llawn i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.


Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Gyrfaoedd

Mae Cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r cwrs gradd hwn. Drwy gydol y cwrs, byddwch yn ymwneud â’r dysgu mewn ffordd ymarferol, ar sail datrys problemau ac yn canolbwyntio ar sefyllfaoedd y byd go iawn. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi ddatblygu sgiliau cydweithio, arwain, a chreu tîm – sgiliau sy’n hanfodol mewn amrywiaeth o swyddi.

Dysgu ac Addysgu

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|