BA

Almaeneg / Sbaeneg

BA Almaeneg / Sbaeneg Cod RR24 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae'r radd BA Almaeneg gyda Sbaeneg yn eich galluogi i astudio dwy iaith ar yr un pryd. Bydd y radd hon yn eich galluogi i ddatblygu cymhwysedd ieithyddol o ran siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu, a chyfieithu. Yn ogystal, byddwch hefyd yn cael cyfle i edrych ar gymdeithas a diwylliant eich dewis ieithoedd trwy ein hystod eang o opsiynau. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn datblygu eich cymwyseddau ieithyddol a thrin a thrafod yr ieithoedd ymhellach o fewn cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol, yna dyma’r cwrs i chi.

Trosolwg o'r Cwrs

Why study German / Spanish at Aberystwyth University?

  • From the off-set, you will receive 4 hours of language work per week. This includes reading/writing, aural, listening and translation. These four areas of linguistic development provides you with the solid foundation to increase your fluency competencies in German and Spanish.
  • This degree is also available to students who wish to study German and Spanish at beginners level. At beginners' level, in your first year you will be taught differently from the students who are entering the course at advanced level (A level or equivalent). You will receive intensive language classes bringing you to the same linguistic level as our advanced students. In your second and final year, you will be continuing the course with all advanced students.
  • In addition to linguistic classes, we offer all students core and optional modules that expose you to literature, culture, language, politics and business.
  • All students in our department thrive in our multilingual environment. As a vibrant University, we attract students from all corners of the world. Many of our staff who will teach you are native speakers of the target language that they speak. We also teach most of our modules and classes through the target language, therefore the combination of departmental life and academic development will ensure that you have maximum exposure to the target languages that you're learning.
  • The highlight of this degree for all of our students is the year abroad. As you're studying two languages, you will be required to spend your year abroad (your third year) equally between Germany and Spain. Some students opt to spend their time equally studying with our partnered Universities in Spain (or a Spanish speaking country) and Germany or Austria. Others have spend their time equally undertaking a paid or unpaid work experience placement in the two countries. Find out what your options are by visiting our Studying Abroad page.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'n haddysgu ar draws yr Adran Ieithoedd Modern. Y Flwyddyn Dramor yw'r hyn sy'n gwneud i'n graddedigion sefyll allan ar ôl graddio. Ar ôl cwblhau'r Flwyddyn Dramor yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn dychwelyd gyda set o sgiliau ehangach, mwy o hyfedredd yn yr iaith, a'r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa.

Mae ein graddedigion wedi llwyddo i ddod o hyd i waith ar ôl graddio. Mae ein graddedigion yn llwyddiannus yn y meysydd hyn (ymhlith eraill):

  • Cyfieithu a dehongli;
  • Darlledu;
  • Addysg;
  • Marchnata;
  • Adnoddau Dynol;
  • Datblygu Gwefannau;
  • Bancio Rhyngwladol;
  • Y Gwasanaeth Sifil.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Ym mhob blwyddyn byddwch yn astudio modiwl iaith craidd ac amrywiaeth o fodiwlau dewisol. Bydd y modiwlau iaith yn datblygu sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu. Yn y flwyddyn gyntaf gall modiwlau dewisol gynnwys:

  • Cyflwyniad i astudiaethau llenyddol a gwareiddiad;
  • Ffilmiau Ewropeaidd;
  • Iaith, Diwylliant a Hunaniaeth yn Ewrop

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallwch ddewis o’r canlynol:

  • Prosiect ymchwil annibynnol;
  • Modiwlau ieithoedd arbenigol (iaith busnes ac ati)
  • Dewis mawr o fodiwlau cynnwys ar lenyddiaeth, ffilm a chelf;
  • Dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill;

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio neu'n gweithio dramor, fel arfer yn rhannu'r amser rhwng gwlad sy'n siarad Almaeneg a gwlad sy'n siarad Sbaeneg.

Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis o fodiwlau megis:

  • Semanteg a Geiriaduraeth
  • Mudiadau diwylliannol ac artistig.
  • Llenyddiaeth Almaeneg;
  • Ieithyddiaeth Almaeneg;
  • Actualidades;
  • Dysgu Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill;
  • Prosiect ymchwil annibynnol;

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Defnyddir amrywiaeth o fformatau addysgu yn y dosbarth. Bydd darlithoedd yn eich cyflwyno i bynciau, ond mewn seminarau bydd disgwyl i chi gymryd rhan yn y drafodaeth.

Byddwch yn cael eich asesu yn y modiwlau mewn sawl ffordd. Bydd yn rhaid i chi roi cyflwyniadau llafar, sefyll profion gwrando, ysgrifennu adroddiadau a gwneud cyfieithiadau cynyddol gymhleth mewn dosbarthiadau iaith, yn ogystal â sefyll arholiadau llafar ac ysgrifenedig. Mewn modiwlau cynnwys, mae’n bosibl y gofynnir i chi ysgrifennu traethodau, creu prosiect ymchwil, rhoi cyflwyniad llafar, neu sefyll arholiad. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|