Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Aberystwyth yn un o’r
adrannau mwyaf blaenllaw a phrofiadol o’i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn
cynnig cyfle unigryw i chi astudio daearyddiaeth yn un o’r lleoliadau prydferthaf
yn Ewrop. Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear wedi’i lleoli ar arfordir
Bae Ceredigion ac wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dirweddau hardd, yn
cynnwys y môr, gweundiroedd, mynyddoedd a glaswelltiroedd; mae hi mewn lle
unigryw i wneud y gorau o’r tirweddau gwych sy’n ei hamgylchynu, ac yn cynnig
amrywiaeth arbennig o gyfleoedd gwaith maes a hamdden i chi. Bydd y radd hon yn
eich arfogi â’r sgiliau, y galluoedd a’r arbenigedd i wynebu ac ymgysylltu â’r
heriau sy’n wynebu’r gymdeithas sydd ohoni.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
91% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddor Daear. (ACF 2019)
97% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 4% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Ffisegol yn genedlaethol (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol
Aberystwyth?
Cafodd y rhaglen hon ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gyda Sefydliad Daearyddwyr Prydain). Trwy achrediad cydnabyddir rhaglenni sy’n darparu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, y sgiliau, y dulliau a’r nodweddion proffesiynol daearyddol sy’n ddisgwyliedig gan raddedigion safonol ym maes daearyddiaeth, fel a gofnodwyd yn Natganiad Meincnod Pwnc yr ASA ar gyfer Daearyddiaeth.
Gan ein bod yn
gymuned Ddaearyddiaeth fawr a deinamig, gallwn gynnig amrywiaeth eang iawn i
chi o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddol;
Prosesau dalgylch afon
Rhewlifeg
Biodaearyddiaeth
Newid Amgylcheddol Cwaternaidd
Tueddiadau cyfoes mewn Daearberyglon
Cynaliadwyedd Trefol
Datblygu Rhanbarthol
Daearyddiaeth Wleidyddol a Diwylliannol
Cyfleoedd am waith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd, Ffrainc, Iwerddon, Gwlad yr Iâ, Mynydd Etna, Ecuador a Pheriw, ymhlith eraill
Gwobrau teithio ar gael bob blwyddyn i ariannu eich anturiaethau (hyd at £400)
Cyfleusterau addysgu o’r radd flaenaf a’r dechnoleg ddiweddaraf i gyfoethogi dysgu
Labordai llawn cyfarpar yn cynnwys amrywiaeth o offerynnau dadansoddi e.e. sbectromedrau a sganwyr craidd sy’n gallu cael eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudio yn annibynnol
Ein Staff
Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein graddedigion wedi cael swyddi fel ymgynghorwyr amgylcheddol,
cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym myd addysg, ymhlith swyddi eraill.
Mae cyflogadwyedd
yn rhan annatod o’r holl gyrsiau a gynigiwn. Mae ein graddau yn cynnig sylfaen
gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn
economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn gallu addasu a
galw ar ystod o sgiliau trosglwyddadwy, gan sicrhau bod galw amdanynt drwy’r
amser.
Ymhlith y setiau
sgiliau y mae:
Gwell sgiliau mathemategol a chyfrifiadurol
Sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
Sgiliau technoleg gwybodaeth cadarn
Gallu gweithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm
Sgiliau rheoli amser a threfnu
Sgiliau cyfathrebu ysgrifenedig ac ar lafar
Hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
Cynllun
Blwyddyn mewn Gwaith (BMG) a Lleoliadau Myfyrwyr
Mae profiad gwaith yn ystod eich
gradd yn ffordd bendant o wella eich siawns o gael swydd ar ôl graddio. I helpu
gyda hyn, anogir myfyrwyr yr Adran i gymryd rhan yn y cynllun BMG rhwng ail flwyddyn
a blwyddyn derfynol eu gradd, sy’n golygu treulio 12 mis yn gweithio am dâl cyn
cwblhau eu gradd.
Mae bwrsariaethau ar gael yn
ogystal i gefnogi lleoliadau myfyrwyr byrrach yn ystod y gwyliau. Bob blwyddyn,
byddwn yn cynnal cystadleuaeth sy’n gwahodd myfyrwyr i rannu eu profiadau
gwaith trwy adroddiadau a chyflwyniadau llafar, a bydd yr enillwyr yn derbyn
gwobr ac adborth gan aelodau o’r gymuned fusnes sydd ar y panel beirniaid.
Cyfleoedd
Rhyngwladol
Yn ogystal â phrofiad o fyd
gwaith, mae teithio’n annibynnol hefyd yn cael ei gydnabod fel elfen allweddol
o ddatblygiad myfyrwyr. I gefnogi hynny, rydym yn cynnig bwrsariaethau i helpu
gyda theithiau israddedigion. Ymhlith y lleoliadau diweddar roedd Uganda,
Madagascar, Periw, Mynydd Etna a’r Unol Daleithiau.
Mae’r Adran hefyd wedi sefydlu
Rhaglenni Cyfnewid Erasmus gyda Phrifysgol Bergen, Prifysgol Oulu, y Ffindir, a
Chanolfan y Brifysgol yn Svalbard, gan roi’r cyfle unigryw i fyfyrwyr astudio
yn un o amgylcheddau mwyaf eithafol y byd. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â
nifer o brifysgolion yng Ngogledd America, lle gall y myfyrwyr gwblhau ail
flwyddyn eu hastudiaethau. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein Cydlynydd
Cyfnewid wedi goruchwylio lleoliadau ym Mhrifysgol Purdue (Indiana), Prifysgol
Alabama, Prifysgol Georgia, Prifysgol Montana a Phrifysgol Ottawa yng Nghanada.
Addysg a Dysgu
Beth fyddaf yn ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i
chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn eich blwyddyn gyntaf, fe’ch
cyflwynir i:
Gysyniadau allweddol mewn astudiaethau daearyddol
Problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
Newid hinsawdd
Prosesau’r tirwedd
Datblygiad economaidd
Globaleiddio
Yn eich ail
flwyddyn byddwch yn datblygu ymhellach yn y meysydd canlynol:
Eich maes
Sgiliau labordy ac ymchwilio ar gyfrifiadur wrth baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
Byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi setiau data meintiol
Cynhyrchu mapiau a graffiau eraill i gynrychioli data daearyddol.
Cymryd rhan mewn taith faes breswyl yn y DU neu dramor.
Cewch hefyd ddewis modiwlau dewisol ar gyfer arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth
Yn eich trydedd
flwyddyn:
Byddwch yn gwneud prosiect ymchwil annibynnol fydd yn golygu casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun.
Bydd modiwlau dewisol amrywiol yn cynnwys rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, newid hinsawdd y gorffennol, trefoli, a newid yng nghefn gwlad, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â’ch diddordebau chi.
Sut byddaf yn cael fy nysgu?
Caiff ein cyrsiau eu dysgu trwy
gyfrwng darlithoedd, seminarau a dosbarthiadau ymarferol mewn labordai neu ar
gyfrifiaduron, dosbarthiadau tiwtorial i grwpiau bychain, cyrsiau maes a
goruchwylio gwaith prosiect unigolion.
Sut byddaf yn cael f’asesu?
Byddwn yn asesu ein myfyrwyr trwy
ystod amrywiol o ddulliau. Caiff ambell fodiwl ei asesu’n rhannol drwy arholiadau
traddodiadol, ond bydd gan eraill elfennau o waith cwrs. Mae gennym hefyd
fodiwlau all ofyn i’r myfyrwyr lunio adroddiadau ymarferol, cyflwyniadau
llafar, cynllunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at
fforymau trafod ar lein. Bydd rhai modiwlau, sef y tiwtorialau a’r cyrsiau maes
yn benodol, yn cael eu hasesu’n llwyr trwy waith cwrs.
Barn ein Myfyrwyr
Yr hyn apeliodd ataf am y cwrs oedd y cyfle i wneud modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn grwpiau dysgu bach, enw da’r adran a’r amrywiaeth o bynciau diddorol a ddysgir megis daearyddiaeth wleidyddol, daearyddiaeth economaidd a daearyddiaeth yr Unol Daleithiau. Fe fues i’n ddigon lwcus i deithio i Efrog Newydd ar drip gwaith maes gyda’r adran gan astudio ffactorau trefol a naturiol cymhleth y ddinas wrth brofi’r awyrgylch hollol unigryw sydd yno. Roedd y profiad yn un cyffrous a bythgofiadwy. Teimlaf fy mod wedi dysgu sgiliau a gwybodaeth newydd, ehangu fy ngorwelion a herio fy hun yn gyson tra fy mod yn yr adran. Dau o fy hoff fodiwlau oedd Adnoddau Dŵr a Hydroleg Fydol a Daearyddiaeth y Wladwriaeth a Chenedlaetholdeb gan eu bod yn canolbwyntio ar faterion cyfoes o bwys a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Angharad Thomas