Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Drwy ddewis astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn astudio un
o’r pynciau mwyaf gwerthfawr. Mae’r rhan fwyaf ohonom ni’n chwilfrydig am y
gorffennol a’r ffordd mae cymdeithasau dynol wedi esblygu dros amser. Bydd
gradd mewn Hanes yn caniatáu i chi osod y gorffennol mewn persbectif a’ch
arfogi eich hun â sgiliau dadansoddol dehongli, dadansoddi a chyfathrebu sydd
mor hanfodol mewn bywyd bob dydd ac y mae cyflogwyr yn awyddus iawn i’w canfod.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
96% boddhad cyffredinol myfyrwyr yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru. (ACF 2019)
99% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chew mis ar ôl graddio, 6% yn uwch na graddedigion o’r Astudiaethau Hanesyddol ac Athronyddol yn genedlaethol.(HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Hanes ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Mae Hanes wedi’i ddysgu yn Aberystwyth ers 1872, sy’n golygu mai ein hadran yw’r hynaf yng Nghymru ac un o’r blaenaf ym Mhrydain;
Mae ein graddau’n arloesol sy’n sicrhau y cewch y cymhwyster gorau;
Fe’n graddiwyd yn uchel gan ein myfyrwyr yn yr Arolwg Blynyddol o Fyfyrwyr (NSS);
Mae ein meysydd pwnc yn amrywio o hanes cynnar i hanes modern, hanes gwleidyddol, hanes cymdeithasol, hanes economaidd a diwylliannol;
Mae gennym lyfrgell hawlfraint ar y campws, Llyfrgell Genedlaethol Cymru;
Cyfleoedd cyfnewid cyffrous ar gael.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:
Addysg;
Y Gyfraith;
Archifwyr;
Cyhoeddwyr;
Gwleidyddion;
Gweision Sifil;
Y Cyfryngau;
Y Lluoedd Arfog;
Entrepreneuriaid.
Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:
Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw;
Guto Bebb, Aelod Seneddol;
Dr Joanne Cayford, BBC;
Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel;
Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C;
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth
Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!
Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:
‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’
Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor
Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd. https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/
Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:
Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.
Addysg a Dysgu
Beth fyddaf i’n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod eich blwyddyn gyntaf fe allech ddarganfod:
Cysyniadau newydd a sgiliau hanesyddol;
Dulliau a chyfnodau newydd;
Hanes Cymru o 1250-1800;
Y Rhyfel Byd Cyntaf a Phrydain;
Moderniaeth a chreu Asia;
Gweithiau hanesyddol diweddar cyffrous;
Ein dewis o fodiwlau eraill sy’n adlewyrchu ystod gronolegol a thematig eang.
Yn ystod eich ail flwyddyn gallech archwilio:
Dull hanesyddol, sy’n edrych ar y ffordd mae ystyr, dulliau ac ysgrifennu hanes wedi newid dros amser;
Hanes Ewrop;
Yr Almaen a Natsïaeth;
Yr Ymerodraeth Brydeinig: Prydain ac Iwerddon, 1850-1914;
Golwg ar grefft yr hanesydd;
Ein gwahanol bynciau a chyfnodau o’n rhestr helaeth o fodiwlau.
Yn ystod eich trydedd flwyddyn gallech astudio:
Pwnc arbennig sy’n eich galluogi i gynnal ymchwil dwys, gan ddefnyddio ffynonellau gwreiddiol sydd oll yn eich galluogi i ddefnyddio sgiliau ymchwil beirniadol hanesydd ymarferol;
Rhywedd mewn Hanes;
Cymdeithas Prydain a’r chwyldro Ffrengig;
Hanes, Crefydd a Dewiniaeth;
Stalin a Rwsia.
Sut fyddaf i’n cael fy addysgu a fy asesu?
Bydd y gwahanol ddulliau dysgu, addysgu ac asesu a ddefnyddir gennym ni yn yr adran yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau mewn rhoi cyflwyniad i grŵp bach (seminarau ac asesu llafar), ysgrifennu ffurfiol (traethodau), ymchwil a datblygu syniadau ar ffurf ysgrifenedig (traethawd hir), a gweithio fel rhan o dîm (seminarau a chynadleddau myfyrwyr, fel y Colocwiwm Canoloesol blynyddol yng Ngregynog). Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn cynnal tiwtorialau academaidd unigol i bob myfyriwr, sy’n anarferol y tu allan i Rydychen a Chaergrawnt, a cheir system gefnogol o diwtoriaid personol. Drwy’r cyswllt un i un hwn, byddwch yn gallu trafod gyrfaoedd posibl, neu efallai astudiaethau pellach, gyda mentoriaid academaidd.
Barn ein Myfyrwyr
Des i yma ar ddiwrnod agored a syrthiais mewn cariad â’r lle a’i awyrgylch, felly penderfynais ddod yma i astudio. Cefais ysgoloriaeth i ddod yma, a oedd hefyd yn help mawr.
Roedd yn hawdd i mi setlo i mewn yma. Gan ei bod hi’n dre mor fach mae popeth yn agos at ei gilydd ac mae’n llawn myfyrwyr. Mae yma awyrgylch cartrefol, a dyw hi ddim yn cymryd llawer o amser i chi wneud ffrindiau.
Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru yn wych. Mae’n hawdd cyfathrebu â staff yr adran ac maent wastad yna i chi os oes gennych unrhyw broblemau.
Gan fy mod yn astudio Hanes Cymru mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn ddefnyddiol iawn - mae pob un llyfr ar gael gan ei bod yn llyfrgell hawlfraint.
Dwi’n aelod o Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth. Mae yna ddigon o gymdeithasau yma, mae’n wych. Wrth fod yn aelod o’r cymdeithasau rydych yn cymysgu â myfyrwyr eraill.
Yr hyn dwi’n ei hoffi fwyaf am Aber ydy’r bywyd cymdeithasol, awyrgylch cynnes y dre, a’r ffaith fod popeth yn agos at ei gilydd. Yr unig beth dwi ddim yn ei hoffi yw’r allt!
Byddwn yn sicr yn argymell i eraill astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. Dyma’r profiad gorau gewch chi! Ceri Phillips
Roeddwn yn hapus iawn i dderbyn Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae pob ceiniog o gymorth i mi wrth i mi ddechrau ar fy nghradd yn Aberystwyth. Cymraeg yw fy iaith gyntaf ac wedi dilyn fy holl bynciau drwy gyfrwng y Gymraeg yn yr ysgol, dewis naturiol oedd gwneud hynny hefyd yn y brifysgol. Enw da’r Adran Hanes a Hanes Cymru a’r gymdeithas Gymraeg yma yn Aberystwyth wnaeth fy nenu yma. Heledd Eleri Evans