BSc

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D335 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn Aberystwyth yw’r unig radd o’i bath yn y DU. Mae’n manteisio ar enw da Aberystwyth fel darparwr cyrsiau ceffylau hirsefydlog, ein cryfderau ymchwil ym maes afiechyd, maeth, atgenhedlu ac ymddygiad anifeiliaid, a’n cysylltiadau cydweithredol â milfeddygon Canolfan Gwyddor Filfeddygol Cymru.

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd y radd hon yn rhoi ichi sylfaen gadarn o safbwynt cysyniadau craidd meddygaeth filfeddygol, gan gynnwys imiwnoleg, prosesau afiechydon, a gwneud diagnosis a thrin afiechydon mewn amryw o rywogaethau. Byddwch yn plethu’r wybodaeth ddamcaniaethol â’r sgiliau ymarferol a fydd yn rhoi pwyslais penodol ar ffisioleg y ceffyl.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn Aberystwyth:

  • astudio gyda’r darparwr cyrsiau ceffylau hynaf yn y DU
  • cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys canolfan fawr i ddysgu am geffylau, arenâu dan do ac awyr agored, cerddwr ceffylau, corlan gron, pont bwyso, solariwm, stablau a blychau bwrw ebol gyda chamerâu cylch cyfyng, mannau arddangos, labordai a llawer mwy
  • astudio mewn canolfan addysgu wedi’i chymeradwyo gan Gymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) lle gallwch astudio am gymwysterau BHS
  • addysgu a dysgu gyda chefnogaeth ymchwilwyr a gydnabyddir yn rhyngwladol a milfeddygon go iawn.


Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi?

Mae ein cyn-fyfyrwyr yn dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol ar hyn o bryd:

  • Gwyddonydd Ymchwil;
  • Gweithio mewn cwmnïau maetheg;
  • Y diwydiant fferyllol;
  • Astudiaeth ôl-raddedig Msc a PhD

Wrth astudio Gwyddor Ceffylau, byddwch yn datblygu sgiliau arbenigol yn cynnwys:

  • Y gallu i werthuso anghenion ffisiolegol ystod o rywogaethau o ran iechyd a chlefydau, gyda phwyslais arbennig ar geffylau.

Rhagor o wybodaeth:

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Fel cangen arbenigol o Swoleg, mae eich gradd BSc mewn Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn agor drysau at ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer swyddi a hyfforddiant pellach. Yn ogystal, bydd y cyfleoedd lleoliadau gwaith fydd ar gael i chi yn eich helpu i gael profiad gwerthfawr yn y diwydiant.

Dysgu ac Addysgu

Os oes gennych ddiddordeb yn y fioleg sy'n sail i iechyd a llesiant ceffylau ac ystod o anifeiliaid eraill, yna mae'r cwrs Biowyddor Ceffylau a Milfeddygol yn addas i chi. Dyma pam rydyn ni'n meddwl mai Aberystwyth yw'r lle gorau un i gyflawni eich taith o ddarganfod.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Gallwch ymchwilio i'r pwnc o safbwyntiau clinigol a llesiant, hyd at y datblygiadau diweddaraf ym maes biodechnoleg anifeiliaid, biofoeseg a chlefydau heintus. Mae strwythur manwl y cwrs i'w weld drwy glicio'r tab 'cynnwys y cwrs'. Mae meysydd pwnc enghreifftiol yn cynnwys:

  • Anatomeg a ffisioleg
  • Egwyddorion geneteg a metabolaeth
  • Ffisioleg ymarfer corff ceffylau
  • Rheoli ceffylau perfformio
  • Taith astudio ceffylau
  • Egwyddorion gwyddor filfeddygol
  • Ymddygiad a llesiant anifeiliaid
  • Maetheg
  • Rheoli ffermydd bridio ceffylau
  • Gwyddor filfeddygol gymhwysol
  • Cyffuriau milfeddygol a chlefydau heintus milfeddygol

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y cwrs hwn drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymweliadau maes a gwaith labordy. Bydd gennych gyfle i ddatblygu astudiaeth o gysyniadau, ymchwil a methodoleg yn ymwneud â biowyddor ceffylau a milfeddygol. Byddwch yn archwilio hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â thasgau ymarferol. Gallwch hefyd gymryd rhan mewn taith astudio, a fydd yn cynnwys ystod o sefydliadau gwahanol yn ymwneud â cheffylau, a gall gynnwys stablau hyfforddi rasio, ffermydd bridio, cyrsiau rasio ac ysbytai milfeddygol.

Byddwch yn cael eich addysgu gan wyddonwyr arbenigol sydd ag enw da yn rhyngwladol, ac sy'n cynnal ymchwil mewn ystod eang o feysydd gwyddor anifeiliaid a cheffylau. Mae ein darlithwyr yn athrawon angerddol hefyd, ac mae ganddynt flynyddoedd o brofiad yn cyfathrebu gwyddor ceffylau ac anifeiliaid eraill.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC with B in Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|