BA

Drama a Theatr / Hanes

BA Drama a Theatr / Hanes Cod WV41 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae'r radd gyfun Drama ac Astudiaethau Theatr gyda Hanes yn caniatáu i chi gyfuno'ch diddordeb mewn drama, theatr a pherfformio ag astudio hanes. Byddwch yn elwa o arbenigedd darlithwyr yn y ddwy adran wrth ichi ddatblygu sgiliau allweddol megis meddwl yn feirniadol, dadansoddi a chyfathrebu. Wrth astudio Drama a Theatr, byddwch yn archwilio posibiliadau eang theatr, gan fynd i'r afael â'r pwnc yn ymarferol ac yn ddamcaniaethol, a datblygu'n rhywun sy'n meddwl yn greadigol. Yn Hanes, cewch ddewis o blith ystod eang o gyfnodau hanesyddol, o'r canoloesoedd i hanes fodern, a chanolbwyntio ar ystod ddaearyddol eang sy'n ymestyn o Brydain i Ewrop i Asia a'r tu hwnt. Mae'r radd hon yn dod â'r ddamcaniaeth a'r ymarfer ynghyd yn y ddau faes, sy'n gyfle ichi gynhyrchu a chymryd rhan mewn cynyrchiadau theatrig ac astudio testunau allweddol, yn ogystal ag archwilio trysorau archifol ac arteffactau hanesyddol.

Trosolwg o'r Cwrs

Why study BA Drama and Theatre Studies / History at Aberystwyth?

  • The Department of Theatre, Film and Television Studies is a vibrant and creative department where drama and theatre, film and media, and scenography and theatre design collide.
  • History has been taught in Aberystwyth since 1872, making the Department of History and Welsh History at Aberystwyth University the oldest in Wales and one of the foremost in Britain.
  • Across both disciplines, you will have the opportunity to discover a unique combination of creative and critical approaches.
  • In the Department of Theatre, Film and Television Studies, you will be mentored and taught by our excellent teaching staff with a wide range of expertise in research and professional theatre-making.
  • The department of History and Welsh History prides itself on offering innovative, research-based teaching that is designed to develop your transferable skills in areas such as analysis, interpretation and communication, and prepares you for a wide range of careers.
  • As a student on this course, you will benefit from our departmental connections with key industry partners, such as National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Quarantine Theatre Company, and Theatr Genedlaethol Cymru. This will provide you with a range of opportunities to network and establish professional connections before graduating. 
  • You will have access to the superb facilities and resources for practical work that are available in the Department of Theatre, Film and Television Studies: three rehearsal studios, each with flexible technical facilities; 2 large professionally-equipped studios with digital lighting rigs controlled via ETC Congo and Strand Lighting consoles, Yamaha and Soundcraft PAs, Sanyo AV systems and Strand lighting and two NXAMP; and costume and wardrobe facilities.
  • Aberystwyth Arts Centre, one of the largest Arts Centres in Wales, is situated on the campus and regularly presents national and international theatre and dance work.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Acting for Camera TP25920 20
Acting: Process and Performance TP21220 20
Creative Arts at Work TP20220 20
Design Project TP22620 20
Devised Performance Project TP21620 20
Directors' Theatre TP21820 20
New Media Performance TP23820 20
Prosiect Cynhyrchu Theatr TC24940 40
Shakespeare in Performance TP23220 20
Theatr a Chymdeithas Gyfoes TC20920 20
Theatre Production Project TP24940 40
Theatre and Contemporary Society TP20820 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY28420 20
Germany since 1945 HY29620 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY22120 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY29820 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY27720 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The European Reformation HY26520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
Image Wars in Southeast Asia: Studying 20th Century Propaganda HY23720 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
The Sound of History: the Civil Rights Movement in Post-War America HY24720 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Drama TP30020 20
Musical Theatre Dramaturgies TP39020 20
Performance and Architecture TP33420 20
Performance and Disability TP30320 20
Place, Space and Landscape TP32820 20
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From the Second Empire to the Third Reich: Weimar Germany 1914-1933 HY38420 20
Germany since 1945 HY39620 20
Kingship and political culture in high medieval England and Norway, 1066-1263 HY32120 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Modern Japan: From Samurai to Salary Men HY39820 20
Reforging the Union: The Reconstruction Era in US History, 1863-1896 HY37720 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The European Reformation HY36520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
Ensemble Performance Project TP35520 20
Independent Research Project TP36040 40
Playwriting TP33340 40
Prosiect Ymchwil Creadigol TC36140 40

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Drama ac Astudiaethau Theatr / Hanes?

Ymhlith ein cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch mae Alex Jones, sydd wedi bod yn cyflwyno The One Show am gyfnod hirach na'r un fenyw arall. Yn ystod ei chyfnod ym Mhrifysgol Aberystwyth, astudiodd Alex Jones radd mewn Drama ac Astudiaethau Theatr. 

Mae llawer o'n myfyrwyr wedi llwyddo i gael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • actio a pherfformio
  • cyfarwyddo
  • cynllunio
  • sgriptio
  • addysgu a'r maes addysg
  • gweinyddu yn y celfyddydau
  • marchnata
  • rheolaeth
  • cysylltiadau cyhoeddus.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl weithgareddau.

Mae myfyrwyr Drama ac Astudiaethau Theatr yn meithrin y sgiliau gwerthfawr canlynol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • gweithio'n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu amser a defnyddio sgiliau yn effeithiol
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu eu hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y sector treftadaeth

Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i gael profiad ymarferol a chipolwg o'r sector treftadaeth, ac maent yn werthfawr iawn ar gyfer y CV.

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Sgyrsiau graddedig a mentora gan gyn-fyfyrwyr

Mae’r cynllun e-Fentora yn gyfle i chi gysylltu â chyn-fyfyrwyr o amrywiaeth o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi ganfod beth oedd eu llwybr nhw i’w swyddi presennol a pha wybodaeth y gallant ei rhannu wrth i chi feddwl am eich camau nesaf.

Pa gyfleoedd sydd i gael profiad wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • Modiwlau cyflwyniadol ar greu, meddwl ac astudio
  • Ymagweddau cyfoes tuag at greu theatr yn y stiwdio ac ar y safle
  • Moderniaeth a sut daeth Asia i fod
  • Dulliau a chyfnodau newydd
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain
  • Cyfnodau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol ym maes drama a theatr
  • Dadansoddi drama, theatr a pherfformio.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • Creu theatr gyfoes drwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol
  • Gwaith cynhyrchu graddfa fawr
  • Actio, cyfarwyddo a dramayddiaeth, dyfeisio a dylunio
  • Hanes Ewrop
  • Yr Almaen a Natsïaeth
  • Datblygiad Theatr Ewropeaidd fodern
  • Shakespeare mewn perfformiadau cyfoes
  • Theatr a chymdeithas gyfoes
  • Yr Ymerodraeth Brydeinig
  • Cyfryngau newydd a sgriptio perfformiadau.

Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd gennych gyfle i gyflawni'r canlynol:

  • Creu gwaith creadigol annibynnol
  • Cyflawni prosiect ymchwil sylweddol a chyflawni astudiaeth ddamcaniaethol uwch
  • Ymestyn eich sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu unigol ac ar y cyd
  • Rhywedd mewn Hanes
  • Cymdeithas Prydain a'r chwyldro Ffrengig
  • Gwyddoniaeth, Crefydd, a Hud a Lledrith
  • Stalin a Rwsia
  • Datblygu eich sgiliau entrepreneuraidd yn cynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol
  • Sgriptio drama
  • Astudio modiwlau arbenigol a allai fynd i'r afael â: gofod, lle a thirlun, perfformio ac athroniaeth, perfformio, gwleidyddiaeth a phrotest, theatr, rhywedd a rhywioldeb, perfformio a phensaernïaeth, theatr gerdd newydd, a drama gyfoes ym Mhrydain ac Iwerddon.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Byddwch yn cael eich addysgu drwy weithdai ymarferol, seminarau grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchu, a gwaith prosiect mewn grŵp
  • Rydyn ni'n addysgu â dull cymysg yn aml, gan archwilio damcaniaeth drwy ymchwil ac arfer ymarferol, drwy lygad safbwyntiau damcaniaethol amrywiol
  • Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau ffurfiol ac wedi'u perfformio, arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cynllun gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r ystod eang o fodiwlau, ynghyd â'r amrywiaeth eang o gymdeithasau drama, yn golygu ei bod hi'n hawdd paratoi ar gyfer unrhyw faes ymarfer drama a theatr. Mae'r elfennau academaidd ac ymarferol yn wych, ac yn ein galluogi ni i ganolbwyntio ar un neu'r llall, a/neu gael sylfaen yn y ddamcaniaeth er mwyn gwella ein harchwiliad ymarferol. Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig bob amser, ac maen nhw wastad yn ein hannog ni i wneud mwy ac i archwilio ymhellach. 

Jemma Rowlston

Mae astudio Hanes yn Aberystwyth wedi bod yn wych. Mae'r gallu i ddewis modiwlau i weddu i fy niddordebau wedi fy ngalluogi i ddilyn yr hyn dw i eisiau ei ddilyn. Os ydw i'n dymuno astudio Rwsia, galla i wneud hynny. Hefyd, mae gan y staff addysgu gwych gyfoeth o brofiad a dealltwriaeth, ac maen nhw'n darparu addysg ardderchog. Mae'n hawdd iawn mynd atyn nhw, ac maen nhw'n barod i roi'r amser a'r gefnogaeth sydd eu hangen arna i. Dw i hefyd yn teimlo bod modd i fi ofyn am gymorth gyda thraethodau ac am gyngor o ran beth i'w ddarllen ac i ymchwilio iddo. Mae darllen yn allweddol fel hanesydd, ac mae Llyfrgell Hugh Owen a'r Llyfrgell Genedlaethol yn adnoddau gwych er mwyn cael llyfrau. Yn ystod fy nwy flynedd yn astudio hanes, dw i heb ddifaru fy newis unwaith, ac alla i ddim aros i ddechrau fy nhrydedd flwyddyn. Connor Lambert

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|