BSc

Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes

Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes Cod D4N2 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r diwydiant amaeth yn mynd yn fwyfwy cymhleth. Mae newidiadau mewn mecanweithiau cefnogi a phwysau i arallgyfeirio a rheoli'r amgylchedd wedi golygu bod llwyddo yn y sector ffermio yn gynyddol ddibynnol ar sgiliau rheoli busnes o ansawdd uchel. Mae'r radd hon yn ateb y galw mawr am raddedigion sydd am feithrin dealltwriaeth gadarn o amaethyddiaeth a rheoli busnes. 

Dyma pam rydyn ni'n meddwl mai Aberystwyth yw'r lle i chi: 

  • Bydd myfyrwyr ar y cwrs yn datblygu ac yn cael budd o'r cyfleusterau addysgu modern sy'n rhoi'r sgiliau ymarferol a'r sylfaen wybodaeth wyddonol i chi fel sail i'ch gyrfa yn y dyfodol;
  • Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael eich gwahodd i ymweld â ffermydd a busnesau sy'n arloeswyr ac sydd â gwybodaeth dechnegol arbennig.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Darperir y radd hon gan IBERS, sef ein Hathrofa arobryn ar gyfer y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, sydd hefyd yn gartref i'r Arolwg o Fusnesau Ffermio. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi hen sefydlu enw rhagorol ledled y byd am ei haddysg a'i hymchwil ym maes amaethyddiaeth a gwyddorau gwledig, ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw'r adran brifysgol fwyaf o'i bath gyda'r adnoddau gorau yng ngwledydd Prydain;
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr blaenllaw y mae'n bosib y byddwch eisoes wedi'u gweld ar raglenni dogfen ar y teledu neu wedi'u clywed ar y radio;
  • Mae'r Brifysgol yn cynnig dros 1000 hectar o dir amaeth i fyfyrwyr, gan gynnwys ffermydd defaid iseldir ac ucheldir; buches laeth â 500 o wartheg; systemau cynhyrchu cig eidion dwys ac eang; canolfan geffylau a haid o ieir dodwy;
  • Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar ddarparu profiad myfyrwyr cofiadwy i chi sy'n eich galluogi i lwyddo yn eich gradd.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth BG39920 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Critical Review BR36320 20
Research Project BR36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Crop and Grassland Production Science BR37220 20
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20
Organizational Psychology AB35420 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Marketing and Small Business Management BR34720 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael ar ôl astudio?

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen ac wedi llwyddo yn y meysydd canlynol:

  • Ymgynghorwyr amaethyddol
  • Ymgynghorwyr
  • Rheolwyr Ffermydd
  • Syrfewyr arferion gwledig
  • Gwasanaethau cyllid
  • Maetheg anifeiliaid

Dylai myfyrwyr sy'n dymuno cael y profiad gwaith perthnasol y mae cyflogwyr yn chwilio amdano gan raddedigion edrych ar y chwaer gwrs Amaethyddiaeth gyda Rheoli Busnes (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) 4D12. Mae'r chwaer gwrs yn union yr un fath â'r cwrs hwn, ond bydd gennych flwyddyn ychwanegol i ymgymryd â lleoliad profiad gwaith mewn amgylchedd sy'n berthnasol i'r radd hon. 

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Amaethyddiaeth a Rheoli Busnes yn eich paratoi drwy ddarparu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn ystod y flwyddyn gyntaf byddwch yn darganfod;

  • Technolegau sy'n cael eu datblygu a'u defnyddio'n gynyddol ar gyfer y diwydiant amaethyddol
  • Ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir
  • Nodi gofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawnfwyd
  • Marchnata
  • Rheoli
  • Cyfrifo a Chyllid

Yn ystod yr ail flwyddyn byddwch yn archwilio;

  • Effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd
  • Systemau a strategaethau cynhyrchu cnydau
  • Systemau cynhyrchu anifeiliaid
  • Sut i ddadansoddi, cyllidebu a gwerthuso busnes fferm

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Technegau cynllunio busnes, a sut i ffurfio cynlluniau busnes fferm manwl
  • Systemau cynhyrchu cnydau
  • Strategaethau bridio planhigion modern
  • Defnydd o gnydau ar gyfer cynhyrchu bioynni
  • Effeithiau amgylcheddol gwahanol systemau amaethyddol

Bydd cwrs wythnos, yn cynnwys ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy'n rhan o waith rheoleiddio a rheoli cefn gwlad, yn eich galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau, gweithdai, gwaith ymarferol, teithiau astudio a dangosiadau.

Mae ein dulliau asesu yn amrywio, ac yn cynnwys traethodau, adroddiadau a gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, arholiadau, cynlluniau, taflenni gwaith, llyfrau nodiadau maes ac astudiaethau achos.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae gan y cwrs Amaethyddiaeth gymysgedd gwych o fodiwlau sydd wedi agor fy llygaid i lawer o agweddau eraill ar amaethyddiaeth. Fel arfer mae'r wybodaeth am bynciau pwysig a gaiff ei rhoi mewn darlithoedd yn syml ond yn drylwyr, sy'n golygu bod y gwaith yn hawdd ei ddeall a'i gofio. Mae'r ymweliadau â'r ffermydd yn brofiad da hefyd, gan eu bod yn rhoi cyfle i chi gael arsylwi a deall gwahanol systemau. Mae hefyd yn ddiddorol clywed barn ffermwyr a'r gwahanol ffyrdd maen nhw'n gweithredu systemau sy'n gweddu i'w busnes. Aled Rhys Lewis

Mae Busnes a Rheolaeth yn rhoi cipolwg academaidd ar ymddygiad busnesau yn eu hamgylcheddau allanol a mewnol, gan alluogi unigolion i amgyffred cyd-destun ehangach gweithrediadau yn llawn mewn cyd-destun byd-eang, mewn modd addysgiadol a diddorol. Mae'n amrywiol gan ei fod yn archwilio ystod o bynciau busnes. Caiff myfyrwyr brofi economeg, cyfrifo a marchnata, gan ddarparu sail gref mewn ystod eang o feysydd busnes y gellir ehangu arnynt yn yr ail a'r drydedd flwyddyn. Roedd y modiwlau yn paratoi unigolion i ddeall amrywiaeth o weithrediadau busnes. Andrea Jane Phillips

Mae'r cwrs wedi bod yn help mawr i fi, ac wedi rhoi hyder i fi ym maes marchnata a busnes, yn enwedig pan oedden ni'n gweithio fel ymgynghorwyr busnes ar gyfer Aber Town Trader o fewn Astudiaethau Achos Marchnata. Mae'n rhoi cipolwg i ni o waith yn y dyfodol, ac mae'n brofiad gwaith gwych i fyfyrwyr. Roedd Cyfathrebu Marchnata y tymor diwethaf hefyd yn bwnc diddorol iawn, gan i ni ddysgu a dadansoddi gwahanol ddulliau cyfathrebu mae cwmnïau'n eu defnyddio i farchnata er mwyn cyrraedd eu cynulleidfa darged a chwsmeriaid posib. Mae'r cyfleoedd yma wedi bod yn wych, ac yn dda i'w rhoi ar eich CV fel profiadau! Dwynwen Medi Evans

Mae astudio Busnes a Rheolaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy nealltwriaeth, a gwerthfawrogi'r byd rydyn ni'n byw ac yn gweithio ynddo yn well. Gyda dealltwriaeth gyfyngedig o Fusnes a Rheolaeth cyn astudio, rydw i wedi cael budd mawr o'r cwrs yma, a'r gallu i ddewis a dethol pa lwybr roeddwn i eisiau ei ddilyn. Drwy ystod o sesiynau dysgu rhyngweithiol ac yn y dosbarth, blodeuodd fy angerdd tuag at y pwnc. Mae'r radd yma wedi sbarduno fy awydd i barhau ag addysg i'r lefel nesaf, er mwyn sicrhau dealltwriaeth fwy trylwyr o'r amgylchedd busnes. Peter Hamilton-Gray

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, i gyd yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd; darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coetiroedd tawel, golygfeydd trawiadol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna'r pethau gorau am amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|