BSc

Cyfrifiadureg / Ffiseg

Bydd Cyfrifiadureg a Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich trochi yn hanfodion cyfrifiadureg a ffiseg - y datblygiadau a'r arloesiadau technolegol diweddaraf. Gyda sylfaen gadarn yn egwyddorion craidd pob disgyblaeth wyddonol, mae strwythur y cwrs yn caniatáu i chi ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth sy'n cynnwys dadansoddi, dylunio, dewis datrysiad a gweithredu. Mae'r sgiliau y byddwch yn eu meithrin ar y cwrs hwn wedi'u harwain gan ymchwil blaengar, mewn amgylchedd dysgu cefnogol, a bydd galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr yn y dyfodol.


Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Cyfrifiadureg a Ffiseg yn Aberystwyth?

  • Gradd sydd wedi'i hachredu gan yBCS (y Sefydliad Siartredig ar gyfer Technoleg Gwybodaeth) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n rhoi'r cyfle gorau i chi pan fyddwch yn cyrraedd y farchnad swyddi gystadleuol.
  • Mae Ffiseg yn cael ei haddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
  • Bydd modd i fyfyrwyr ddefnyddio ein cyfleusterau a'n hoffer, sy'n cynnwys gweinyddion canolog a labordai Mac OS X a Linux.
  • Wedi'i haddysgu gan ddarlithwyr sydd â chysylltiadau agos gyda'r diwydiant a chynadleddau peirianneg meddalwedd.
  • Mae ein hymchwilwyr yn yr Adran Ffiseg yn cymryd rhan ar hyn o bryd ym mhrosiect ExoMars 2020, a gynhelir gan yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.
  • Bydd gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn fynediad at offer robotig, gan gynnwys Arduino, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.
Ein Staff

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfaol

Mae ein gradd yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd a meysydd megis:

  • dylunio meddalwedd
  • cyfathrebu a rhwydweithio
  • rhaglenni cyfrifiadurol
  • datblygu'r we
  • ymgynghori a rheoli technoleg gwybodaeth
  • dadansoddi a datblygu systemau
  • gwerthu a marchnata cyfrifiaduron
  • addysg
  • ffiseg feddygol
  • technegydd labordy gwyddonol
  • ymarferydd diogelu rhag ymbelydredd.

Pa sgiliau bydda i'n eu meithrin o'r radd hon?

Sgiliau cyflogadwyedd yw gwerthoedd craidd eich gradd.

Fel rhan o'ch gradd, bydd rhaid i chi gymryd rhan mewn cwrs preswyl, lle bydd gofyn i chi a myfyrwyr eraill weithio mewn timau i ddatrys problemau.

Bydd y gweithgaredd hwn yn annog ac yn gwella:

  • sgiliau cyfathrebu
  • sgiliau dadansoddi
  • rheoli amser
  • gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefniadol
  • sgiliau gweithredu
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn y radd gyfun Cyfrifiadureg a Ffiseg hon, byddwch yn rhannu'ch amser yn gyfartal rhwng pob pwnc.

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn cyflawni modiwlau craidd mewn:

  • datblygu meddalwedd
  • rhaglennu
  • cyfathrebu a thelemateg
  • dynameg glasurol
  • algebra a chalcwlws
  • ffiseg fodern a labordy. 

Mae'n hawdd trosglwyddo eich sgiliau rhifiadol a chyfrifiadol rhwng y ddwy ddisgyblaeth.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • dylunio rhaglennu
  • strwythurau ac algorithmau data.

Mae pob myfyriwr yn cyflawni'r modiwl Cylch Bywyd Datblygu Meddalwedd, sy'n cynnwys prosiect grŵp lle byddwch yn cymryd rôl sydd eisoes yn bodoli yn y diwydiant, megis rheolwr prosiect, dylunydd, neu reolwr sicrhau ansawdd, ac yn cynhyrchu cynnyrch meddalwedd sy'n gweithio, gan ddilyn yr arfer diwydiannol gorau ar bob cam. 

Byddwch hefyd yn astudio ffiseg fathemategol a thermol ochr yn ochr â mecaneg cwantwm a'ch dewis chi o fodiwlau opsiynol o'r ddwy adran.

Yn y drydedd flwyddyn, mae eich modiwlau craidd yn cynnwys y pynciau canlynol:

  • methodolegau hyblyg
  • mater cyddwysedig
  • electromagnetedd, ac atomau a moleciwlau.

Byddwch hefyd yn cyflawni prosiectau lle byddwch yn datblygu ac yn gweithredu darn o feddalwedd, ac yn ymchwilio i broblem o natur arbrofol, ddamcaniaethol, dadansoddi data, offeryniaeth, neu fodelu cyfrifiadurol o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff academaidd.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i weithdai, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, ymarferion, cyflwyniadau, gweithdai, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Cyfrifiadureg yn bwnc diddorol ac amrywiol iawn, gyda phwyslais ar ystod eang o bynciau, er enghraifft: peirianneg meddalwedd, datblygu'r we, rhwydweithio a chynllunio gyrfa. Mae'r cwrs yn ddymunol iawn, ac mae modd ei deilwra i allu a dewisiadau unrhyw un. Oliver Roe

Mae Ffiseg bob dydd yn gwella eich dealltwriaeth o'r bydysawd a phopeth rydyn ni'n ei brofi. Mae gwyddonwyr angerddol yn rhoi gwybod i chi am eu cyfraniadau tuag at wyddoniaeth sy'n flaenllaw ym maes ffiseg. Caiff eich amser ei rannu rhwng cael profiad ymarferol yn y labordy yn defnyddio offer cyffrous, yn cynnwys laserau, osgilosgopau a sbectomedrau, a darlithoedd fydd o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli. Mae pob modiwl yn herio eich deallusrwydd ac yn caniatáu i chi feddu ar y wybodaeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn elwa arno, ond nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn bodoli. Mae myfyrwyr yn rhagori, ac yn ehangu eu meddyliau. Mae angen amser ac ymdrech, ond mae'r sgiliau a'r ddealltwriaeth rydych chi'n eu meithrin o'r radd flaenaf. Sarah Chandler

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 112

Safon Uwch BBB-BBC gan gynnwys B mewn Ffiseg a B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Physics and B in Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Physics and Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Physics and Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|