BA

Cymraeg / Gwleidyddiaeth

BA Cymraeg / Gwleidyddiaeth Cod LQ25 Ymgeisio Nawr Cofrestrwch am Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Prif Ffeithiau

Cod LQ25
  • Cynnig lefel-A nodweddiadol

    BBB with B in Welsh 1st or 2nd Language

  • Hyd y Cwrs

    3 blwyddyn

  • Cyfrwng Cymraeg

    93%

Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad

Ymgeisio Nawr

Gwybodaeth ar gyfer mynediad ym mis Medi 2017 sydd ar y dudalen hon. I weld gwybodaeth am 2018, gan gynnwys y graddau gofynnol, edrychwch yn ein prosbectws.

Wrth ddewis astudio’r radd gyfun BA Cymraeg a Gwleidyddiaeth byddi’n rhannu dy amser rhwng Adran y Gymraeg a’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth yw’r adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n gallu dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Byddi’n astudio elfen Gwleidyddiaeth y radd hon yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sef y ganolfan orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio cysylltiadau rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn gartref i Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol ac ymchwil gyffrous yn creu profiad unigryw ac eithriadol yma, a hynny mewn awyrgylch gyfeillgar. Ceir cyfleoedd i ddatgblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn cynyddu dy gyfle am yrfaoedd.

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: 100% boddhad myfyrwyr (ACF 2017)

100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Ieithoedd yn genedlaethol. (DLHE 2017)

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: 95% boddhad myfyrwyr (ACF 2017)

95% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 1% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Cymdeithasol yn genedlaethol. (DLHE 2017)

  • Trosolwg
  • Modiwlau
  • Cyflogadwyedd
  • Addysg a Dysgu

Trosolwg

Pam Astudio Cymraeg a Gwleidyddiaeth yn Aberystwyth?

  • Byth oddi ar sefydlu y Coleg yn Aberystwyth yn 1872, bu Adran y Gymraeg yn cyfrannu’n loyw i ddysg a bywyd diwylliannol y genedl, ym meysydd llenyddiaeth a’r cyfryngau eraill, addysg, gwleidyddiaeth a newyddiaduraeth. Bu nifer o ysgolheigion a llenorion mwyaf nodedig Cymru yn dysgu ac yn astudio yma.
  • Fel adran rydym yn cynnal safonau sy’n gyson uchel ac yn cyflwyno cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod dy gyfnod yn fyfyriwr gyda ni byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol.
  • Mae cymuned glos a chyfeillgar iawn o fewn Adran y Gymraeg ac mae’r staff yn ymfalchïo yn eu perthynas â’i myfyrwyr. Byddi’n cael dy ddysgu gan staff sy’n arloesi yn eu meysydd. Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf (2014), cafodd 90% o ymchwil yr adran ei graddio fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn ogystal â hwn, cafodd hanner o’r holl ymchwil o’r adran cael ei dosbarthu yn rhagorol yn rhyngwladol a chwarter gyda’r gorau yn y byd. Wrth astudio yma byddi’n dyfnhau dy ddealltwriaeth o’r iaith, ei llenyddiaeth gyfoethog, a’i diwylliant. Yn Aberystwyth, mae’n anodd dianc o’r bwrlwm Cymraeg a Chymreig ac mae hynny’n fantais fawr i’r myfyrwyr sy’n dewis astudio Cymraeg fel pwnc.
  • Amcan elfen Gwleidyddiaeth y radd yw edrych yn fanwl ar waith a phatrymau llywodraeth, ac yn bwysicach fyth, ar ganlyniadau’r gwaith a’r patrymau rheiny. Mae’n ymwneud â gwleidyddion a llywodraethau, ond hefyd â grwpiau a mudiadau eraill megis cwmnïau rhyngwladol, undebau llafur, grwpiau cymdeithas sifil, ac eraill sy’n dylanwadu ar fywyd gwleidyddol. 
  • Mae elfen Gwleidyddiaeth y radd hon yn trafod y syniadau sy’n sail i’n bywydau o ddydd i ddydd, megis cyfiawnder, rhyddid, grym, cymuned, cydraddoldeb a dinasyddiaeth, a gwneir hynny wrth astudio ystod eang o wledydd a sefyllfaoedd.
  • Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath, ac mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. 
  • Mae’r Adran yn enwog am ei gwaith ymchwil arloesol ac yn cael ei chydnabod yr orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon sydd gyda’r dosbarthiadau Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. 
  • Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn ran o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yr yr Adran ei hun a’r tu hwnt.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg

Cyflogadwyedd

Rhagolygon Gyrfa

Mae graddedigion Cymraeg a Gwleidyddiaeth wedi bod yn hynod lwyddiannus wrth ddilyn eu gyrfaoedd. 

Mae rhai graddedigion wedi dilyn gyrfa yn:

  • Y gwasanaeth sifil (yn enwedig y Swyddfa Dramor, y Weinyddiaeth Amddiffyn, a’r Adran Datblygu Rhyngwladol); 
  • Sefydliadau rhyngwladol (NATO, yr Undeb Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig); 
  • Mudiadau anllywodraethol (Amnest Rhyngwladol, Oxfam); 
  • Ac ymchwil wleidyddol, gyda chwmnïau preifat yn ogystal ag yn San Steffan, Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd Ewrop. 
  • Mae eraill yn dilyn gyrfa yn y lluoedd arfog, y cyfryngau (fel newyddiadurwyr neu gyflwynwyr radio neu deledu), y gyfraith, a byd addysg.
  • Dewis poblogaidd arall yw aros ym myd addysg uwch, ac mae nifer da o raddedigion yn dewis aros i astudio am radd Meistr neu PhD yn y Brifysgol. 

Sgiliau Trosglwyddadwy 

Bydd astudio am radd mewn Cymraeg a Gwleidyddiaeth yn dy arfogi ag amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy sydd yn werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gallu gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser cyfyng
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Addysg a Dysgu

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

  • Mae Adran y Gymraeg yn cynnig nifer o fodiwlau yn y flwyddyn gyntaf sy’n cynnwys arolwg o rai o uchafbwyntiau ein llên o’r chweched ganrif hyd at y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Byddi’n cael cyflwyniad beirniadol i ryddiaith a barddoniaeth ddiweddar wrth ddilyn y modiwlau hyn.
  • Mae cyfres o ddarlithoedd ar wahanol agweddau ar hanes a thafodieithoedd y Gymraeg ar gael i fyfyrwyr iaith gyntaf yn y flwyddyn gyntaf, tra bydd myfyrwyr ail iaith yn cael cyfres o seminarau iaith. Mae’r modiwl ar gyfryngau diwylliant yn un poblogaidd arall, sy’n olrhain y gwahanol gyfryngau a ddefnyddiwyd i drosglwyddo diwylliant yng Nghymru.
  • Yn ystod dy ail a dy drydedd flwyddyn, bydd dewis eang o fodiwlau gen ti. Bydd y myfyrwyr iaith gyntaf ac ail iaith yn dewis o blith yr un modiwlau bellach. Mae’r modiwlau hynny’n cynnwys pethau mor amrywiol ag ‘Ysgrifennu Creadigol’, ‘Y Gymraeg: Iaith Dysg ac Iaith Cymdeithas’, ‘Y Gymraeg yn y Gweithle’ a ‘Hanes a Hanfodion Beirniadaeth Lenyddol’. Cei gyfle i ddewis a dethol modiwlau sydd o ddiddordeb penodol iti, neu ddewis rhai mwy galwedigaethol eu natur.
  • Bwriad modiwlau blwyddyn gyntaf yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw rhoi sail eang o wybodaeth i ti wrth baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn dy gyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth ryngwladol. Galli hefyd ddewis o blith nifer o fodiwlau eraill a chei ddewis pynciau sydd o ddiddordeb penodol iti.
  • Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, cei gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Mae enghreifftiau o fodiwlau yn cynnwys ‘Globaleiddio, Gwrthiant a Newid yng Ngwleidyddiaeth y Byd’, ‘Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol’ a ‘Rhyfel, Gwleidyddiaeth a Strategaeth’. Mae’r modiwlau hyn yn adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, sy’n golygu bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael clywed y syniadau diweddaraf cyn iddynt hyd yn oed gael eu cyhoeddi a’u gwerthu yn y siopau llyfrau!

Sut y byddi’n cael dy ddysgu?

  • Yn Adran y Gymraeg gwneir y dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Mae gwaith y myfyrwyr yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion.
  • Yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr. Mae rhai modiwlau yn Rhan Dau (yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sydd fel rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu.
  • Asesir y rhan fwyaf o fodiwlau drwy gyfuniad o arholiadau a thraethodau, ond defnyddir prosiectau, cyflwyniadau ac adolygiadau llyfr i asesu myfyrwyr o bryd i’w gilydd. Tiwtor Personol Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti am gyfnod cyfan dy gwrs gradd, a bydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Lefel A BBB with B in Welsh 1st or 2nd Language

Gofynion TGAU (grade C min):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-DDM with B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Myfyrwyr Rhyngwladol

Bagloriaeth Ryngwladol:
30 points overall with B in Welsh 1st or 2nd Language

Bagloriaeth Ewropeaidd:
70-75% overall with B in Welsh 1st or 2nd Language

Ystyrir ymgeiswyr yn ôl eu rhinweddau unigol a gall y cynigion amrywio. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig