BA

Cymraeg / Hanes Cymru

Prif Ffeithiau

Cod QVN1
  • Cynnig lefel-A nodweddiadol

    BBB with B in Welsh 1st or 2nd Language

  • Hyd y Cwrs

    3 blwyddyn

  • Cyfrwng Cymraeg

    99%

Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad

Ymgeisio Nawr

Wrth ddewis astudio’r radd BA Cymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n rhannu dy amser rhwng dwy adran uchel iawn eu bri. Yn elfen Gymraeg y radd hon, cyflwynir cyrsiau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Yn ystod dy gyfnod yn fyfyriwr yn yr adran Gymraeg hwn byddi’n cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cei dy ddysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddi’n dilyn cwrs cyffrous a heriol. Wrth ddilyn elfen hanes y radd hon, cei gyfle i astudio amrywiaeth o gyfnodau hanesyddol a datblygu dy ddiddordebau hanesyddol, gan ehangu a dyfnhau dy wybodaeth a dy ddealltwriaeth o’r pwnc. Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio elfen o hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd y radd hon yn dy alluogi i roi’r gorffennol mewn persbectif gan feithrin sgiliau dadansoddol dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd. 

Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd

Ymhlith y 5 uchaf yn y DU ym maes Astudiaethau Celtaidd (Canllaw Prifysgolion Da y 'Times' a'r 'Sunday Times' 2019).

Yr Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: 90% boddhad myfyrwyr (NSS 2018)

100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn genedlaethol. (HESA 2018*)

Adran Hanes a Hanes Cymru: 91% boddhad myfyrwyr (ACF 2018)

99% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chew mis ar ôl graddio, 6% yn uwch na graddedigion o’r Astudiaethau Hanesyddol ac Athronyddol yn genedlaethol.(HESA 2018*)

Trosolwg

Pam Astudio Cymraeg a Hanes Cymru yn Aberystwyth? 

  • Mae Hanes wedi’i ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r hynaf yng Nghymru ac un o’r blaenaf ym Mhrydain
  • Mae ein graddau’n arloesol sy’n sicrhau y cewch y cymhwyster gorau
  • Fe’n graddiwyd yn uchel gan ein myfyrwyr yn yr Arolwg Blynyddol o Fyfyrwyr (NSS)
  • Mae ein meysydd pwnc yn amrywio o hanes cynnar i hanes modern, hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol, hanes economaidd a diwylliannol
  • Dewis eang – Mae amrywiaeth hynod ddiddorol o cyrsiau unigol ar gael yn yr Adran, sy’n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr: hanes ein llên a llenyddiaeth gyfoes, theori lenyddol, llenyddiaeth plant, llên gwerin, astudiaethau menywod ac astudiaethau rhywedd, ysgrifennu creadigol a sgriptio, cyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, yr iaith mewn cyd-destunau proffesiynol, cyfieithu ac addasu, y Gymraeg a'r cyfryngau, cymdeithaseg yr iaith Gymraeg.
  • Iaith Gyntaf ac Ail Iaith – mae’r cynllun gradd hwn yn cynnwys llwybrau Ail Iaith ac Iaith Gyntaf. Mae’r manylion ar gael yn llawn ar y dudalen Dysgu ac Addysgu.
  • Mae gennym lyfrgell hawlfraint ar y campws, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • Cyfleoedd cyfnewid cyffrous ar gael
Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Core

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Themâu a Ffigurau Llên c.550–1900 CY11120 20
Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw CY11220 20
Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol CY11520 20
Cyflwyno Hanes * HA12120 20
Trafod y Byd Cyfoes trwy'r Gymraeg * CY11620 20
Ysgrifennu Cymraeg Graenus CY11720 20
Sgiliau Astudio Iaith a Llên CY13120 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY11420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1250-1800 * HC11120 20
Cymru a'r Byd: Cysylltiadau a Dylanwadau 1860 - 2000 HC11520 20
Cymru yn Oes y Chwyldro, 1773-1850 HC11420 20
Oes y Fictoriaid HA13820 20
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg

Core

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
America and Britain During the Great Depression HY10620 20
Crisis, Rebellion and Faith: Europe 1000-1517 HY11320 20
Manners & Misdemeanours:Polite Society in 18th Century Engla HY12820 20
Age of Magna Carta-England and Its Neighbours C1180-C1280 HY12520 20
Britain, Germany and the Great War HY13520 20
Modernity and the Making of Asia HY15220 20
The Black Death HY12620 20

Core

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Gloywi Iaith CY20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concro’r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Diwylliant, Cymdeithas a’r Fictoriaid HA29320 20
Y Rhyfel Mawr trwy Lygaid y Cymry HC22320 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
Llunio Hanes * HA20120 20
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg

Core

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Age of Empire: Britain and Ireland, 1850-1914 HY26920 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 * WH23420 20
East and West in the Age of crusades, c. 1050-c.1250 HY25120 20
European Society and the Medieval Mind 1200-1500 HY25820 20
Expansion, Intervention and Influence: The United States as a Continental Power HY29120 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY28420 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Medieval London: national capital, international city HY28020 20
Oral History: The Past in the Present HY22520 20
Researching with Letters and Diaries HY22620 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Seals in Their COntext in Medieval England and Wales HY24420 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The Great Divergence: Europe and Asia, c.1300-c.1800 HY26320 20
The Ottoman EMpire and Early Modern travel Writing HY22220 20
The Rise of Modern Medicine, c.1750-2000 HY27320 20
Women and Gender in Britain, c.1800-1950 HY26820 20

Cyflogadwyedd

Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn Hanes Cymru a Cymraeg?

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol;

  • Addysg
  • Y Gyfraith
  • Archifwyr
  • Cyhoeddwyr
  • Gwleidyddion
  • Gweision Sifil
  • Y Cyfryngau
  • Y Lluoedd Arfog
  • Entrepreneuriaid

Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch;

  • Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw
  • Guto Bebb, Aelod Seneddol
  • Dr Joanne Cayford, Cyflwynydd Newyddion y BBC
  • Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel
  • Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!

Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:

‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’

Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor

  • Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd.  https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/

Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:

  • Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.

Addysg a Dysgu

Beth fyddaf i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe allech ddarganfod;

  • Cysyniadau newydd a sgiliau hanesyddol
  • Dulliau a chyfnodau newydd
  • Hanes Cymru o 1250-1800
  • Pa agwedd ar y Gymraeg sydd o ddiddordeb mwyaf i chi. Byddwch chi'n dysgu am amrywiaeth o gyfnodau llenyddol ac agweddau eraill ar y pwnc fel y gallwch ddylunio eich cyfuniad unigryw chi o fodiwlau yn yr ail a'r drydedd flwyddyn.
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain
  • Moderniaeth a chreu Asia
  • Gweithiau hanesyddol diweddar cyffrous
  • Ein dewis o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang

Yn ystod eich ail flwyddyn gallech archwilio;

  • Dull hanesyddol, sy’n edrych ar y ffordd mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser
  • Hanes Ewrop
  • Modiwlau iaith eraill er mwyn datblygu eich hyder ymhellach a byddwch chi hefyd yn gallu dewis o blith yr amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael gan yr Adran.
  • Yr Almaen a Natsïaeth
  • Yr Ymerodraeth Brydeinig: Prydain ac Iwerddon, 1850-1914
  • Golwg ar grefft yr hanesydd
  • Ein gwahanol bynciau a chyfnodau o’n rhestr helaeth o fodiwlau

Yn ystod eich trydedd flwyddyn gallech astudio;

  • Pwnc arbennig sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil dwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol sydd oll yn eich galluogi i ddefnyddio sgiliau ymchwil beirniadol hanesydd ymarferol
  • Rhywedd mewn Hanes
  • Cymdeithas Prydain a’r chwyldro Ffrengig
  • Hanes, Crefydd a Dewiniaeth
  • Stalin a Rwsia

Sut fyddaf i’n cael fy addysgu a fy asesu?

Bydd y gwahanol ddulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir gennym ni yn yr adran yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau mewn rhoi cyflwyniad i grŵp bach (seminarau ac asesu llafar), ysgrifennu ffurfiol (traethodau), ymchwil a datblygu syniadau ar ffurf ysgrifenedig (traethawd hir), a gweithio fel rhan o dîm (seminarau a chynadleddau myfyrwyr, fel y Colocwiwm Canoloesol blynyddol yng Ngregynog). Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau academaidd unigol i bob myfyriwr, sy’n anarferol y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt, a cheir system gefnogol o diwtoriaid personol. Drwy’r cyswllt un i un hwn, byddwch yn gallu trafod gyrfaoedd posibl, neu efallai astudiaethau pellach, gyda mentoriaid academaidd.

Barn ein Myfyrwyr

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.
Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.
Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.
Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.
Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!
Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi! Ceri Phillips

Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy nghradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac wedi dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny hefyd yn y brifysgol. Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma. Heledd Eleri Evans

Darganfod Mwy

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Lefel A BBB with B in Welsh 1st or 2nd Language

Gofynion TGAU (grade C min):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-DDM with B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Bagloriaeth Ryngwladol:
28 points overall with B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Bagloriaeth Ewropeaidd:
70-75% overall with B in A level Welsh 1st or 2nd Language

Mae'r Brifysgol yn gweithredu polisi derbyn cynhwysol a gall ein cynigion amrywio. Edrychwch ar ein tudalennau gwlad-benodol i gael manylion am y cymwysterau rhyngwladol yr ydym yn eu derbyn. I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig