BSc

Ymddygiad Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Ymddygiad Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C122 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Sut a pham mae anifeiliaid yn ymddwyn fel y maent? Mae gwyddonwyr sy'n astudio ymddygiad anifeiliaid yn defnyddio dulliau trwyadl, gwyddonol i ateb cwestiynau o'r fath. Mae'r astudiaeth wyddonol o ymddygiad anifeiliaid yn darparu cipolwg gwych i'r ffyrdd y mae anifeiliaid yn goroesi ac yn atgenhedlu yn eu hamgylcheddau deinamig, mae'n hanfodol er mwyn gwarchod a rheoli rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl yn llwyddiannus, ac mae'n hanfodol i wella lles anifeiliaid dof a domestig. Mae'r amrywiad hwn ar ein cynllun Ymddygiad Anifeiliaid yn cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant rhwng yr ail a'r bedwaredd flwyddyn o astudio. Bydd blwyddyn o brofiad gwaith yn gwella eich rhagolygon cyflogaeth yn fawr, ac yn rhoi mantais i chi wrth ddilyn gyrfa mewn Ymddygiad Anifeiliaid!

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited Degree

Pam astudio BSc Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan staff addysgu brwdfrydig sy'n cynnal ymchwil ar draws y sbectrwm o rywogaethau anifeiliaid ac ymatebion ymddygiadol.
  • Bydd gan bob myfyriwr fynediad i labordai ac offer gwych, gan gynnwys offer tracio radio, blychau nythu, labordai ac acwaria, yn ogystal â chasgliad o sbesimenau hanesyddol. Mae cynefinoedd lleol rhyfeddol gan gynnwys arfordiroedd, aberoedd, coetiroedd a bryniau, sy'n rhoi mynediad i rywogaethau megis barcutiaid coch, brain coesgoch, morloi llwyd, dolffiniaid trwyn potel a llamidyddion. Ac os oes gennych chi fwy o archwaeth am waith maes, gallwch ddilyn y cwrs maes preswyl mewn ymddygiad anifeiliaid hefyd.
  • Byddwch yn cyflawni blwyddyn integredig mewn diwydiant a fydd yn cael ei asesu ac yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Rhaid i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith eu hunain o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, a rhaid iddo fod yn berthnasol i Ymddygiad Anifeiliaid. Os na all myfyrwyr sicrhau lleoliad bydd angen iddynt drosglwyddo i gwrs BSc Ymddygiad Anifeiliaid C120 yn lle.
  • Er efallai na thelir am eich profiad gwaith, bydd myfyrwyr yn talu ffi ostyngol yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant. Mae'r manylion yn llawn ar gael yma.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Disease Diagnosis and Control BR15420 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Behavioural Ecology BR23920 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Vertebrate Zoology BR26820 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Animal Behaviour BR30220 20
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Parasitology BR33820 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Pa yrfaoedd mae ein myfyrwyr yn eu dilyn?

Mae llawer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio graddau Meistr neu PhD, gan anelu i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth bur neu gymhwysol, neu gyfathrebu gwyddoniaeth. Mae eraill wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd fel technegwyr anifeiliaid gwyddonol a chynorthwywyr labordai meddygol. Yn ystod eu hastudiaethau, mae llawer o'n myfyrwyr wedi gwirfoddoli ar brosiectau cadwraeth fel Prosiect Adfer y Bele a rhaglen fridio Lyncs Iberaidd mewn caethiwed, neu ar gyfer sefydliadau fel yr RSPB.

Eich blwyddyn mewn diwydiant:

Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.

Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:

  • I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
  • I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
  • I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
  • I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
  • I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.

Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.

Dysgu ac Addysgu

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen eang i chi mewn bioleg, a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Esblygiad ac amrywiaeth bywyd
  • Ffisioleg anifeiliaid
  • Gwneud diagnosis o glefydau anifeiliaid a'u rheoli
  • Fforenseg bywyd gwyllt
  • Sgiliau astudio a chyfathrebu, a llawer mwy.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol mewn ymddygiad anifeiliaid, ac yn ennill sgiliau gwyddonol hanfodol. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Etholeg, sef astudiaeth wyddonol o ymddygiad anifeiliaid
  • Gwyddor sw fodern
  • Iechyd milfeddygaeth
  • Gweithdrefnau meintiol ac ansoddol dadansoddi data
  • Dylunio a chynllunio da ar gyfer ymchwil

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch profiad gwaith mewn diwydiant sy'n berthnasol i faes Ymddygiad Anifeiliaid.

Yn eich blwyddyn olaf, bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Ymddygiad a lles anifeiliaid domestig
  • Y mecanweithiau ffisiolegol y tu ôl i ymddygiad anifeiliaid
  • Prosiect ymchwil traethawd hir gorfodol
  • Modiwlau opsiynol wedi'u dewis o ddetholiad gan gynnwys cadwraeth bywyd gwyllt, pynciau uwch mewn ymddygiad anifeiliaid, a chwrs preswyl; cwrs maes ymddygiad anifeiliaid

Rhagor o wybodaeth:

  • Cyfosod gwybodaeth o lenyddiaeth wyddonol
  • Deall ac esbonio goblygiadau datblygiadau mewn pynciau fel parasitoleg
  • Craffu ar ddata o ran ei ansawdd a'i faint
  • Ymateb i ddata newydd drwy ymchwilio mewn labordy
  • Datblygu eich sgiliau ymarferol mewn trin anifeiliaid sy'n ychwanegu at eich gwybodaeth ddamcaniaethol

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd eich cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion.

Byddwch yn cael hyfforddiant mewn cysyniadau, ymchwil a methodolegau sy'n ymwneud â gwyddor ymddygiad anifeiliaid. Gwneir hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau wedi'u ffeilio
  • Arholiadau

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|