BSc

Gwyddorau Biofeddygol (Maeth, Iechyd ac Ymarfer Corff) (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Gwyddorau Biofeddygol (Maeth, Iechyd ac Ymarfer Corff) (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod B991 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r radd BSc Gwyddorau Biofeddygol yn caniatáu i chi archwilio cynnydd a thriniaeth afiechydon dynol drwy astudio sut mae celloedd, organau a systemau yn y corff dynol yn gweithredu. Drwy gydol y cwrs gradd, rhoddir ffocws penodol ar glefydau sy'n gysylltiedig ag oedran. Byddwch hefyd yn archwilio'r dulliau gwahanol o drin afiechydon a'r ystyriaethau o ran ffordd o fyw a ddefnyddir i helpu pobl i i fyw a heneiddio'n iach. Ymhellach, byddwch yn ennill y sgiliau labordy sydd eu hangen i adnabod a thrin clefydau dynol.

Byddwch yn archwilio'r broses o gyflwyno, rhannu, dileu a metaboleiddio cyffuriau yng nghyd-destun eu defnydd clinigol a dylunio cyffuriau. Byddwch hefyd yn gallu ymchwilio i sut y bydd maeth yn effeithio ar iechyd dynol yn ogystal â datblygu a chymhwyso dulliau arbrofol a ddefnyddir i asesu ffwythiant genynnau drwy ddilyniannu a mapio genom. O'r dadansoddiadau hyn, bydd gwybodaeth yn llywio strategaethau rhagfynegol newydd, gan nodi genynnau newydd a defnyddiol a thargedau posib ar gyfer cyffuriau; bydd dealltwriaeth o ymddygiad genynnau, a datblygiad cynhyrchion therapiwtig newydd hefyd yn cael ei darparu.

Ar y radd hon byddwch yn gwella eich rhagolygon ar gyfer y dyfodol gyda'n blwyddyn integredig mewn diwydiant, a all arwain at yrfaoedd ym meysydd addysgu, gofal iechyd clinigol a chymunedol, geneteg glinigol, dadansoddi fforensig mewn labordai neu batholeg ddiagnostig. Bydd gyrfaoedd yn y sector treialon clinigol a rheoleiddio, y Gwasanaeth Iechyd neu'r diwydiannau ymchwil a datblygu ar gyfer y diwydiannau fferyllol, diagnosteg, dyfeisiau meddygol/offer labordy hefyd ar gael.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddorau Biofeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Mae maes llafur y cwrs hwn, gyda'r flwyddyn integredig mewn diwydiant, yn union yr un fath â'i chwaer gwrs, Gwyddorau Biofeddygol (B990). Fodd bynnag, bydd gennych flwyddyn ychwanegol o gyllid i gyflawni blwyddyn mewn diwydiant. Rhaid i'ch profiad gwaith fod yn berthnasol i'r radd hon, ac asesir y flwyddyn a bydd yn cyfri tuag at eich gradd;
  • Byddwch yn astudio gradd yn y Gwyddorau Biofeddygol gyda ffocws unigryw ar fioleg ddynol, iechyd, ymarfer corff a maeth;
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff brwdfrydig, ymroddgar a chyfeillgar sydd ag arbenigedd ar draws yr ystod lawn o bynciau biolegol;
  • Byddwch yn rhan o adran IBERS sydd ag uned ymchwil ddynodedig ar gyfer asesu lles ac iechyd;
  • Bydd eich astudiaethau academaidd yn cael eu hategu gan gyfoeth o waith labordy a gwaith maes sy'n meithrin sgiliau gwyddonol go iawn sy'n hanfodol ar gyfer eich dyfodol;
  • Mae ein cyfleusterau addysgu ac E-ddysgu yn rhoi profiad dysgu rhagorol i chi gan integreiddio'r sesiynau dosbarth a storfa enfawr o adnoddau astudio;
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi a all eich arwain dros eich cyfnod yn Aberystwyth a'ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd yma gyntaf;
  • Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog sy'n darparu profiad ardderchog i fyfyrwyr ac amgylchedd trawiadol i fyw a dysgu ynddo;
  • Ar ôl y radd, byddwch mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa mewn diwydiannau iechyd a meddygol, astudio ar lefel uwchraddedig neu ymrestru mewn ysgol feddygol.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biological chemistry BR17320 20
Bioleg Celloedd BG17520 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Human Anatomy and Kinesiology BR16420 20
Human Physiological Systems BR16320 20
Skills in Nutrition, and Science Communication BR17420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Cell and Cancer Biology BR25920 20
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Sport & Exercise Physiology BR27420 20
Sport and Exercise Nutrition BR22520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Sports Nutrition BR30920 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Injury and Rehabilitation BR32020 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Molecular Biology of Development BR36020 20
Molecular Pharmacology BR36120 20
Parasitology BR33820 20
Training and Performance Enhancement BR34420 20

Gyrfaoedd

Gyrfaoedd Posib

Mae ein graddedigion yn dod yn ymgeiswyr cryf ar gyfer y meysydd canlynol:

  • Biofeddygaeth;
  • Iechyd a Phroffesiynau Perthynol;
  • Addysg.

Gallai myfyrwyr sydd wedi graddio mewn Bioleg fynd ymlaen i gael hyfforddiant pellach ym maes Meddygaeth hefyd.

Mae gan y Brifysgol Wasanaeth Gyrfaoedd rhagorol ac mae gennym ein Cynghorwr Gyrfaoedd proffesiynol, ymroddedig ein hunain. Mae gennym aelod o staff hefyd sy'n Gyfarwyddwr Cyflogadwyedd i IBERS ac rydym yn ymdrechu'n gyson i wreiddio a gwella'r gwaith o gyflwyno sgiliau'r byd go iawn ym mhob modiwl a gynigiwn.

Pa sgil fydda i'n ei ddatblygu wrth astudio Gwyddorau Biofeddygol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:  

  • Sgiliau ymchwil a dadansoddi data;
  • Sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch;
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • Sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth;
  • Y gallu i weithio'n annibynnol;
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
  • Y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
  • Y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a Chynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Addysgu

Mae'r cynnwys dangosol sy'n ofynnol ar gyfer gradd mewn Gwyddorau Biofeddygol, gan gynnwys anatomeg ddynol, ffisioleg, biocemeg, geneteg, imiwnoleg, microbioleg, ffarmacoleg, bioleg foleciwlaidd a chelloedd a biowybodeg yn cael eu cwmpasu gan fodiwlau craidd y cwrs. Mae dewis o fodiwlau opsiynol hefyd a fydd yn eich helpu i ddysgu am asesu clinigol gyda sgiliau cleient/claf a/neu i ddatblygu sgiliau clinigol yn y labordy.

Dysgu

Mae'r radd Gwyddorau Biofeddygol wedi'i strwythuro i brofi eich gwybodaeth, i ddatblygu meddwl yn annibynnol a chaffael sgiliau ac i ddarparu'r math o wybodaeth drosglwyddadwy sy'n ddefnyddiol i gyflogwyr. Byddwch yn cael eich addysgu mewn gwahanol ffurfiau yn cynnwys rhai neu bob un o'r canlynol:

  • Adroddiadau labordy a/neu waith maes;
  • Adroddiad traethawd hir;
  • Asesiad profiad gwaith;
  • Ymarfer o dan oruchwyliaeth;
  • Cymwyseddau sgiliau labordy a/neu faes;
  • Gweithgareddau ar-lein;
  • Traethodau, crynodebau ac aseiniadau;
  • Ymarferion dehongli data;
  • Dadansoddi astudiaethau achos yn feirniadol;
  • Cyflwyniadau llafar, posteri a chyflwyniadau eraill megis erthyglau mewn cyfnodolion;
  • Arholiadau nas gwelwyd, arholiadau a welwyd neu lyfrau agored, asesiadau ar gyfrifiaduron.

Rhagor o wybodaeth

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP). Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|