BA

Drama a Theatr / Cysylltiadau Rhyngwladol

BA Drama a Theatr / Cysylltiadau Rhyngwladol Cod 42WL Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd astudio Drama a Theatr / Cysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn caniatáu i chi archwilio'r ffurfiau hanesyddol a sefydledig sydd wedi llunio drama, theatr a pherfformiad ynghyd â disgyblaeth a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o wleidyddiaeth fyd-eang. Bydd cyfuno'r pynciau hyn yn rhoi'r cyfle ichi edrych ar theatr o safbwynt rhyngwladol ac i gyfoethogi'ch dealltwriaeth o faes cysylltiadau rhyngwladol o safbwynt ddiwylliannol.

Ar y cwrs hwn, byddwch yn archwilio ystod eang o arferion a ffurfiau beirniadol a chreadigol, ac yn datblygu eich gallu fel ysgolhaig, meddyliwr a gwneuthurwr theatr annibynnol. Byddwch yn gallu defnyddio eich brwdfrydedd dros Theatr i fynd i'r afael â heriau byd-eang y cyfnod sydd ohoni. Mae gan Theatr y pŵer i ofyn cwestiynau ac i herio syniadau a chredoau. Mae'n ein helpu i feddwl am sut yr ydym yn byw, sut mae ein gweithredoedd ni'n effeithio ar eraill, ein heffaith ar y byd a sut y gallwn wneud newidiadau er gwell. Drwy astudio Cysylltiadau Rhyngwladol, byddwch yn dysgu sut i wynebu problemau o sawl safbwynt a sut i feddwl yn greadigol a chroesawu syniadau newydd. Ymunwch â ni yn Aberystwyth a rhowch gyfle i staff a myfyrwyr yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol eich ysbrydoli i ddatblygu'n berson sy'n meddwl mewn modd annibynnol a chreadigol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Drama a Theatr / Cysylltiadau Rhyngwladol yn Aberystwyth?

  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ymhlith y 40 uchaf yn y byd o ran enw da academaidd. (QS, 2017).
  • Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn ofod bywiog a chreadigol lle mae drama, theatr, ffilm a chyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Byddwch yn cael eich addysgu yn adran gwleidyddiaeth ryngwladol gyntaf y byd, a sefydlwyd ym 1919 ar ôl diwedd y Rhyfel Mawr er mwyn helpu'r byd ddeall y byd.
  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan ddarlithwyr brwdfrydig, sy'n ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol a dynamig i chi.
  • Yn fyfyriwr ar y cwrs hwn, fe gewch chi'r cyfle i gymryd rhan yn ein 'Gemau Argyfwng' enwog; tridiau o ymarferiad chwarae rôl lle mae gofyn cynnal trafodaethau gwleidyddol, economaidd a diplomyddol sy'n datblygu sgiliau trafod a chyfathrebu, meddwl yn feirniadol, gweithio mewn tîm, a datrys problemau.
  • Byddwch chi hefyd yn gallu cymryd mantais o'r Cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, sy'n eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod o Senedd Cymru (Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol hefyd yn gartref i Interstate, sef y cyfnodolyn gwleidyddiaeth ryngwladol hynaf a gaiff ei redeg gan fyfyrwyr yng ngwledydd Prydain, sy'n cynnig cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (yn arbennig o fanteisiol os ydych yn dymuno symud ymlaen i astudiaeth uwchraddedig) neu ennill profiad gwerthfawr wrth weithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o drafodaethau, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai gwleidyddol, ynghyd â nifer o weithgareddau cymdeithasol fel y ddawns flynyddol.
  • Mae gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu gyfleusterau ac adnoddau gwych ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio berfformio â chyfarpar cyflawn, stiwdio deledu ac oriel, labordy ffilm analog, stiwdio recordio sain, editing and grading suites, sinema, tair ystafell ymarfer fawr â chyfarpar cyflawn, cyfarpar gwisgoedd a wardrob, stiwdio senograffeg benodol yng nghanol y dre, y tirlun lleol: adnodd sy'n ysbrydoli'n greadigol. Mae myfyrwyr hefyd yn elwa ar ein cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau, un o ganolfannau celfyddydol mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
  • Mae'r ddwy adran hefyd yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a gaiff eu haddysgu'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
Acting for Camera TP25920 20
Acting: Process and Performance TP21220 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP28820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: The Diplomacy of Decline IQ22620 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Cenedlaetholdeb mewn Theori a Realiti GW29920 20
China From the Opium War to the Present IP29820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Climate Coloniality IP29520 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW25820 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devised Performance Project TP21620 20
Devolution and Wales IP25020 20
Directors' Theatre TP21820 20
Economic Diplomacy and Leadership IQ24320 20
European Security in 21st Century IP23620 20
Gender, Conflict and Security IP26720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ25520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ23820 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Politics and the Nuclear Age IP20420 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ24420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ27120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
Nationalism in Theory and Practice IP29920 20
New Media Performance TP23820 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Race in Global Politics IQ20020 20
Refugee Simulation IQ25620 20
Russian Security in the 21st Century IP21820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Shakespeare in Performance TP23220 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Arab-Israeli Wars IP21320 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ20920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Long Shadow of the Second World War IP22720 20
The Past and Present US Intelligence IP26020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ26020 20
The Second World War in Europe IP26420 20
Theatre Design Project TP22620 20
Theatre Production Project TP24940 40
Theatre and Contemporary Society TP20820 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ23820 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Women and Global Development IP29620 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Drama TP30020 20
Musical Theatre Dramaturgies TP39020 20
Performance and Architecture TP33420 20
Performance and Disability TP30320 20
Place, Space and Landscape TP32820 20
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
Britain and Ireland in War and Peace since 1800 IP38820 20
Britain and World Politics from Global Empire to Brexit: the Diplomacy of Decline: IQ32620 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Cenedlaetholdeb Mewn Theori a Realiti GW39920 20
China From the Opium War to the Present IP39820 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP30720 20
Climate Coloniality IP39520 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Cyfiawnder Byd-Eang: Dehongli a Gwireddu ein Dyletswyddau i'r Dieithryn Pell GW35820 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
Economic Diplomacy and Leadership IQ34320 20
European Security in the 21st Century IP33620 20
Gender, Conflict and Security IP36720 20
Global Politics and the Refugee Regime IQ35520 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Gwleidyddiaeth y Deyrnas Unedig Heddiw: Undeb Dan Straen? GQ33820 20
International Politics and the Nuclear Age IP30420 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Knowing about Violent Conflict in International Politics IQ34420 20
Middle Powers in the Global Political Economy IQ37120 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Nationalism in Theory and Practice IP39920 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Race in Global Politics IQ30020 20
Refugee Simulation IQ35620 20
Russian Security in the 21st Century IP31820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Arab Israeli Wars IP31320 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The British Army's Image in Battle, from the Crimean to the Present IQ30920 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Long Shadow of the Second World War IP32720 20
The Past and Present of US Intelligence IP36020 20
The Politics and Paradoxes of International Organisations IQ36020 20
The Second World War in Europe IP36420 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
UK Politics Today: A Union Under Strain? IQ33820 20
War Crimes IQ35720 20
Women and Global Development IP39620 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20
Ensemble Performance Project TP35520 20
Independent Research Project TP36040 40
Playwriting TP33340 40
School Shakespeare Project TP30140 40

Gyrfaoedd

Beth mae ein graddedigion yn ei wneud erbyn hyn?

Mae graddedigion o'n hadran wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol:

  • y gwasanaeth sifil
  • gwasanaethau diogelwch
  • adrannau ymchwil llywodraethol
  • actio a pherfformio
  • sgriptio
  • dylunio setiau
  • materion cyhoeddus
  • addysg
  • ymchwil cymdeithasol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi wrth astudio yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael. Bydd cymryd rhan mewn cymaint o weithgareddau â phosib yn edrych yn dda ar eith CV a bydd digon o gyfleoedd i ddod yn rhan o bob math o weithgareddau a fydd yn rhoi sbardun i'r gyrfa yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. Yn fyfyriwr ar y cwrs hwn, byddwch yn gallu cymryd rhan yn ein cynllun Lleoliadau Seneddol, ymuno â'r rhai sy'n cynhyrchu ac yn golygu Interstate, a cynnig helpu gyda pherfformiadau o bob math er mwyn cael profiad go iawn.

Bydd astudio am y radd hon mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio?

Ewch i dudalen Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth i ganfod mwy am y gwahanol gyfleoedd sydd ar gael.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Y flwyddyn gyntaf:

  • modiwlau rhagarweiniol am greu, meddwl ac astudio
  • damcaniaeth wleidyddol a syniadau gwleidyddol allweddol
  • methodolegau amrywiol ar gyfer dadansoddi materion amserol mewn gwleidyddiaeth ryngwladol a domestig
  • materion allweddol sy'n wynebu'r byd cymdeithasol
  • dulliau cyfoes o greu theatr yn y stiwdio ac ar y safle
  • datblygiad a hynt cysylltiadau rhyngwladol yn ystod yr ugeinfed ganrif
  • adegau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol ym myd drama a theatr
  • dadansoddi drama, theatr a pherfformiad.

Yr ail flwyddyn:

  • creu theatr gyfoes drwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol
  • gwaith cynhyrchu ar raddfa lawn
  • actio, cyfarwyddo a dramayddiaeth, dyfeisio, a dylunio
  • datblygiad theatr Ewropeaidd fodern
  • globaleiddio
  • democratiaeth a hyrwyddo democratiaeth
  • anghydraddoldeb byd-eang a'r byd datblygol
  • cudd-wybodaeth a diogelwch
  • Shakespeare mewn perfformio cyfoes
  • y theatr a chymdeithas gyfoes
  • cyfryngau newydd ac ysgrifennu perfformiad.

Y flwyddyn olaf:

  • greu gwaith creadigol annibynnol
  • cyflawni prosiect ymchwil mawr a chymryd rhan mewn astudiaeth ddamcaniaethol ddatblygedig
  • ymestyn eich sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu ensemble ac unigol
  • dysgu am y gwledydd BRIC a'r economi fyd-eang
  • archwilio gwleidyddiaeth America Ladin
  • dysgu am yr Undeb Ewropeaidd a NATO
  • archwilio gwleidyddiaeth yn Rwsia, Ewrop ac Unol Daleithiau America
  • astudio gwleidyddiaeth Brydeinig a gwleidyddiaeth gymharol
  • datblygu eich sgiliau entrepreneuraidd wrth gynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol
  • ysgrifennu eich sgript drama eich hun
  • astudio modiwlau arbenigol a allai fynd i'r afael â: gofod, lle a thirwedd; perfformiad ac athroniaeth; perfformiad; gwleidyddiaeth a phrotest; theatr; rhywedd a rhywioldeb; perfformiad a phensaernïaeth; theatr gerdd newydd; a dramâu Prydeinig a Gwyddelig cyfoes.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Byddwch yn cael eich addysgu ar ffurf gweithdai ymarferol, seminarau mewn grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchiad a gwaith grŵp.
  • Mae ein haddysgu yn aml yn digwydd drwy ddull cymysg; rydym yn astudio damcaniaeth drwy ymchwilio ac ymarfer ymarferol gan edrych drwy lens safbwyntiau damcaniaethol amrywiol.
  • Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau ffurfiol ac wedi'u perfformio, arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r amrywiaeth eang o ddewisiadau modiwl yn ogystal â'r amrywiaeth eang o gymdeithasau drama yn golygu bod modd i ni fod yn barod ar gyfer unrhyw ran o ymarfer drama a theatr. Mae'r elfennau academaidd ac ymarferol yn wych, sy'n ein galluogi ni i ganolbwyntio ar y naill neu'r llall a/neu drwytho ein hunain yn y ddamcaniaeth er mwyn gwella ein gwaith archwilio ymarferol. Mae'r staff bob amser yn gyfeillgar ac yn frwdfrydig ac yn ein hannog i wneud mwy ac i archwilio ymhellach.

Jemma Rowlston

Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi rhoi dealltwriaeth newydd i fi o'r byd o fodiwlau ar faterion yn ymwneud â chysyniadau globaleiddio i fywydau menywod yn y Trydydd Byd. Gydag arbenigwyr mewn cymaint o feysydd, mae'n wych cael criw o diwtoriaid sydd mor gyfeillgar. Mae fy nhair blynedd yma yn Aberystwyth wedi bod yn addysgiadol ac yn bleserus, bydden i'n argymell astudio yma i unrhyw un.

Hannah Mitchell

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|