BA

Cymraeg / Hanes

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

O ddewis astudio’r radd BA Cymraeg / Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn rhannu eich amser rhwng dwy adran uchel iawn eu bri lle cewch eich dysgu mewn grwpiau bach, cyfeillgar. Mae Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn arwain y sector mewn meysydd fel ysgrifennu creadigol, y Gymraeg yn y gweithle proffesiynol ac astudiaethau cyfieithu. Mae Hanes wedi’i ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran Hanes a Hanes Cymru yw'r adran hynaf yng Nghymru ac un o’r blaenaf yn y Deyrnas Unedig. Ar fodiwlau Cymraeg y radd hon, cyflwynir pynciau deniadol, diddorol a pherthnasol i’n ffordd o weld Cymru a’r byd drwy’r Gymraeg. Bydd y modiwlau Hanes yn cyflwyno themâu o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw ac yn cwmpasu hanes gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol. Ceir cyfuniad hynod ddiddorol o bynciau ar y cwrs, a bydd ennill gradd Cymraeg / Hanes yn cynnig cyfleoedd i weithio mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol yng Nghymru a’r tu hwnt. 

Trosolwg o'r Cwrs

Yn ystod eich cyfnod yn fyfyriwr yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd byddwch yn cael dewis o amrywiaeth helaeth o fodiwlau sy’n rhychwantu ystod eang o ddiddordebau ac yn dod yn rhan naturiol o’r bwrlwm sy’n gysylltiedig â’r Adran. Cewch eich dysgu gan arbenigwyr sydd yn arloesi yn eu maes a byddwch yn dilyn cwrs cyffrous a heriol. Byddwch yn dewis o blith ein casgliad eang o fodiwlau sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil diweddaraf ein darlithwyr, o hanes ein llên i lenyddiaeth gyfoes, ac o gymdeithaseg yr iaith Gymraeg i gyweiriau a thafodieithoedd y Gymraeg, ac ysgrifennu creadigol a sgriptio. 

Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd y mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, bydd astudio hanes yn eich galluogi i roi’r gorffennol mewn persbectif drwy roi cyfle i chi feithrin y sgiliau sy’n hanfodol i fod yn hanesydd, sef dadansoddi, dehongli a chyfathrebu. Yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru cewch gyfleoedd i weithio gyda ffynonellau cynradd o ddechrau’r cwrs. Cewch hefyd gyfle i ddeall lle ynysoedd Prydain yn Ewrop ac yn y byd yn ehangach, o gyfnod yr oesoedd canol hyd heddiw, drwy ddethol o blith yr ystod eang o fodiwlau fydd ar gael i chi. 

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith CY20120 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY25620 20
Reading a Building HY23120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY28920 20
Seals in Their Context in Medieval England and Wales HY24420 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY26720 20

Gyrfaoedd

Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn Cymraeg / Hanes? 

Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu llu o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Dyma rai enghreifftiau: 

  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • gweithio’n annibynnol 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd â therfynau amser tynn 
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth 
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth. 

Rhagolygon Gyrfa 

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn cael gwaith mewn meysydd mor amrywiol ag: 

  • addysg 
  • archifo 
  • cyfieithu 
  • cyhoeddi 
  • entrepreneuriaeth 
  • gwleidyddiaeth 
  • masnach 
  • twristiaeth 
  • y Cyfryngau 
  • y Gwasanaeth Sifil 
  • y Gyfraith 
  • yr Heddlu. 

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Pa gyfleoedd fydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth

yn eu cynnig. 

Cewch wella eich cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith a reolir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Lleoliadau gwaith yn y sector treftadaeth

Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru gysylltiadau cryf â’r sector treftadaeth a phortffolio o leoliadau gwaith sydd wedi ei hen sefydlu. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol ynghyd â dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn edrych yn dda ar unrhyw CV! 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i'r prif themâu sy’n greiddiol i astudio’r Gymraeg ac i hanfodion bod yn hanesydd. 

Ar y modiwlau Cymraeg, gan ddibynnu y llwybr y byddwch yn ei ddilyn (iaith gyntaf neu ail iaith), byddwch yn: dysgu sut i edrych ar feirdd a llenorion o 1900 hyd heddiw mewn modd beirniadol; dysgu am brif dueddiadau traddodiad llenyddol Cymru a gwerthfawrogi detholiad o destunau unigol yn feirniadol; archwilio ffigurau llenyddol Cymru (barddoniaeth a rhyddiaith) mewn modd beirniadol; cael eich cyflwyno i sgiliau trosglwyddadwy astudio iaith a llên a fydd o gymorth i chi ar gyfer llunio aseiniadau ysgrifenedig a datblygu sgiliau mwy cyffredinol; astudio cyweiriau’r iaith ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol; trafod y byd cyfoes trwy’r Gymraeg er mwyn atgyfnerthu eich sgiliau llafar; a datblygu sgiliau ysgrifenedig a’ch dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. 

Ym maes Hanes, cewch eich cyflwyno i'r amrediad o sgiliau, technegau ac ymarferion sy’n greiddiol i astudio cwrs gradd ac i astudio hanes yn benodol. Byddwch hefyd yn dysgu am ffynonellau a’u haneswyr – o lawysgrifau i bapurau newydd, ac o ddogfennau swyddogol i gerddoriaeth – ac yn ystyried sut mae haneswyr wedi gwneud defnydd o amrediad eang o ffynonellau er mwyn dehongli’r gorffennol. Ffynonellau gwreiddiol yw’r cliwiau a ddefnyddir gan haneswyr er mwyn creu darlun o’r gorffennol. Byddwch yn dysgu sut i ymwneud yn feirniadol â’r rhain a bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer gwneud eich gwaith ditectif hanesyddol eich hunain yn y dyfodol. Cewch hefyd ddethol o blith casgliad o fodiwlau sy’n benodol i hanes Cymru.  

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn dilyn modiwlau craidd yn y Gymraeg ond yn dethol y modiwlau Hanes o blith dewis eang o fodiwlau. 

Yn dibynnu ar y llwybr iaith, byddwch yn meithrin eich gallu i ysgrifennu’r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru’n raenus ac yn parhau â modiwl y flwyddyn gyntaf sy’n edrych ar gyweiriau’r iaith ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol, gan gynnwys confensiynau sillafu’r iaith, ffurfiau’r iaith lenyddol, y treigladau a phriod-ddulliau. Yn ogystal â hynny, cewch gyfle i ddatblygu sgiliau ieithyddol ac ymarferol a fydd yn fanteisiol ichi yn y gweithle proffesiynol dwyieithog yng Nghymru.  

Ym maes Hanes, cewch ddewis o blith ystod eang o fodiwlau. Ceir modiwlau sy’n amrywio o themâu megis: Cymru a’r Tuduriaid; diwylliant, cymdeithas a’r Fictoriaid; y cyfryngau a’r gymdeithas ym Mhrydain yr ugeinfed ganrif; i Tsieina ers 1800: rhwng chwyldro a diwygiad; rhyfel delweddau yn ne ddwyrain Asia: astudio propoganda’r ugeinfed ganrif; a'r mudiad hawliau sifil yn America. 

Yn y flwyddyn olaf, yn dibynnu ar y llwybr iaith, byddwch yn parhau i weithio ar ddatblygu sgiliau ysgrifennu’r Gymraeg yn safonol a chywir a’i llefaru’n raenus ond fel arall byddwch yn rhydd i ddethol o blith ystod eang iawn o fodiwlau yn y ddau bwnc. Gweler y tab modiwlau i gael rhagor o wybodaeth. 

Sut byddaf i’n cael fy addysgu a fy asesu? 

Fe'ch addysgir trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored. Bydd eich gwaith yn cael ei asesu ar ffurf traethodau, cyflwyniadau, arholiadau, asesu cyson, ymarferion penodol, gwaith ymchwil a datblygu syniadau, rhoi cyflwyniadau, a gweithio'n rhan o dîm, ymhlith eraill. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os byddwch angen cymorth. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.

Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.

Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.

Gan fy mod yn astudio Hanes mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.

Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA). Mae yna ddigonedd o gymdeithasau yma; mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.

Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!

Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi! Ceri Phillips

Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy ngradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac ar ôl dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny yn y brifysgol hefyd . Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma. Heledd Eleri Evans

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf neu Ail Iaith (gradd B)

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|