BA

Llenyddiaeth / Hanes Cymru

BA Llenyddiaeth / Hanes Cymru Cod Q550 Ymgeisio Nawr Cofrestrwch am Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Prif Ffeithiau

Cod Q550
  • Cynnig lefel-A nodweddiadol

    BBB with B in any subject

  • Hyd y Cwrs

    3 blwyddyn

  • Cyfrwng Cymraeg

    100%

Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad

Ymgeisio Nawr

Gwybodaeth ar gyfer mynediad ym mis Medi 2017 sydd ar y dudalen hon. I weld gwybodaeth am 2018, gan gynnwys y graddau gofynnol, edrychwch yn ein prosbectws.

Wrth ddewis astudio’r cwrs BA Llenyddiaeth a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth byddi’n dewis astudio cwrs unigryw ac arloesol a ddysgir ar y cyd gan ddwy adran uchel eu bri sef Adran y Gymraeg a’r Adran Hanes a Hanes Cymru. Wrth ddilyn y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu gan staff sydd yn arloesi yn eu meysydd.

Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd: 100% boddhad myfyrwyr (ACF 2017)

100% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 7% yn uwch na graddedigion Ieithoedd yn genedlaethol. (DLHE 2017)

Adran Hanes a Hanes Cymru: 92% boddhad myfyrwyr(ACF 2017)

95.4% o israddedigion DU/ UE o'r Adran Hanes a Hanes Cymru a raddiodd yn 2016mewn cyflogaeth neu addysg bellach chwe mis ar ôl graddio (DLHE 2017)

  • Trosolwg
  • Modiwlau
  • Cyflogadwyedd
  • Addysg a Dysgu

Trosolwg

Pam Astudio Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn Aberystwyth?

  • Mae’r cynllun gradd Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn gwrs Anrhydedd Sengl amlddisgyblaethol unigryw ac arloesol. Mae gan Gymru draddodiad llenyddol cyfoethog sy’n ymestyn yn ôl i ganol y mileniwm cyntaf, ac mae llenyddiaeth wedi chwarae rhan gyson a chanolog yn niwylliant Cymru. 
  • O astudio’r cwrs hwn byddi’n astudio datblygiad llenyddiaeth Gymraeg mewn cyd-destun hanesyddol ac yn edrych ar y berthynas rhwng llenyddiaeth a hanes o sawl safbwynt gwahanol. Cei gyfle i astudio testunau penodol yn fanwl a chyfle hefyd i werthfawrogi’r darlun hanesyddol ehangach. Byddi’n ymchwilio i’r ffyrdd cyffrous y gellir defnyddio’r testunau llenyddol eu hunain er mwyn deall y gorffennol.
  • Rhennir y gwaith dysgu rhwng yr Adran Hanes a Hanes Cymru ac Adran y Gymraeg, dwy adran a enillodd glod am eu gwaith dysgu ac ymchwil yn eu priod feysydd.
  • O ddewis y cwrs hwn byddi’n treulio hanner dy amser yn Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth, sef yr adran hynaf a’r fwyaf o’i bath y byd. Mae’n gartref i gymuned frwdfrydig o fyfyrwyr ac ymchwilwyr sy’n rhannu’r nod o hybu dealltwriaeth ehangach o’r iaith Gymraeg, ei hanes, ei llenyddiaeth a’i lle yn y byd cyfoes. 
  • Mae’r staff sy’n dysgu ar y cwrs yn arbenigwyr mewn meysydd amrywiol ac o ganlyniad byddi’n cael dewis o blith amrywiaeth eang o bynciau sy’n dy ddiddori. Yr Adran hon yw’r fwyaf o adrannau Cymraeg Cymru. Oherwydd nifer ei staff gall yr Adran gynnig rhychwant eang o fodiwlau a chyrsiau. 
  • Mae’r Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cael ei cydnabyddu fel canolfan ymchwil gyda safon fyd-eang; yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diwethaf (2014), cafodd 90% o ymchwil yr adran ei graddio fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol. Yn ogystal â hwn, cafodd hanner o’r holl ymchwil o’r adran cael ei dosbarthu yn rhagorol yn rhyngwladol a chwarter gyda’r gorau yn y byd.
  • Bu modd astudio Hanes fel pwnc ym Mhrifysgol Aberystwyth ers ei sefydlu yn 1872, a dros y 140 mlynedd diwethaf rydym wedi perffeithio’r cynlluniau gradd yr ydyn ni’n eu cynnig er mwyn sicrhau dy fod yn cael y radd orau posib. 
  • Mae darlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru i gyd hefyd yn ymwneud â gwaith ymchwil diweddar a gallwn felly roi cyfle iti ddatblygu dy dalentau a dy ddiddordebau hanesyddol drwy astudio’n agos gyda thiwtoriaid sy’n arbenigwyr yn eu meysydd. 
  • Yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o ymchwil a gynnalwyd yn Brifysgol Aberystwyth o safon â gydnabyddir yn rhyngwladol. Ymhlith cryfderau’r Adran y mae ymrwymiad parhaus i ddosbarthiadau tiwtorial i unigolion a datblygu addysgu blaengar mewn darlithoedd a seminarau.
  • Yn ogystal â Llyfrgell wych y Brifysgol, gall myfyrwyr Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn Aberystwyth fwynhau aelodaeth gyflawn o Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Dim ond pum llyfrgell hawlfraint a geir ledled Prydain, ac mae’n Llyfrgell Genedlaethol ni yn un ohonynt. Mae’n dal mwy na 6 miliwn o lyfrau, mapiau a phrintiadau, ac mae’r cwbl o fewn pum munud i’r Adrannau. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr dros ben wrth i ti ysgrifennu dy draethawd estynedig yn y drydedd flwyddyn.
  • Mae cymdeithasau myfyrwyr y ddwy adran yn rhai bywiog, sy’n trefnu darlithoedd gan siaradwyr gwadd, ymweliadau â mannau o ddiddordeb, a digwyddiadau cymdeithasol drwy’r flwyddyn. Mae ganddynt hefyd gysylltiadau â phrifysgolion dethol dramor, a dyma gyfle gwych i ti ehangu dy orwelion academaidd a chymdeithasol drwy dreulio rhan o dy brofiad prifysgol dramor.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Fe'i cyflwynir yn rhannol neu'n gyflawn drwy gyfrwng yn Saesneg

Cyflogadwyedd

Rhagolygon Gyrfa

Wrth ddilyn y cwrs gradd hwn byddi’n datblygu profiad, gwybodaeth a dealltwriaeth am bynciau o ddwy adran fydd yn golygu y bydd gen ti’r gorau o ddau fyd wrth fynd ati i feddwl am yrfa.

Bydd llawer o raddedigion yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn mynd i weithio mewn meysydd sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwnc, fel archifau, y diwydiant treftadaeth ac amgueddfeydd, tra bydd eraill yn cael gwaith mewn amrywiaeth o feysydd proffesiynol eraill. Mae’r meysydd hynny’n cynnwys newyddiaduraeth, y cyfryngau, hysbysebu, y gyfraith, llywodraeth leol, llyfrgellyddiaeth, rheoli cofnodion, amrywiaeth o swyddi sy’n ymwneud ag ymchwil, ysgrifennu’n broffesiynol, yr heddlu a’r gwasanaeth milwrol, cysylltiadau cyhoeddus a rheoli adnoddau dynol.

Mae graddedigion Adran y Gymraeg hefyd yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu.

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Llenyddiaeth a Hanes Cymru yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy i ti, sy’n bwysig iawn i gyflogwyr. Mae’r rhain yn cynnwys:
• ymchwilio a dadansoddi data
• meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
• gweithio’n annibynnol
• trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser cyfyng
• mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
• hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth
• gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
• sgiliau technoleg gwybodaeth

Blwyddyn Mewn Gwaith

Mae’r Brifysgol yn rhedeg cynllun Blwyddyn mewn Gwaith, sy’n cynnig cyfle arbennig i fyfyriwr israddedig gymryd blwyddyn allan rhwng ail a thrydedd blwyddyn y cwrs er mwyn gweithio i sefydliad yn y Derynas Unedig neu dramor. Mae’r cynllun yn rhoi profiad gwerthfawr a buddiol i fyfyrwyr, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall dy helpu i sefyll allan mewn marchnad waith gystadleuol iawn. Gall Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol dy helpu i ystyried dy opsiynau a dod o hyd i leoliad gwaith addas.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, sy’n gweithio gyda busnesau lleol er mwyn creu lleoliadau gwaith cyflogedig dros gyfnod o ychydig wythnosau ar gyfer myfyrwyr. Mae’n rhoi’r cyfle iti ennill profiad gwaith gwerthfawr a fydd yn cyfoethogi dy CV ac yn dy wneud yn fwy atyniadol i ddarpar gyflogwyr.

Addysg a Dysgu

Beth fyddi di’n ei ddysgu?

  • Bwriad modiwlau’r flwyddyn gyntaf yw rhoi sail eang o wybodaeth wrth i ti baratoi i astudio’n ddwysach yn yr ail a’r drydedd flwyddyn. Mae rhychwant eang o fodiwlau ar gael iti ddewis o’u plith yn y ddwy adran.
  • Yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn cei ddewis modiwlau a fydd yn datblygu’r egwyddorion a ddysgwyd gen ti yn y flwyddyn gyntaf. Yn yr Adran Hanes a Hanes Cymru cei ddewis o fodiwlau sy’n cynnwys ‘Cymru a’r Tuduriaid 1530-1603’, ‘Cymdeithas a Diwylliant Cymru 1660-1800’ a ‘Hanes Cenedlaetholdeb yn Ynysoedd Prydain’. Mae enghreifftiau o’r dewis a gynigir gan Adran y Gymraeg yn cynnwys ‘Barddoniaeth yr Ugeinfed Ganrif’, ‘Rhyddiaith a Drama 1900-1990’ a ‘Beirniadu Llenyddiaeth’.
  • Fel myfyriwr Anrhydedd Sengl cei gymryd Pynciau Hanes Arbennig, ac ysgrifennu traethawd hir y flwyddyn olaf yn y naill adran neu’r llall, yn dibynnu ar y pwnc y byddi’n ei ddewis a dy ddiddordebau penodol.

Sut y byddi’n cael dy ddysgu?

  • Ar y cwrs hwn cei dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly’n ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr.
  • Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Gan mai nifer fach o fyfyrwyr a fydd ym mhob grŵp seminar fe fyddai’n cael llawer o sylw gan y darlithwyr.
  • Mae’r tiwtorialau personol yn gyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan y darlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, tra bydd seminarau yn gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.

Tiwtor Personol

  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi iti dros gyfnod y cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Lefel A BBB with B in any subject

Gofynion TGAU (grade C min):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DMM-DDM

Myfyrwyr Rhyngwladol

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-32 points overall

Bagloriaeth Ewropeaidd:
70-75% overall

Ystyrir ymgeiswyr yn ôl eu rhinweddau unigol a gall y cynigion amrywio. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag: ug-admissions@aber.ac.uk

Yn ôl i'r brig