BSc

Gwyddor Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Gwyddor Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D307 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Ar ein gradd Gwyddor Anifeiliaid, byddwch yn astudio’r wyddoniaeth gymhwysol sy’n ymwneud ag anifeiliaid dof, gan gynnwys anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. Mae gennym gyfleusterau rhagorol i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys ffermydd prifysgol sy’n cael eu rhedeg ar sail fasnachol, canolfan geffylau ar gyfer dysgu, ac amrywiaeth o labordai dysgu ac ymchwil.

Trosolwg o'r Cwrs

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r fioleg allweddol sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid dof, gan gynnwys anatomi, ffisioleg, maeth, gwneud diagnosis o afiechydon, ac ymddygiad. Byddwch hefyd yn gallu datblygu diddordeb penodol mewn gwyddor da byw, gwyddor ceffylau, neu wyddor ymddygiadol, trwy ddewis un o dri llwybr y radd.

Bydd gan eich dealltwriaeth academaidd sylfaen gref yng nghyddestun ymarferol a chymwysedig gwyddor anifeiliaid, a chaiff ei datblygu ymhellach gan ddarlithwyr gwadd o wahanol feysydd o’r diwydiant gwyddor anifeiliaid.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Livestock Production Systems BR20420 20
Systemau Cynhyrchu Da Byw BG20420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Agriculture BR34820 20
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth BG34820 20
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20

Gyrfaoedd

Bydd graddedigion y cwrs hwn yn gymwys i fynd ymlaen i swyddi proffesiynol yn ymwneud â chymhwyso ymchwil wyddonol mewn sefydliadau preifat a chyhoeddus, mewn gwasanaethau cynghori ac ymgynghori, neu ym maes gorfodi deddfwriaeth lles, yn ogystal â’r diwydiannau porthiant anifeiliaid, bridio anifeiliaid, a fferyllol. 

Dysgu ac Addysgu

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • Anatomeg a ffisioleg anifeiliaid dof
  • Systemau cynhyrchu prif anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, llaeth, moch, cywion brwylio ac wyau)
  • Strwythur y celloedd
  • Biomoleciwlau
  • Geneteg
  • Metaboledd
  • A hyfforddiant mewn sgiliau cyfathrebu ac ymchwil

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • Ffisioleg ac anatomeg atgenhedlu mamolaidd yn ymwneud â da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes
  • Llesiant anifeiliaid
  • Y system imiwnedd
  • Bydd gennych opsiwn i ddilyn llwybr ceffylau, da byw neu ymddygiadol, gyda modiwlau sy'n benodol i'r llwybrau hyn
  • Y deunydd sydd ei angen ar gyfer y traethawd hir yn eich blwyddyn olaf
  • Cyfle i gynnal cyfnod o brofiad gwaith

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch profiad gwaith mewn diwydiant sy'n berthnasol i'r radd BSc Gwyddor Anifeiliaid.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn ymchwilio:

  • Biotechnoleg anifeiliaid
  • Bridio anifeiliaid
  • Parasitoleg
  • Clefydau heintus
  • Byddwch yn parhau i ddilyn y llwybr o'ch dewis, gyda'i fodiwlau penodol
  • Cyflawni traethawd hir gorfodol

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd eich cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion.

Byddwch yn cael hyfforddiant mewn cysyniadau, ymchwil a methodolegau sy'n ymwneud â gwyddor anifeiliaid. Gwneir hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Ffeilio llyfrau nodiadau
  • Arholiadau


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|