BSc

Busnes a Newid Hinsawdd

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Busnes a Newid Hinsawdd 

BSc (Anrh)

Mae busnesau yn gyfranwyr allweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond maent hefyd yn rhan o’r ateb. Mae busnesau na fyddant yn ymateb i her yr hinsawdd yn debygol o wynebu costau uwch o ran trethi carbon a llai o gwsmeriaid. Ar y llaw arall, mae busnesau mwy blaengar sy’n addasu trwy ddatgarboneiddio a datblygu cynnyrch gwyrdd yn debygol o gynyddu eu perfformiad ariannol, cymdeithasol ac amgylcheddol - eu sylfaen driphlyg.


Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y radd Busnes a Newid Hinsawdd yn eich paratoi i ddod yn arweinwyr busnesau’r dyfodol a fydd yn mynd i’r afael yn uniongyrchol â newid yn yr hinsawdd trwy ddatblygu strategaethau ac arferion ystyrlon o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol.

Ar y radd hon, byddwch yn cyfuno gwybodaeth am wyddoniaeth newid yn yr hinsawdd â’r sgiliau sydd eu hangen i arwain busnes llwyddiannus. Mae’r radd yn archwilio ffyrdd creadigol y gall busnesau ymateb i her a chyfleoedd yr argyfwng hinsawdd presennol, a bydd yn rhoi ichi wybodaeth berthnasol sy’n benodol i’r pwnc, ynghyd â’r sgiliau a’r priodoleddau rhyngddisgyblaethol, rhyngbersonol sydd eu hangen er mwyn creu byd mwy cyfiawn a chynaliadwy.

Os mai eich bwriad yw cael dylanwad mwy cadarnhaol ar eich byd, bydd y cynllun hwn yn gychwyn cadarn ar y daith honno.

Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Climate and Climate Change BR16620 20
Interdisciplinary Approaches to Climate Change EN19920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig CB35540 40
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Crisis Writing WR31820 20
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Environmental Economics AB33220 20
Gender, Conflict and Security IP36720 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Global Logistics AB35320 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20
Population and Community Ecology BR33920 20

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Climate Change: Impacts, Perceptions, Adaptations
  • The Science of Climate
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes/Fundamentals of Management and Business
  • Understanding the Economy
  • Data Analytics
  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid/Fundamentals of Accounting and Finance
  • Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes/Marketing Principles and Contemporary Practice.

Yr ail flwyddyn:

  • Rheolaeth Adnoddau Dynol/Human Resource Management
  • Llywodraethu Newid Hinsawdd: modiwl efelychu/The Governance of Climate change: simulation module
  • Gweithrediadau a Rheoli’r Gadwyn Cyflenwi/Operations and Supply Chain Management
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods
  • Corporate Governance, Risk and Ethics.

Y flwyddyn olaf:

  • Traethawd Hir/Dissertation
  • Arweinyddiaeth Strategol/Strategic Leadership
  • Organisational Psychology.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|