Daearyddiaeth / Hanes
BA Daearyddiaeth / Hanes Cod LVR1 Cofrestrwch am Ddiwrnod Agored Cofrestrwch am Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
Cod LVR1-
Cynnig lefel-A nodweddiadol
BBB with B in Geography, ABB without Geography
-
Hyd y Cwrs
3 blwyddyn
-
Cyfrwng Cymraeg
97%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrWrth ddewis astudio’r cwrs BA anrhydedd cyfun hwn, Daearyddiaeth a Hanes, ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio mewn dwy adran uchel eu bri. Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yw un o’r adrannau mwyaf ei maint a’r mwyaf byrlymus o’i bath ym Mhrydain. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn cael ei chydnabod yn un o’r prif adrannau Hanes ym Mhrydain. Mae adnoddau dysgu ac addysgu gwych yn yr adran – sy’n berffaith i dy helpu i gael y canlyniadau gorau posibl ac i archwilio meysydd newydd a chyffrous.
[NSS/DLHE Awards]
Y gorau yn Nghymru ac yn yr 20 uchaf ym Mhrydain ym maes Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (The Good University Guide 2018, The Times & Sunday Times).
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: 90% boddhad myfyrwyr (ACF 2017)
95% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Ffisegol yn genedlaethol (HESA 2017)
Adran Hanes a Hanes Cymru: 92% boddhad myfyrwyr (ACF 2017)
95.4% o israddedigion DU/ UE o Brifysgol Aberystwyth a raddiodd yn 2016mewn cyflogaeth neu addysg bellach chwe mis ar ôl graddio (HESA 2017)
Trosolwg
Pam Astudio Daearyddiaeth a Hanes yn Aberystwyth?
- Mae elfen ddaearyddol y cwrs yn gyfuniad o ddaearyddiaeth ffisegol a dynol, felly byddi’n profi amrywiaeth gyflawn y ddisgyblaeth ar draws y prosesau ffisegol a dynol sy’n llunio tirweddau a lleoedd ledled y byd. Byddi hefyd yn astudio’r materion gwleidyddol ac amgylcheddol sy’n codi yn sgîl perthynas dyn â’r ddaear. Defnyddir enghreifftiau o bedwar ban byd, ond mae llawer o’r modiwlau yn canolbwyntio’n benodol ar Gymru ac ar ei daearyddiaeth a’i hamgylchedd.
- Mae’r rhan fwyaf ohonom yn chwilfrydig am y gorffennol ac am y ffordd mae cymdeithas ddynol wedi esblygu dros amser. Yn ogystal â bod yn ddiddorol ynddo’i hun, mae astudio hanes yn cynnig gweledigaeth a all ein helpu i ddeall digwyddiadau’r byd sydd ohoni. Bydd elfen Hanes y cwrs gradd yn dy alluogi i roi’r gorffennol mewn perspectif gan feithrin sgiliau dadansoddol, dehongli a chyfathrebu, sydd mor bwysig mewn bywyd bob dydd.
- Mae cymuned glos a chyfeillgar yn bodoli yn y ddwy Adran, sydd wedi eu lleoli yng nghanol campws y Brifysgol. Mae Aberystwyth yn lleoliad gwych i astudio Daearyddiaeth – rhwng y môr a’r mynydd ar arfodir hardd Ceredigion. Mae’r adran yn gartref i labordai ac ystafelloedd cyfrifiadurol o’r radd flaenaf ac yn rhan o’r cwrs bydd myfyrwyr yn gwneud gwaith maes dwys ac yn cael cyfle i deithio.
- Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn 2014, cafodd ADGD ei enwi fel yr adran Ddaearyddiaeth gorau yng Nghymru, gyda 78% o'r ymchwil yn cael ei gydnabod fel rhagorol yn rhyngwladol. Mae’r adran hefyd yn y pymtheg uchaf o adrannau Daearyddiaeth y yn Deyrnas Unedig o ran pŵer ymchwil, sy'n mesur o ansawdd yr ymchwil, yn ogystal ag y nifer y staff sy'n ymchwilio o fewn yr adran.
- Mae mwy na 30 o staff darlithio yn yr Adran, felly gallwn ddysgu ystod anferth o fodiwlau arbenigol ar draws amrywiaeth eang o bynciau: o newid yn yr hinsawdd, sut mae ffrwydradau llosgfynyddoedd yn effeithio ar yr amgylchedd, y tueddiadau cyfoes mewn geoberyglon, diflaniad nifer fawr o rywogaethau, gwyddoniaeth fforensig, cynaliadwyedd trefol, datblygu rhanbarthau, a dyfodol y genedl-wladwriaeth.
- Mae cynlluniau gradd yr adran yn gyson yn ennyn lefel uchel o foddhad myfyrwyr sy’n cael ei gydnabod yn Arolwg Cenedlaethol Blynyddol y Myfyrwyr. Dros y pum mlynedd ddiwethaf rydym wedi ennill y raddfa gyffredinol uchaf am foddhad myfyrwyr am ein cynlluniau gradd.
- Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a thros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd Hanes orau posib. Mae’r cynlluniau gradd yn gyffrous a diddorol.
- Mae yma Gymdeithas Hanes fywiog sy’n trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae gennym hefyd nifer o gysylltiadau â phrifysgolion tramor, sy’n golygu y gallet fanteisio ar y cyfle i dreulio amser dramor yn mwynhau diwylliant hanesyddol gwahanol.
- Mae diddordebau ein darlithwyr yn amrywio o’r cynfyd i’r byd modern, felly gallwn gynnig modiwlau hanes diwylliannol, economaidd, cymdeithasol a gwleidyddiol amrywiol o bob cyfnod i ti. Mae’r darlithwyr i gyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar hefyd. Yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy ddoniau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. Rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu mewn grwpiau bach, a bron yn unigryw am ddarparu sesiynau tiwtorial un-i-un. Bydd hyn yn fantais mawr iti fel myfyriwr.
- Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, a’n Llyfrgell Genedlaethol ni yw un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r campws ac mae’n adnodd gwerthfawr iawn.
Ein Staff
Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Core
Opsiynau
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg
Core
Opsiynau
- Age Of Magna Carta-england And Its Neighbours C1180-c1280
- America And Britain During The Great Depression
- Britain, Germany And The Great War
- Conquest, Union And Identity In Wales 1250-1800
- Crisis, Rebellion And Faith: Europe 1000-1517
- Manners & Misdemeanours:polite Society In 18th Century Engla
- Modernity And The Making Of Asia
- The Black Death
Core
Opsiynau
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg
Core
Opsiynau
- An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914
- Concepts For Geographers
- Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850
- East And West In The Age Of Crusades, C. 1050-c.1250
- European Society And The Medieval Mind 1200-1500
- Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power
- From The Second Empire To The Third Reich: Weimar Germany 1914-1933
- Geographical Perspectives On The Sustainable Society
- Geography Fieldwork
- Geohazards
- Media And Society In Twentieth Century Britain
- Medieval London: National Capital, International City
- Oral History: The Past In The Present
- Placing Culture
- Researching With Letters And Diaries
- Science, Religion And Magic
- Seals In Their Context In Medieval England And Wales
- The Atlantic World, 1492-1825
- The Great Divergence: Europe And Asia, C.1300-c.1800
- The Ottoman Empire And Early Modern Travel Writing
- The Rise Of Modern Medicine, C.1750-2000
- The Welsh Environment
- Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850
- Women And Gender In Britain, C.1800-1950
- Y Rhyfel Mawr Trwy Lygaid Y Cymry
Core
Opsiynau
Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg
Core
Opsiynau
- An Age Of Empire: Britain And Ireland, 1850-1914
- Crime, Riot And Morality In Wales 1750-1850
- Earth Observation From Satellites And Aircraft
- East & West In The Age Of Crusades, C. 1070 - C. 1290
- European Society And The Medieval Mind 1200-1500
- Expansion, Intervention And Influence: The United States As A Continental Power
- From The Second Empire To The Third Reich: Weimar Germany 1914-1933
- Geographical Information Systems
- Geographies Of Memory
- Geographies Of The Global Countryside
- Landscapes Of British Modernity
- Media And Society In Twentieth Century Britain
- Medieval London: National Capital, International City
- People, Climate And Environment: A Palaeoenvironmental Perspective
- Science, Religion And Magic
- The Atlantic World, 1492-1825
- The Great Divergence: Europe And Asia, C.1300-c.1800
- The Rise Of Modern Medicine, C.1750-2000
- Trosedd, Terfysg A Moesoldeb Yng Nghymru 1750-1850
- Urban Risk And Environmental Resilience
- Women And Gender In Britain, C.1800-1950
- World Regional Islam
Cyflogadwyedd
Beth gallaf ei wneud â gradd Daearyddiaeth / Hanes?
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.
Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r amser.
Ymhlith y setiau sgiliau y mae:
- Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol
- Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
- Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn
- Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
- Sgiliau rheoli amser a threfnu
- Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar
- Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a Lleoliadau Myfyrwyr
Mae profiad gwaith yn ystod eich gradd yn ffordd bendant o wella eich siawns o gael swydd ar ôl graddio. I helpu gyda hyn, anogir myfyrwyr yr Adran i gymryd rhan yn y cynllun BMG rhwng ail flwyddyn a blwyddyn derfynol eu gradd, sy’n golygu treulio 12 mis yn gweithio am dâl cyn cwblhau eu gradd.
Mae bwrsariaethau ar gael yn ogystal i gefnogi lleoliadau myfyrwyr byrrach yn ystod y gwyliau. Bob blwyddyn, byddwn yn cynnal cystadleuaeth sy’n gwahodd myfyrwyr i rannu eu profiadau gwaith trwy adroddiadau a chyflwyniadau llafar, a bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ac adborth gan aelodau o’r gymuned fusnes sydd ar y panel beirniaid.
Cyfleoedd Rhyngwladol
Yn ogystal â phrofiad o fyd gwaith, mae teithio’n annibynnol hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol o ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu gyda theithiau israddedigion. Ymhlith y lleoliadau diweddar roedd Uganda, Madagascar, Periw, Mynydd Etna a’r Unol Daleithiau.
Mae’r Adran hefyd wedi sefydlu Rhaglenni Cyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi’r cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall y myfyrwyr gwblhau ail flwyddyn eu hastudiaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.
Addysg a Dysgu
Beth fyddi di’n ei ddysgu?
Mae elfen Ddaearyddiaeth y cwrs yn cynnig cyfuniad o fodiwlau Daearyddiaeth Ddynol a Ffisegol sy’n cwmpasu pob agwedd ar y ddisgyblaeth. Byddi’n astudio materion cyfoes a pherthnasol yn amrywio o’r lleol i’r rhyngwladol. Byddi’n profi cyffro dysgu am y byd ffisegol a dynol nid yn unig mewn darlithoedd ond hefyd trwy gyfrwng darpariaeth ddysgu sydd ymhlith y mwyaf arloesol yn y Deyrnas Gyfunol.
- Mae modiwlau craidd blwyddyn gyntaf y cynllun Daearyddiaeth yn cynnwys pedwar modiwl cyfrwng Cymraeg: ‘Byw gyda Risg’, ‘Pobl a Lle’, ‘Amgylchedd Cymru’ a Cefn Gwlad a’r Ddinas’, a’r modiwl tiwtorial. Galli hefyd ddewis un modiwl opsiynol cyfrwng Cymraeg sef ‘Methodoleg Maes Amgylcheddol’.
- Yn yr ail a’r drydedd flwyddyn, astudir y modiwlau tiwtorial craidd a phrosiect y Traethawd Estynedig drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal â’r modiwlau craidd ‘Gwaith Maes Daearyddiaeth’ a ‘Lleoli Gwleidyddiaeth’. Mae nifer o fodiwlau dewisol cyfrwng Cymraeg arbenigol ar gael hefyd, gan gynnwys ‘Geomorffoleg Afonol’ ‘Hanes Amgylcheddol’ , ‘Daearyddiaeth Cenedlaetholdeb’ a ‘Hanes Amgylcheddol’.
- Yn ystod dy ail flwyddyn, byddi’n dilyn modiwl sy’n archwilio’r ffordd y mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser. Byddi hefyd yn dewis modiwlau o restr hir sydd wedi eu cynllunio i ehangu dy wybodaeth, rhoi cyfle iti arsylwi crefft yr hanesydd, a chanolbwyntio’n fanylach ar bynciau a chyfnodau amrywiol.
- Yn y drydedd flwyddyn cei ddewis pwnc arbennig a fydd yn caniatáu i ti astudio pwnc hanesyddol penodol mewn dyfnder trwy wneud defnydd helaeth o ffynonellau gwreiddiol, gan ddefnyddio sgiliau ymchwilio beriniadol hanesydd, yn ogystal â dewis modiwlau eraill o blith rhestr helaeth.
Sut byddi’n cael dy ddysgu?
- Mae gan y cynllun strwythur modiwlaidd hyblyg sy’n caniatáu i fyfyrwyr gyfuno hyfforddiant hanfodol mewn sgiliau daearyddol allweddol â diddordebau arbenigol. Fel myfyriwr ar y cynllun Daearyddiaeth, byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial, dosbarthiadau ymarferol, cyrsiau maes ac arolygu unigol, a chei dy asesu drwy gyfuniad o arholiadau ffurfiol a gwaith cwrs, gan gynnwys traethodau, adroddiadau a chyflwyniadau. Byddi hefyd yn cael dy asesu am waith fel dylunio gwefan, rhoi cyflwyniadau, cynnal arbrofion, ac ymchwilio i dy brosiect unigol dy hun.
- Byddi’n mynd ar daith faes ragarweiniol ar ddechrau’r flwyddyn gyntaf, sy’n ymweld â nifer o fannau yn ardal Aberystwyth, ac sy’n cyflwyno rhai o’r prif faterion y byddi’n eu trafod yn ystod y flwyddyn. Mae hefyd yn ffordd wych o ddod i nabod y myfyrwyr eraill ar dy gwrs.
- Amcan sylfaenol y maes llafur Hanes yn Aberystwyth yw cyfleu amrywiaeth a chyffro yr agweddau cyfoes tuag at astudio Hanes, a dysgu sgiliau allweddol fel canfod gwybodaeth, dehongli a hunanfynegiant. Cei dy asesu trwy ddulliau amrywiol fel arholiadau traddodiadol, arholiadau agored, traethodau a asesir, prosiectau a chyflwyniadau, a thraethawd estynedig. Bydd hyn yn fodd i ti gyflawni dy addewid a chyrraedd dy ddisgwyliadau dysgu.
- Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn chwarae rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau a fydd yn digwydd. Gan mai nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar fe fyddi’n cael llawer o sylw gan y darlithwyr.
- Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan y darlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, tra bydd seminarau’n gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Lefel A BBB with B in Geography, ABB without Geography
Gofynion TGAU (grade C min):
English or Welsh, Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-DDM with specified subject
Myfyrwyr Rhyngwladol
Bagloriaeth Ryngwladol:
28 points overall with 5 points in Geography at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
65-75% overall with 70% in specified subject
Ystyrir ymgeiswyr yn ôl eu rhinweddau unigol a gall y cynigion amrywio. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ug-admissions@aber.ac.uk