BA

Astudiaethau Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg

BA Astudiaethau Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg Cod QW36 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wrth ddewis astudio'r radd Astudiaethau Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg hon, byddwch yn ymgolli mewn disgyblaeth drwyadl a heriol sy'n cyfuno cydrannau ymarferol a damcaniaethol. Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn cydweithio'n agos â'r BBC, S4C, a chwmni Boomerang. Gan ganolbwyntio ar ddatblygu'r cymwyseddau a'r galluoedd hanfodol a fynnir gan gyflogwyr allweddol y diwydiant, bydd y radd Astudiaethau Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi'r sgiliau a'r nodweddion sydd eu hangen yn y ddisgyblaeth i chi. Ar ben hynny, byddwch yn cael eich addysgu yn un o gyfleusterau mwyaf blaenllaw gwledydd Prydain gan staff brwdfrydig ac ymroddgar. Yn ogystal, byddwch yn dilyn maes llafur craidd sy'n cydberthyn mewn Llenyddiaeth Saesneg.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu / Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn ymuno ag adran fywiog a chreadigol lle mae drama, theatr, ffilm a chyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn cyd-daro.
  • Yn y ddwy ddisgyblaeth, byddwch yn elwa ar dirweddau dysgu sy'n cydblethu lle mae theori ac ymarfer wedi'u cynllunio i ategu ei gilydd. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn graddio gyda gradd safon aur sy'n cael ei gwerthfawrogi a'i chydnabod gan bob cyflogwr. 
  • Ar draws y ddau bwnc a thrwy gydol y cwrs hwn, bydd gennych yr opsiwn i ddewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau ymarferol a damcaniaethol mewn ffilm a theledu, o ffuglennol i ddogfennol, ac o brif ffrwd i arbrofol.
  • Yn eich blwyddyn olaf, cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yn y canolbarth - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig gwych.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan staff rhagorol a fydd yn eich arwain a'ch mentora yn ystod y cwrs hwn. Mae eich arbenigwyr addysgu yn ymchwilwyr gweithgar sy'n gweithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau allanol.
  • Mae'r adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn gartref i New Welsh Review, cylchgrawn llenyddol Saesneg mwyaf blaenllaw Cymru - gallai hwn fod yn gyfle cyffrous i chi gymryd rhan. Byddwch yn cael eich trochi mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr llenyddol, ac ysgolheigion cyhoeddedig o bob maes.
  • Bydd gan bob myfyriwr fynediad i'n cyfleusterau a'n hadnoddau gwych ar gyfer gwaith ymarferol mewn ffilm a theledu: Stiwdio deledu a galeri Manylder Uwch gyda thri chamera ac adnoddau allwedd croma ac awtociw; 30 o systemau golygu – meddalwedd Avid Media Composer, Adobe Premiere Pro a Final Cut Pro; 50 o gamerâu HD o safon a ddefnyddir yn y diwydiant – fformatau P2 ac AVCHD; a chamerâu DSLR a GoPro ar gael.
  • Gan fod y Llyfrgell Genedlaethol ar garreg ein drws, mae gennym fynediad diderfyn i'r archif Sgrin a Sain yn y Llyfrgell Genedlaethol a Chanolfan y Celfyddydau. Bydd hyn yn fuddiol i chi drwy gydol eich cwrs, yn enwedig yn eich blwyddyn olaf. 


Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11520 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20
Ancestral Voices EN10220 20
Critical Practice EN11320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Academic Writing: Planning, Process and Product IC17720 20
American Literature 1819-1925 EN11220 20
Contemporary Writing EN10520 20
Greek and Roman Epic and Drama CL10120 20
Introduction to Poetry WL10420 20
Language Awareness for TESOL IC13420 20
Literature And The Sea WL11420 20
Peering into Possibility: Speculative Fiction and the Now WL11920 20
Re-imagining Nineteenth-Century Literature WL10120 20
Movements in Film History FM11120 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu gyda Llenyddiaeth Saesneg?

Mae llawer o'n graddedigion wedi llwyddo i ddod o hyd i gyflogaeth yn y meysydd canlynol:

  • ymchwilio, golygu, rheoli'r llawr, gweithredu camera, dylunio neu gyfarwyddo gyda chwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu
  • dosbarthu ffilmiau
  • gwneud ffilmiau ar eu liwt eu hunain
  • marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • rhaglennu gwyliau ffilm
  • hysbysebu
  • gweinyddu'r celfyddydau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu hennill o'r radd?

Mae myfyrwyr yn ein hadran yn ennill y sgiliau trosglwyddadwy canlynol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys gallu:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfleu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu eich amser yn effeithiol a defnyddio'ch sgiliau
  • gwrando ar gyngor beirniadol a gwneud defnydd ohono
  • ysgogi a disgyblu'ch hun
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

A oes unrhyw gyfleoedd profiad gwaith wrth astudio?

Mae gan yr adran bartneriaethau a chysylltiadau cryf gyda llawer o sefydliadau ee y BBC, Fiction Factory a Boom Pictures, y mae ein myfyrwyr wedi cael cynnig lleoliadau gwaith gyda nhw.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • modiwlau cyflwyniadol craidd ar hanes, theori a dadansoddi cynhyrchion ffilm a theledu
  • modiwlau ymarferol sy'n datblygu sgiliau ym mhob cam o'r broses gynhyrchu: sgriptio, ffilmio, cyfarwyddo, a golygu'r gwaith terfynol
  • dewis o fodiwlau mewn sinema Brydeinig, sinema glasurol Hollywood ac astudio'r Cyfryngau
  • technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • barddoniaeth, rhyddiaith, drama, llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol. 

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech gael cyfle i wneud y canlynol:

  • datblygu sgiliau mewn cynhyrchu stiwdio, gwneud ffilmiau dogfennol ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • dysgu gwybodaeth a sgiliau hanfodol allweddol mewn ystod o fodiwlau damcaniaethol sy'n cydblethu ac sy'n rhychwantu sinema Hollywood, gwneud ffilmiau dogfennol, sinema celf a materion cyfoes mewn diwylliant digidol
  • astudio'r agweddau damcaniaethol ac ymarferol ar feirniadaeth lenyddol
  • astudio ystod o destunau craidd dethol o'r canoloesoedd hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • astudio nifer o bynciau arbenigol a ddewiswyd gennych chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel Oes Fictoria), neu thema (fel "lle")
  • cynyddu eich cyfleoedd cyflogaeth a'ch sgiliau trosglwyddadwy drwy'r modiwl lleoliad gwaith gorfodol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, bydd modd i chi:

  • arbenigo mewn cynhyrchu dogfennau, ffilm ffuglen, cyfryngau arbrofol neu sgriptio a meithrin sgiliau uwch yn y maes hwn
  • astudio meysydd pwnc arbenigol sy'n ymdrin â hanes technoleg, ffilm arbrofol, sinema cwlt, teledu a chymdeithas yn yr ugeinfed ganrif, ac enwogrwydd
  • astudio damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
  • cyflawni gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
  • dewis eich arbenigeddau eich hun o blith ystod amrywiol o fodiwlau opsiynol a addysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny. Mae ein modiwlau opsiynol yn cynnwys pynciau fel drama Elizabethaidd, y stori ysbryd, y nofel Saesneg gynnar, ffuglen queer, llenyddiaeth plant, rhamantiaeth, a llawer mwy.

Cewch gychwyn ar brosiect ymchwil annibynnol, gan arwain at draethawd hir ar bwnc o'ch dewis sy'n ymwneud â ffilm a theledu;

Cewch elwa ar gymorth ac arweiniad helaeth waeth pa lwybr bynnag y penderfynwch ei ddilyn.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy amrywiaeth o ddulliau, yn cynnwys darlithoedd, seminarau, dangosiadau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect grŵp. Mae cynnig amrywiaeth yn y gweithgarwch yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac mae'n creu amgylchedd dysgu sy'n gyffrous a chynhyrchiol mewn modd unigryw.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy:

  • cynyrchiadau dyfeisio mewn grŵp
  • prosiectau ffilm a fideo unigol
  • dadansoddiadau ymarferol
  • dyddiaduron cynhyrchu a sgriptio creadigol
  • traethodau ac arholiadau ffurfiol
  • blogiau, Wicis a dyddlyfrau myfyriol
  • cyflwyniadau seminar.

Gallai asesiadau ychwanegol gynnwys:

  • byrddau stori
  • sgriptiau ffilm
  • cynigion.

Gallech ddefnyddio'r holl ddeunyddiau hyn i greu portffolio gwaith i'w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn dw i'n ei hoffi fwyaf am Astudiaethau Ffilm a Theledu yw'r staff addysgu. Maen nhw'n weithwyr proffesiynol profiadol sy'n ddynamig, yn frwdfrydig, ac yn bwysicaf oll, yn hawdd mynd atyn nhw; mae'n golygu bod y profiad dysgu yn hwyliog, ac mae fy hyder wedi cynyddu o ganlyniad i hyn. Dw i hefyd yn mwynhau'r modiwlau amrywiol sydd i'w cael. Mae'r sesiynau ymarferol yn wych gan eu bod yn caniatáu i fi arbrofi gyda fy syniadau fy hun, ond dw i hefyd yn dysgu sgiliau gwerthfawr ar yr un pryd. Fy hoff fodiwlau hyd yma yw Ysgrifennu Sgript; Dychmygu'r Ffilm Fer; ac Ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol, ac mae'r modiwlau yma yn fy ngalluogi i ddatblygu fy nychymyg. Angela Wendy Rumble

Mae Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anhygoel. Mae gan y cwrs awyrgylch gwych, sy'n amlwg i'w weld o'r cyswllt sydd rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae ochr academaidd y cwrs yn agoriad llygad; mae'n cyffwrdd ag ystod eang o bynciau ac yn ymdrin â phob un o'r rhain yn fanwl, ac mae hyn yn gweithio'n dda hyd yn oed ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno canolbwyntio ar y modiwlau mwy ymarferol. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, yn ogystal â chyfleoedd i fyfyrwyr fireinio'u sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gydag offer yr adran. Mae yna hefyd gymdeithas ffilm boblogaidd. Joe Williams

Yr hyn dw i'n ei fwynhau ynghylch astudiaethau Ffilm a Theledu yw'r amrywiaeth o feysydd dw i wedi cael cyfle i fod yn rhan ohonyn nhw. Llynedd, fydden i byth wedi bod â'r hyder na'r ddealltwriaeth i drefnu tîm cynhyrchu, i greu a marchnata ffilmiau byrion nac i weithio mewn stiwdio tri chamera. Yr hyn ro'n i'n chwilio amdano gan Brifysgol Aberystwyth oedd y sgiliau i ddod yn wneuthurwr ffilm; a'r hyn ges i oedd sgiliau ymarferol, dealltwriaeth o ddadleuon academaidd, a chysylltiadau sydd wedi rhoi cipolwg i fi ar y diwydiant ffilm a theledu. Peter Gosiewski

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|