BA

Daearyddiaeth / Gwleidyddiaeth Ryngwladol

BA Daearyddiaeth / Gwleidyddiaeth Ryngwladol Cod LL7F Ymgeisio Nawr Cofrestrwch am Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Prif Ffeithiau

Cod LL7F
  • Cynnig lefel-A nodweddiadol

    BBB with B in Geography, ABB without Geography

  • Hyd y Cwrs

    3 blwyddyn

  • Cyfrwng Cymraeg

    96%

Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad

Ymgeisio Nawr

Gwybodaeth ar gyfer mynediad ym mis Medi 2017 sydd ar y dudalen hon. I weld gwybodaeth am 2018, gan gynnwys y graddau gofynnol, edrychwch yn ein prosbectws.

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Anrhydedd Cyfun mewn Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddi’n dewis astudio mewn dwy adran uchel iawn eu bri. Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yw un o’r adrannau mwyaf ei maint, a’r mwyaf byrlymus o’i math ym Mhrydain. Mae adnoddau gwych yn yr adran ar gyfer dysgu ac addysgu – sy’n berffaith i dy helpu i gael y canlyniadau gorau posibl ac i archwilio meysydd newydd a chyffrous. Mae Daearyddwyr yn astudio’r prosesau dynol a ffisegol sy’n ffurfio’r ddaear, a’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol a gwyd yn sgîl rhyngweithio rhwng pobl a’r ddaear, ac o ddewis Aberystwyth byddi’n dewis un o’r mannau gorau posib i astudio Daearyddiaeth.

Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: 90% boddhad myfyrwyr (ACF 2017)

95% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Ffisegol yn genedlaethol (DLHE 2017)

Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol: 95% boddhad myfyrwyr (ACF 2017)

95% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 1% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Cymdeithasol yn genedlaethol. (DLHE 2017)

  • Trosolwg
  • Modiwlau
  • Cyflogadwyedd
  • Addysg a Dysgu

Trosolwg

Pam Astudio Daearyddiaeth a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?

  • Mae Aberystwyth yn llleoliad gwych i astudio Daearyddiaeth – rhwng y môr a’r mynydd ar arfodir hardd Ceredigion. Mae’r adran yn gartref i labordai ac ystafelloedd cyfrifiadurol o’r radd flaenaf ac yn rhan o’r cwrs bydd myfyrwyr yn gwneud gwaith maes dwys ac yn cael cyfle i deithio. 
  • Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014, cafodd ADGD ei enwi fel yr adran Ddaearyddiaeth gorau yng Nghymru, gyda 78% o'r ymchwil yn cael ei gydnabod fel rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn y pymtheg uchaf o adrannau Daearyddiaeth y yn Deyrnas Unedig o ran pŵer ymchwil, sy'n mesur o ansawdd yr ymchwil, yn ogystal ag y nifer y staff sy'n ymchwilio o fewn yr adran.
  • Mae mwy na 30 o staff darlithio yn yr Adran, felly gallwn ddysgu ystod anferth o fodiwlau arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau: o newid yn yr hinsawdd, sut mae ffrwydradau llosgfynyddoedd yn effeithio ar yr amgylchedd, y tueddiadau cyfoes mewn geoberyglon, diflaniad niferoedd mawr o rywogaethau, gwyddoniaeth fforensig, cynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthau, a dyfodol y genedl-wladwriaeth.
  • Mae cynlluniau gradd yr adran yn gyson yn ennyn lefel uchel o foddhad myfyrwyr sy’n cael ei gydnabod yn Arolwg Cenedlaethol Blynyddol y Myfyrwyr. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi ennill y raddfa gyffredinol uchaf am foddhad myfyrwyr am ein cynlluniau gradd.
  • Sefydlwyd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn 1919 ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, a dyma’r adran brifysgol gyntaf o’i bath. Mae’n parhau i fod yn un o’r adrannau gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol mwyaf yn Ewrop, a chanddi dros 40 o staff academaidd. 
  • Mae’r awyrgylch dysgu cynhyrfus a chosmopolitaidd yma yn croesawu myfyrwyr o bedwar ban byd, ac yn gartref bywiog i drafodaeth wleidyddol gyfoes. Mae gan yr adran hanes hir o edrych ar y byd a gofyn cwestiynau sylfaenol am ystod o bynciau – materion megis rhyfel, cudd-wybodaeth a diogelwch, tlodi byd-eang, moeseg a newid hinsawdd; sut y daeth y byd i fod fel ag y mae, a sut y mae hynny’n newid o hyd. 
  • Mae’r cyfuniad o ddysgu rhagorol a pheth o’r gwaith ymchwil mwyaf cyffrous yn y maes yn creu profiad unigryw ac eithriadol. Mae’r Adran yn enwog am ei gwaith ymchwil arloesol ac yn cael ei chydnabod yr orau yn y Deyrnas Gyfunol ar gyfer astudio gwleidyddiaeth ryngwladol. 
  • Yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (2014), cafodd yr Adran ei enwi fel yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol gorau yng Nghymru a seithfed gorau yn y Deyrnas Unedig am ansawdd ymchwil, gyda 69% o gyhoeddiadau a gyflwynwyd o safon sydd gyda’r dosbarthiadau Gorau yn y Byd ac yn Rhagorol yn Rhyngwladol. 
  • Mae’r adran yn rhedeg Cynllun Lleoliadau Tŷ’r Cyffredin a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae gennym fantais fawr arall yn Aberystwyth gan mai dyma gartref Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sydd yn llyfrgell hawlfraint. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau. Mae’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd hefyd wrth law. 
  • Trwy ddewis dod yma i Aberystwyth byddi hefyd yn dod yn rhan o fwrlwm o ddarlithoedd cyhoeddus, lansiadau, perfformiadau a sgyrsiau sy’n digwydd yn gyson trwy’r flwyddyn yn y Brifysgol ei hun a thu hwnt.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg

Cyflogadwyedd

Beth gallaf ei wneud â gradd Daearyddiaeth/ Gwleidyddiaeth Ryngwladol?

Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser.

Ymhlith y setiau sgiliau y mae:

  • Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol
  • Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn
  • Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu
  • Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar
  • Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth

Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a Lleoliadau Myfyrwyr 

Mae profiad gwaith yn ystod eich gradd yn ffordd bendant o wella eich siawns o gael swydd ar ôl graddio. I helpu gyda hyn, anogir myfyrwyr yr Adran i gymryd rhan yn y cynllun BMG rhwng ail flwyddyn a blwyddyn derfynol eu gradd, sy’n golygu treulio 12 mis yn gweithio am dâl cyn cwblhau eu gradd.

Mae bwrsariaethau ar gael yn ogystal i gefnogi lleoliadau myfyrwyr byrrach yn ystod y gwyliau. Bob blwyddyn, byddwn yn cynnal cystadleuaeth sy’n gwahodd myfyrwyr i rannu eu profiadau gwaith trwy adroddiadau a chyflwyniadau llafar, a bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ac adborth gan aelodau o’r gymuned fusnes sydd ar y panel beirniaid.

Cyfleoedd Rhyngwladol 

Yn ogystal â phrofiad o fyd gwaith, mae teithio’n annibynnol hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu gyda theithiau israddedigion. Ymhlith y lleoliadau diweddar roedd Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a’r Unol Daleithiau.

Mae’r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi’r cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall y myfyrwyr gwblhau ail flwyddyn eu hastudiaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada. 

Addysg a Dysgu

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

Mae elfen Ddaearyddol y cwrs gradd hwn yn cynnig cyfuniad o fodiwlau Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol sy’n cwmpasu pob agwedd ar y ddisgyblaeth. Byddi’n astudio materion cyfoes a pherthnasol yn amrywio o’r lleol i’r rhyngwladol. Byddi’n profi cyffro dysgu am y byd ffisegol a dynol nid yn unig mewn darlithoedd ond hefyd trwy gyfrwng darpariaeth ddysgu sydd ymhlith y mwyaf arloesol yn y Deyrnas Gyfunol.

  • Mae modiwlau blwyddyn gyntaf elfen ddaearyddol y cynllun gradd hwn yn cynnwys pynciau fel ‘Byw gyda Risg’, ‘Pobl a Lle’, ‘Amgylchedd Cymru’ a ‘Cefn Gwlad a’r Ddinas’
  • Bwriad modiwlau blwyddyn gyntaf yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yw rhoi sail eang o wybodaeth i ti wrth baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Bydd y modiwlau hyn yn dy gyflwyno i gysyniadau a dadleuon allweddol yn ogystal â phynciau pwysicaf gwleidyddiaeth ryngwladol. Cei ddewis o fodiwlau fel ‘Cyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol’, ‘Defnyddio Syniadau Gwleidyddol’ a ‘Gwleidyddiaeth y Byd yng Nghyfnod y Ddau Ryfel Byd’.
  • Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, astudir y modiwlau tiwtorial craidd a’r modiwl craidd ‘Gwaith Maes Daearyddiaeth’. Mae nifer o fodiwlau dewisol cyfrwng Cymraeg arbenigol ar gael hefyd, gan gynnwys ‘Geomorffoleg Afonol’ ‘Hanes Amgylcheddol’, ‘Daearyddiaeth Cenedlaetholdeb’ a ‘Hanes Amgylcheddol’.
  • Yn yr ail a’r drydded flwyddyn, cei gyfle i arbenigo yn y meysydd sydd o’r diddordeb mwyaf i ti. Bydd modiwlau craidd fel ‘Rhyfel, Gwleidyddiaeth a Strategaeth’ ‘Y Rhyfel Oer’, ‘Cudd-wybodaeth a Diogelwch Rhyngwladol’ ar gael iti. Fel arall, galli adeiladu dy gwrs dy hun drwy ddewis modiwlau o raglen ddysgu Rhan Dau. Mae’r modiwlau hyn yn adlewyrchu’r ymchwil ddiweddaraf yn y maes, sy’n golygu bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael clywed y syniadau diweddaraf cyn iddynt hyd yn oed gael eu cyhoeddi a’u gwerthu yn y siopau llyfrau!

Sut byddi’n cael dy ddysgu?

  • Mae gan y cynllun strwythur modiwlaidd hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau daearyddol allweddol â diddordebau arbenigol. Yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, cei dy ddysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial, dosbarthiadau ymarferol, cyrsiau maes ac arolygu unigol, a chei dy asesu drwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol a gwaith cwrs, gan gynnwys traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau. Byddi hefyd yn cael dy asesu am waith fel dylunio gwefan, rhoi cyflwyniadau, cynnal arbrofion, ac ymchwilio i dy brosiect unigol dy hun.
  • O fewn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol byddi hefyd yn cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr. Mae rhai modiwlau yn Rhan Dau (yr ail a’r drydedd flwyddyn) yn defnyddio fformat seminarau’n unig, sydd fel rhagflas o astudiaethau Meistr, tra bod eraill yn defnyddio efelychiadau, chwarae rôl, a thechnegau diweddaraf e-ddysgu.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Lefel A BBB with B in Geography, ABB without Geography

Gofynion TGAU (grade C min):
English or Welsh, Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-DDM with specified subject

Myfyrwyr Rhyngwladol

Bagloriaeth Ryngwladol:
28-30 points overall with 4-5 points in Geography at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
65-75% overall with 70% in specified subject

Ystyrir ymgeiswyr yn ôl eu rhinweddau unigol a gall y cynigion amrywio. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig