BA

Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd

BA Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd Cod FQ73 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae ein cwrs BA mewn Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd yn cynnig dealltwriaeth drwyadl a beirniadol o’r trafodaethau ideolegol sy’n siapio’r modd yr ydym yn darllen ac yn ysgrifennu, yn herio ein canfyddiadau ynghylch y mannau hynny yr ydym yn darllen ac yn ysgrifennu yn eu cylch, ac yn holi pwy ydym ni mewn gwirionedd. Trwy godi cwestiynau dadleuol ynghylch ymateb dynol ryw i newid hinsawdd, bydd y cwrs hwn yn rhoi ichi’r sgiliau a’r wybodaeth i allu dadansoddi amrywiol safbwyntiau ar her fyd-eang.


Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd yn rhoi gwybodaeth arbenigol am ymatebion ffuglennol ac anffuglennol i’r hinsawdd. Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol ym maes Ysgrifennu am Argyfyngau mewn gwahanol genres a ffurfiau.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Astudiaethau Saesneg a Newid Hinsawdd yn Aberystwyth:

  • ymwneud â, a datblygu, dull amlddisgyblaethol bendant o drafod newid hinsawdd, yn seiliedig ar ddealltwriaeth o’r wyddoniaeth sy’n sail i’r argyfwng hinsawdd
  • dadansoddi achosion a chanlyniadau newid hinsawdd a diraddio amgylcheddol, a sut mae llenyddiaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hyd heddiw yn cyfeirio at newid hinsawdd
  • archwilio’r cysylltiadau rhwng newid hinsawdd a heriau byd-eang eraill a’r modd maent yn cael eu cyfleu i wahanol gynulleidfaoedd
  • myfyrio ar y modd y mae cynefinoedd, adnoddau a systemau ecolegol ein planed yn cael eu hadlewyrchu yn y straeon yr ydym yn eu hadrodd, ac yn siapio’r straeon hynny.


Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r radd hon yn llwyddiannus mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfa ym meysydd rheoli, addasu a lliniaru newid hinsawdd yn y DU a thramor. Byddant hefyd yn gymwys ar gyfer gyrfaoedd mewn meysydd cysylltiedig megis addysg amgylcheddol ac ymgynghori, neu gadwraeth. Mae eraill yn debyg o fynd ymlaen i astudio ar lefel uwchraddedig - gradd Meistr neu Ddoethuriaeth.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Climate Change: Impacts, Perceptions, Adaptations
  • Creative Practice
  • Critical Practice
  • The Science of Climate.

Yr ail flwyddyn:

  • Literature and Climate in the Nineteenth Century
  • Literary Theory: Debates and Dialogues.

Y flwyddyn olaf:

  • The Writing Project
  • Undergraduate Dissertation.

Dyma rai o’r modiwlau dewisol y gallwch eu hastudio i ddatblygu eich diddordebau arbenigol:

  • Contemporary Writing and Climate Crisis
  • Speculative Fiction and the Climate Crisis
  • Crisis Writing
  • Literatures of Surveillance
  • Animals in Literature
  • Literature and the Sea
  • Contemporary Queer Fictions
  • Adventures with Poetry
  • Demons and Degenerates
  • Writing Crime Fiction
  • Telling True Stories
  • Reading and Writing Fantasy Fiction
  • Writing and Place
  • Literary Geographies.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|