Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae’r radd BA Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i archwilio datblygiad plant a’r glasoed, gan gwmpasu materion sy’n hanfodol er mwyn deall systemau addysgol. Bydd ein cwrs yn eich cyffroi a’ch ysgogi a cheir ffocws penodol ar gefnogi dysgwyr trwy gydol y system addysg.

Mae gradd mewn Addysg yn gallu arwain at waith ym maes diwydiant, polisi neu’r sector elusennol, neu at hyfforddi fel athro neu athrawes cynradd. Mae’r pwnc yn cynnwys elfennau o seicoleg, cymdeithaseg, gwleidyddiaeth, a hanes. Mae’n ymchwilio i sut mae pobl yn dysgu, sut mae eu hamgylcheddau yn dylanwadu ar eu dysgu, sut rydym yn gwneud penderfyniadau, a sut mae ein dealltwriaeth o ddysgu ac addysgu wedi datblygu dros y blynyddoedd. Mae’r lleoliadau arsylwi yn ystod y radd yn eich helpu i gyfuno’r theori a’r ymarfer.

Trosolwg o'r Cwrs

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Addysg yn Aberystwyth:

  • cyngor gan gydlynydd cyflogadwyedd a fydd yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi am yr ystod o gyfleoedd sydd ar gael yn y maes
  • amrywiaeth eang o dechnegau asesu gan gynnwys posteri, gemau, traethodau a chyflwyniadau, sy’n eich galluogi i roi’r pwyslais ar eich cryfderau
  • cyfle i astudio eich hoff bwnc law yn llaw ag Addysg
  • gwarant o gyfweliad am y Dystysgrif Addysg i Raddedigion Cynradd (TAR) yma cyhyd â’ch bod yn bodloni’r gofynion mynediad.

Sylwch: Bydd angen gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) neu wiriad cyfatebol er mwyn dilyn rhai o fodiwlau’r radd hon.

Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad a Dysgu Plant AD14520 20
Key Skills for University ED13620 20
Policies and Issues in Education ED10120 20
Y Dysgwr a'r Amgylchedd Dysgu AD13820 20
Partneriaethau - Egwyddorion ac Ymarfer AD14420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiad Iaith AD14320 20
Health and Wellbeing in the Early Years ED14620 20
Inclusive Learning Practices ED11820 20
Language Development ED14320 20
Play and Learning:Theory and Practice ED13720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Seicoleg Dysgu a Meddwl AD20120 20
Research Methods ED20320 20
Safeguarding and Professional Practice ED24320 20
Working with Children ED20620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Discourses Language and Education ED22420 20
Education, Diversity and Equality ED20420 20
Literacy in Young Children ED20220 20
Llythrennedd Mewn Plant Ifanc AD20220 20
Making Sense of the Curriculum ED20820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Asesu ac Addysg AD30120 20
Major dissertation ED33640 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Children's Rights ED30620 20
Communication ED34720 20
Cyfathrebu AD34720 20
Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol AD34820 20
Datblygiad Mathemategol yn y Blynyddoedd Cynnar AD30320 20
Emotional and Social Development ED34820 20
Hawliau Plant AD30620 20
Mathematical Development in the Early Years ED30320 20
Special Educational Needs ED30420 20

Gyrfaoedd

Bydd cynghorwr ymroddedig gyda phrofiad ym maes addysg yn gallu cynnig cyngor, a hynny o ddechrau eich blwyddyn gyntaf.

Ar wahân i ddysgu ar lefel Gynradd, mae graddedigion o’r Ysgol Addysg wedi symud ymlaen i yrfaoedd mewn meysydd amrywiol megis:

  • Therapi Lleferydd
  • Gwaith Cymdeithasol
  • Lles Plant
  • y diwydiant hamdden
  • y gyfraith
  • gwaith ymchwil.

Mae gradd mewn addysg hefyd yn gallu arwain at gyfleoedd mewn meysydd eraill, megis cymorth i fyfyrwyr yn y sector Addysg Bellach ac Addysg Uwch, ac ym maes hyfforddiant.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Datblygiad a Dysgu Plant/ Children’s Development and Learning
  • Polisiau a Materion mewn Addysg/Policies and Issues in Education
  • Datblygiad Iaith/Language Development
  • Sgiliau Allweddol I Brifysgol/Key Skills for University.

Yr ail flwyddyn:

  • Seicoleg Dysgu a Meddwl/Psychology of Learning and Thinking
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods
  • Gweithio gyda Phlant/Working with Children
  • Diogelu ac Ymarfer Proffesiynol/Safeguarding and Professional Practice.

Y flwyddyn olaf:

  • Hawliau Plant/Children’s Rights
  • Gwerthuso ac Adlewyrchu ar Sgiliau Dysgu yn Gritigol/Critically Reflecting and Evaluating Learning and Skills
  • Traethawd Hir/Major Dissertation
  • Datblygiad Emosiynol a Chymdeithasol/Emotional and Social Development.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|