FDSc

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D403 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Galwedigaeth a ffordd o fyw yw amaethyddiaeth. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid neu gnydau, ucheldir neu iseldir, systemau ffermio dwys neu lai dwys, bydd ehangder a dyfnder yr addysgu yn y Radd Sylfaen Amaethyddiaeth hynod boblogaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn darparu ar gyfer eich anghenion.

Mae'r cwrs tair blynedd hwn yn cael ei ddysgu yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, athorfa hynod nodedig mewn ardal sy'n enwog am ei harddwch a'i harloesedd, ei chynhyrchiant a'i hamrywiaeth amaethyddol.

Dyma pam mae Aberystwyth yn lle gwych i chi yn ein barn ni:

  • Cyfleusterau addysgu modern sy'n rhoi'r sgiliau ymarferol a'r sylfaen wybodaeth wyddonol i chi fel sail i'ch gyrfa yn y dyfodol;
  • Ymweliadau â ffermydd a busnesau sy'n arweinwyr y diwydiant am arloesi ac sydd â gwybodaeth dechnegol arbennig;
  • Profiad gwaith fel rhan o'r cwrs;
  • Llwybr dilyniant at lefel gradd anrhydedd;
  • Gallwch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r Radd Sylfaen hon mewn Amaethyddiaeth yn gymhwyster galwedigaethol tair blynedd sy'n addas i unrhyw un sy'n dymuno datblygu eu gwybodaeth am ffermio neu sydd am ail-hyfforddi i ddilyn gyrfa mewn amaethyddiaeth. Mae'n cynnwys blwyddyn yn gweithio yn y diwydiant amaeth.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Wrth i chi gyflawni'r cwrs, byddwch yn astudio pynciau fel:

  • Systemau cynhyrchu anifeiliaid
  • Gwyddor anifeiliaid
  • Maeth anifeiliaid
  • Rheoli pridd a chnydau
  • Gwyddor planhigion
  • Agronomeg a gwella cnydau
  • Busnes, economeg a defnydd tir
  • Cyllidebu ac arfarnu busnes fferm
  • Technoleg amaethyddol
  • Systemau amaethyddol
  • Ffermio bwyd a'r amgylchedd

Mae'n bosib y bydd cyfle hefyd i ennill ardystiad drwy sefydliadau galwedigaethol cydnabyddedig fel LANTRA.

A fydda i'n cael profiad gwaith sy'n fy ngwneud i'n fwy cyflogadwy?

Mae'r Radd Sylfaen tair blynedd yn gofyn i fyfyrwyr gwblhau lleoliad gwaith naw mis rhwng y flwyddyn gyntaf a'r flwyddyn olaf. Mae hyn yn caniatáu i fyfyrwyr brofi blwyddyn gyfan ar fferm neu mewn busnes neu sefydliad cysylltiedig. Mae'n boblogaidd gyda myfyrwyr sydd eisiau teithio dramor ac ennill profiad ffermio yn Seland Newydd, Awstralia, Canada a'r tu hwnt!

Mae'n caniatáu i fyfyrwyr:

  • Gael profi'r gweithle amaethyddol
  • Cymhwyso gwybodaeth academaidd a galwedigaethol
  • Ennill profiad a sgiliau sy'n eu gwneud yn llawer mwy cyflogadwy.

Athrofa ymchwil ac addysgu fyd-enwog 

  • Mae ein myfyrwyr wedi ennill gwobr "Myfyriwr Bioleg y Flwyddyn" yn y Gwobrau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg Ewropeaidd (SET), a Gwobr Myfyriwr Undeb Adaregwyr Cymru!
  • Cyflwyniad Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ar y cyd â Phrifysgol Bangor, oedd y pumed cyflwyniad cryfaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).

Cyflawniadau ein myfyrwyr

  • Enillwyr Gwobr Dairy Crest am Fyfyriwr Godro'r Flwyddyn yn 2013 gan Gymdeithas Frenhinol Ffermwyr Godro Prydain, ac ail wobr yn 2016
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chlybiau Ffermwyr Ifanc yn dewis Caryl Hughes yn 2013/14 a Tudur Parry yn 2014/15 i redeg fferm gwerth £1 miliwn yn Eryri
  • Enillwyr 'Fferm Ffactor' sawl tro yn olynol
  • Bugail Ifanc y Flwyddyn Cymru a'r Bugail Ifanc Ewropeaidd yn 2013

Staff addysgu angerddol sy'n arbenigo yn eu maes

Mae llawer ohonynt wedi ennill gwobrau am eu haddysgu ac maent yn dod o ystod amrywiol o gefndiroedd, gydag ystod eang o arbenigedd a chysylltiadau helaeth â'r diwydiant amaethyddol. Gallwch fod yn hyderus y byddwch yn dysgu gan y goreuon!

Alla i fynd ymlaen i astudio'r radd BSc?

Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus yn cael cynnig mynediad yn awtomatig i'r ail flwyddyn o raglen radd addas.

Bydd myfyrwyr sy'n dangos perfformiad da a chyson yn cael cynnig mynediad i flwyddyn olaf rhaglen radd addas.

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

Caiff rhai o'n modiwlau eu haddysgu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Os byddwch yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg efallai y byddwch yn gymwys i gael bwrsariaeth hael.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau RG27620 20
Business Budgeting and Appraisal RD22520 20
Food, Farming and the Environment RD20420 20
Livestock Production Systems RD23420 20
Dulliau Ymchwil RG27520 20
Science and Technology in Agriculture RD20720 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael ar ôl astudio?

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen ac wedi llwyddo yn y swyddi canlynol:

  • Ffermwyr
  • Rheolwyr Fferm
  • Agronomegwyr
  • Ymgynghorwyr busnes amaethyddol
  • Arbenigwyr polisi amaethyddol
  • Maethegyddion anifeiliaid
  • Rheolwyr mentrau amaethyddol technegol.

Ar ôl dilyn gradd sylfaen lwyddiannus, byddwch yn cael eich annog i symud ymlaen i un o'n cyrsiau gradd anrhydedd, a byddwch yn cael gwybod am eich opsiynau wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Amaethyddiaeth yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y rhaglen tair blynedd. 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio: 

  • Technolegau sy'n cael eu datblygu'n gynyddol ar gyfer y diwydiant amaethyddol ac sy'n cael eu defnyddio ganddynt;
  • Ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd o dir;
  • Y prif adnoddau sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig;
  • Gofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawnfwyd;
  • Yr egwyddorion gwyddonol sy'n rheoli prosesau tyfu planhigion a chnydau yn y maes;
  • Systemau cynhyrchu da byw a'u pwysigrwydd o ran cynhyrchu bwyd yn y byd;
  • Ystyried rôl biotechnoleg mewn ffisioleg a gwyddor maeth gwell. 

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech astudio'r pynciau hyn ymhellach:

  • Diwydiannau da byw gwledydd Prydain;
  • Systemau a strategaethau cynhyrchu cnydau;
  • Sut i ddadansoddi, cyllidebu ac arfarnu busnes fferm;
  • Effeithiau ecolegol methodolegau cynhyrchu bwyd modern;
  • Cyfleoedd i gael sgiliau ymarferol ardystiedig a phrofiad mewn meysydd megis defnyddio llif gadwyn a defnyddio plaladdwyr. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau, gweithdai, gwaith ymarferol, teithiau astudio a dangosiadau.

Mae ein dulliau asesu yn amrywio, ac yn cynnwys traethodau, adroddiadau a gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, arholiadau, cynlluniau, taflenni gwaith, llyfrau nodiadau maes ac astudiaethau achos.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 96 - 72

Safon Uwch CCC-DDD

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics or a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:
MMP-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
24-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
60% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|