BA

Astudiaethau Saesneg a Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)

BA Astudiaethau Saesneg a Dysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) Cod Q330 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae’r cwrs BA mewn Astudiaethau Saesneg a TESOL (dysgu saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) yn gyfle ichi astudio llenyddiaeth Saesneg ar hyd y canrifoedd, i ddadansoddi’r defnydd o iaith ac i archwilio ysgrifennu at wahanol ddibenion creadigol. Ar yr un pryd, cewch ddatblygu eich dealltwriaeth o’r iaith Saesneg a chaffaeliad iaith i’ch galluogi i ddysgu Saesneg fel ail iaith, gan wella’ch rhagolygon gyrfaol ar gyfer y dyfodol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae’r cwrs BA mewn Astudiaethau Saesneg a TESOL (dysgu saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill) yn gyfle ichi astudio llenyddiaeth Saesneg ar hyd y canrifoedd, i ddadansoddi’r defnydd o iaith ac i archwilio ysgrifennu at wahanol ddibenion creadigol. Ar yr un pryd, cewch ddatblygu eich dealltwriaeth o’r iaith Saesneg a chaffaeliad iaith i’ch galluogi i ddysgu Saesneg fel ail iaith, gan wella’ch rhagolygon gyrfaol ar gyfer y dyfodol.

Yn ogystal, cewch ddewis dilyn cwrs a fydd yn arwain at gymhwyster proffesiynol annibynnol - y dystysgrif dysgu saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill (TESOL).

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Astudiaethau Saesneg a TESOL yn Aberystwyth:

  • dysgu ochr yn ochr ag ymchwilwyr sy’n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu cyfraniadau i wybodaeth a datblygu’r ddisgyblaeth
  • manteisio ar draddodiad cryf o addysgu TESOL, ysgrifennu menywod, daearyddiaeth lenyddol, llenyddiaeth plant, ysgrifennu o Gymru yn Saesneg, ysgrifennu LGBTQ+, llenyddiaeth ôl-drefedigaethol, astudiaethau’r canol oesoedd a Rhamantiaeth, ymhlith eraill.


Gyrfaoedd

Gyda gradd mewn Astudiaethau Saesneg a TESOL byddwch mewn sefyllfa dda i wneud cais i astudio’n bellach neu i gael swydd yn syth ar ôl graddio. Bydd y llwybrau gyrfaol fydd ar gael ichi’n cynnwys;

  • ysgrifennu copi digidol
  • golygu
  • dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill
  • geiriadureg
  • newyddiaduraeth cylchgronau, papurau newydd, neu’r cyfryngau newydd
  • cyhoeddi, golygu copi/prawf ddarllen
  • addysg gynradd, uwchradd neu drydyddol
  • gwaith gydag asiantaethau talent
  • rheoli cynnwys ar wefannau
  •  ysgrifennu.

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Critical Practice
  • Creative Practice
  • Language Awareness for TESOL.

Yr ail flwyddyn:

  • Literary Theory: Debates and Dialogues
  • Approaches, Methods, and Teaching Techniques in TESOL.

Y flwyddyn olaf:

  • Undergraduate Dissertation or The Writing Project
  • TESOL Materials Development and the Application of Technologies.

Dyma rai o’r modiwlau dewisol y gallwch eu hastudio i ddatblygu eich diddordebau arbenigol:

  • Kapow! Reading and Writing Graphic Narratives
  • Adventures with Poetry
  • Telling True Stories
  • Writing Selves
  • Writing and Place
  • Writing Crime Fiction
  • Reading and Writing Fantasy Fiction
  • Shaping Plots
  • Poetry for Today
  • Contemporary Queer Fictions
  • Demons and Degenerates
  • Literature and the Sea
  • Contemporary Writing and Climate Crisis
  • Reading and Writing Science Fiction.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|