BSc

Astudiaethau Ceffylau

Bydd y Radd Astudiaethau Ceffylau blwyddyn o hyd hon yn addas i chi os ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Cenedlaethol Uwch neu Radd Sylfaen mewn astudiaethau ceffylau (yn amodol ar raddau) neu mewn maes perthnasol, a'ch bod am symud ymlaen at radd Anrhydedd BSc. Drwy astudio yn Aberystwyth, bydd modd i chi fanteisio ar yr enw da sydd gan ein cwrs BSc Astudiaethau Ceffylau mewn cylchoedd proffesiynol, a byddwch yn cael addysg alwedigaethol ac academaidd o ansawdd uchel.

Ac os nad yw hynny'n ddigon, dyma pam ein bod yn meddwl bod Aberystwyth yn lle gwych i fod yn Wyddonydd Ceffylau:

  • Cyfleusterau addysgu ac ymchwil gwych;
  • Staff addysgu angerddol, arbenigol, sy'n adnabyddus yn rhyngwladol;
  • Canolfan geffylau anhygoel, gydag arena dan do maint Olympaidd, manège sy'n addas i bob tywydd, corlan gron, cyfleuster cerdded i geffylau, a stablau hurio;
  • Lleoliad arfordirol syfrdanol gyda chyfleusterau marchogaeth a merlota helaeth, a milltiroedd o draethau digyffwrdd i garlamu ar eu hyd.


Trosolwg o'r Cwrs

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o brif ganolfannau ceffylau'r wlad ar gyfer addysgu ac ymchwil ar bopeth yn ymwneud â cheffylau. Ar y cwrs 'ategol' blwyddyn o hyd hwn, byddwch yn astudio ystod o bynciau gan gynnwys ffisioleg ymarfer corff ceffylau, maetheg ceffylau, bridio a rheoli fferm fridio, a marchnata ceffylau a rheoli busnes. Byddwch hefyd yn cynnal darn o ymchwil dwfn ac yn llunio traethawd hir ar bwnc yn ymwneud â cheffylau sydd o ddiddordeb neilltuol i chi, o dan arweiniad goruchwylydd. 

Pan fyddwch wedi'i gwblhau, bydd gennych ystod eang o sgiliau a gwybodaeth berthnasol er mwyn eich galluogi i ddilyn gyrfa foddhaus yn y diwydiant ceffylau.

Mae strwythur manwl y cwrs i'w weld drwy glicio'r tab 'cynnwys y cwrs'. Gall pynciau'r cwrs gynnwys:

  • Ffisioleg ymarfer corff ceffylau
  • Bridio ceffylau a rheoli ffermydd bridio
  • Rheoli busnes a marchnata ceffylau
  • Uwch faetheg ceffylau
  • Biofoeseg anifeiliaid

Darperir y cwrs hwn drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Mae darlithwyr gwadd ac athrawon arbenigol allanol hefyd yn cyfrannu at y cwricwlwm er mwyn rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd o'r diwydiant. Mae'r adran hefyd yn trefnu dangosiadau marchogaeth fel darlithoedd gwadd.

Byddwch yn cael eich addysgu gan gyfuniad o wyddonwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol ac arbenigwyr busnesau ceffylau, rheoli stablau a marchogaeth. Mae ein staff yn athrawon angerddol, sydd â blynyddoedd o brofiad yn cyfathrebu gwyddor a rheolaeth ceffylau. Mae dau aelod o'r staff wedi dod yn uwch gymrodyr yr Academi Addysg Uwch yn ddiweddar! Gallwch fod yn hyderus y byddwch yn dysgu gan y goreuon!

Mae gennym yr holl gyfleusterau sydd eu hangen arnoch i ddatblygu i fod yn wyddonydd ceffylau o'r radd flaenaf. Mae'r cyfleusterau'n cynnwys:

  • Labordai o'r safon uchaf
  • Arena dan do maint Olympaidd
  • Stablau, cyfleuster cerdded i geffylau a manège sy'n addas i bob tywydd
  • Stablau hurio

Byddwch yn cael eich dysgu yn IBERS (Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig), un o'r sefydliadau sydd â'r adnoddau gorau a'r mwyaf o'i fath yn Ewrop.

  • Enillydd gwobr categori 'Cyfraniad Eithriadol at Arloesedd a Thechnoleg' yng Ngwobrau Addysg Uwch y Times 2013.
  • Enillydd 'Gwobr Rhagoriaeth gydag Effaith' y Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol

Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Gofynnwch i'r adran am ragor o fanylion.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20
Marketing and Small Business Management BR34720 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Equine and Human Exercise Physiology BR35220 20

Gyrfaoedd

Byddwch yn cael llawer o gefnogaeth i ddatblygu eich sgiliau cyflogadwyedd drwy gydol y cynllun gradd. Gall y radd eich galluogi i ddatblygu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Byddwch yn ymuno ag adran sydd â chyfleusterau ardderchog i gefnogi eich astudiaethau; buddsoddwyd £55 miliwn yn isadeiledd IBERS yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf. Bydd gennych fynediad at gyfleusterau arbenigol; mae Canolfan Geffylau Lluest yn un o ganolfannau hyfforddi cymeradwy Cymdeithas Geffylau Prydain, sy'n cynnig hyfforddiant ar gyfer camau Cymdeithas Geffylau Prydain (Marchogaeth a Gofal) hyd at lefel Hyfforddwr. Mae'r cyfleusterau hyn yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau a'u gwybodaeth arbenigol, sy'n eu paratoi i drosglwyddo'n llwyddiannus i'r gweithle. Mae darlithwyr gwadd ac athrawon allanol arbenigol hefyd yn cyfrannu at y cwricwlwm er mwyn rhannu eu gwybodaeth a'u harbenigedd o'r diwydiant. Mae'r adran hefyd yn trefnu dangosiadau marchogaeth fel darlithoedd gwadd pan fo'n bosib.

Mae gan yr adran adnoddau ar y rhith-amgylchedd dysgu, sef Aberlearn Blackboard, er mwyn cefnogi eich datblygiad. Mae ganddi hefyd dudalen Trydar bwrpasol er mwyn rhoi gwybod i'r myfyrwyr am gyfleoedd datblygu gyrfa a phrofiad gwaith. Mae myfyrwyr wedi cymryd rhan mewn modiwl profiad gwaith er mwyn eu helpu i nodi a myfyrio ar y sgiliau cyflogadwyedd y maent yn eu datblygu drwy eu profiad gwaith.

Mae gan yr adran berthynas weithio agos gyda'r Gwasanaeth Gyrfaoedd, ac mae ganddi ymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt IBERS er mwyn cefnogi myfyrwyr gyda'u datblygiad gyrfaol. Trefnir digwyddiadau gyda chyflogwyr er mwyn i'r myfyrwyr gael cipolwg o wahanol gyflogwyr graddedigion a datblygu eu sgiliau rhwydweithio. Mae Grŵp Ymgynghori Cyflogaeth IBERS yn gwahodd ystod o gyflogwyr i roi cyngor ar y cwricwlwm a datblygu cyflogadwyedd, er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn meddu ar y sgiliau cywir sydd eu hangen ar gyflogwr graddedigion. Gall y Gwasanaeth Gyrfaoedd hefyd eich helpu a'ch cefnogi i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith yn lleol ac yn genedlaethol. Mae myfyrwyr o'r adran wedi cymryd rhan mewn cyfleoedd blas ar waith mewn ysgolion uwchradd lleol er mwyn cael profiad mewn gyrfa y mae ganddynt ddiddordeb ynddi.

Bydd eich BSc mewn Astudiaethau Ceffylau yn eich paratoi am yrfa mewn maes fel rheoli a goruchwylio mentrau ceffylau, megis rheoli fferm fridio ceffylau, hyfforddwr, ysgrafellwr, swyddog ymchwil bwyd anifeiliaid, swyddog pasbortau ceffylau, neu archwilydd i'r RSPCA. Mae graddedigion hefyd yn cael gwaith mewn busnesau amaeth, newyddiaduraeth wyddonol, addysgu ac ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Gallwch astudio ystod o fodiwlau, gan gynnwys ffisioleg ymarfer corff ceffylau, maetheg ceffylau, rheoli fferm fridio ceffylau, bridio anifeiliaid, ymddygiad a llesiant anifeiliaid, a marchnata ceffylau a rheoli busnesau bach. Byddwch hefyd yn cynnal darn o ymchwil dwfn ac yn llunio traethawd hir ar bwnc yn ymwneud â cheffylau o dan arweiniad goruchwylydd. Erbyn i chi raddio, byddwch yn llwyr gyfarwydd â'r datblygiadau diweddaraf yn y maes, a bydd modd i chi gyflawni safon o ofal ceffylau sy'n gwbl addas i'r unfed ganrif ar hugain.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y cwrs hwn drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Byddwch yn cael cyfle i ddysgu am gysyniadau a methodoleg yn ymwneud â gwyddor ceffylau, wedi'i ategu gan ymchwil labordy ac arbrofi.

Bydd y dulliau asesu yn amrywio, gan gynnwys traethodau, tasgau ymarferol, cyflwyniadau llafar, arholiadau, adroddiadau labordy, taflenni gwaith, astudiaethau achos, adroddiadau ymarferol, portffolios, erthyglau cylchgronau, tudalennau gwe a phodlediadau. Yn yr holl feysydd hyn, bydd angen i chi ddangos manwl gywirdeb gwyddonol a defnyddio dull systematig o ymdrin â'r problemau a osodir ger eich bron.

Bydd cymuned wyddonol y Brifysgol a staff cynorthwyol yr Athrofa yn eich cynorthwyo'n sylweddol â'ch hyfforddiant ceffylau. Byddwch hefyd yn elwa ar y cyfleoedd niferus yn y sefydliad a'r brifysgol i ddatblygu eich arbenigedd ymarferol a damcaniaethol i sicrhau y byddwch, wrth raddio, yn y sefyllfa berffaith ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd portffolio'r CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn rydw i'n hoff ohono gydag Astudiaethau Ceffylau yw fy mod wedi dysgu marchogaeth pob math o geffylau, a defnyddio'r hyn rydw i'n ei wybod i addasu fy arddull marchogaeth i weddu i bob ceffyl unigol. Rydw i wedi dysgu pethau am geffylau i lefel na fyswn i fyth wedi'i gyflawni fel arall; mae maetheg, er enghraifft, wastad wedi bod yn ddirgelwch i fi. Cwrs gwych! Jessica Lee Macnamara

Mae Astudiaethau Ceffylau yn eich galluogi i astudio ystod eang o bynciau'n ymwneud â cheffylau, felly mae'n debygol y bydd wastad rhywbeth y byddwch chi'n ei fwynhau. Mae'r staff yn gyfeillgar ac yn barod i helpu, yn enwedig staff yr iard. Gallwch siarad gyda'r staff fel petaen nhw'n ffrindiau i chi, nid tiwtoriaid yn unig. Mae'r ceffylau yn yr iard yn rhoi cyfle gwych i unrhyw un, waeth beth yw lefel eich gallu marchogaeth. Cwrs da iawn i unrhyw un sydd wrth eu boddau â cheffylau. Lisa Ann Ainscough


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Must pass a Foundation Degree in an appropriate subject area with an overall grade of Merit or above

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:

Bagloriaeth Ryngwladol:

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|