LLB

Y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol

LLB Y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol Cod MQ56 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bwriad gradd LLB Y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth yw paratoi myfyrwyr ar gyfer y Gymru gyfoes - Cymru ddatganoledig ble mae'r gallu i siarad a deall Cymraeg ar lefel uchel a deallusol yn ddeniadol i gyflogwyr. Wrth i gyfreithiau Cymreig gynyddu, felly hefyd mae’r galw am gyfreithwyr sydd â’r gallu i drin a thrafod y gyfraith trwy gyfrwng y Gymraeg ac o fewn cyd-destun Cymreig.

Drwy ddewis y cwrs hwn, byddwch yn ymuno ag Adran y Gyfraith hynaf Cymru ac yn astudio ystod eang o bynciau ym maes y Gyfraith - pwnc amrywiol sy’n esblygu o hyd wrth iddo ymateb i ddatblygiadau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol. Mae’n rheoli pob agwedd o’n bywyd dyddiol, o anghydfodau rhwng cymdogion a gwarchod yr amgylchedd i faterion cyflogaeth a darpariaeth gofal iechyd. Mewn cymdeithas fodern, ddemocrataidd, mae’r gyfraith yn bodoli i sicrhau cyfiawnder.

Dysgir y modiwlau Cymraeg Proffesiynol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd - yr adran hynaf o'i bath yn y byd. Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu sgiliau sy’n ymwneud â defnyddio’r iaith Gymraeg yn hyderus mewn ystod eang o gyd-destunau proffesiynol ac o fewn y gweithle. Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sydd â phrofiad helaeth mewn meysydd fel cyfieithu, ysgrifennu creadigol, astudio a hybu treftadaeth, golygu a chyhoeddi.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd LLB y Gyfraith hon yn radd ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau traddodiadol a chyfoes yn ymwneud â’r gyfraith a Chymraeg Proffesiynol. Bydd y radd hon yn cyflwyno'r sgiliau a'r cymwyseddau a fydd yn eich gwneud yn 'barod am yrfa' ac yn gwella eich cyflogadwyedd mewn ystod o feysydd proffesiynol. 

Ar fodiwlau'r Gyfraith, byddwch yn derbyn hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau cyfreithiol, ac ar y modiwlau Cymraeg Proffesiynol byddwch yn archwilio pynciau sy'n amrywio o gyfieithu i farchnata.  

Mae LLB y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol yn gynllun gradd arloesol a fydd yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy perthnasol hynod o werthfawr. Cewch gyfle i gwblhau lleoliad gwaith mewn sefydliad dwyieithog gan ennill profiad ymarferol a meithrin cysylltiadau gwerthfawr; dysgu gan gyflogwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg mewn gwahanol feysydd; dewis o blith yr amrywiaeth o fodiwlau diddorol sydd ar gael yn y ddwy adran. 

Heddiw, mae cyflogwyr, yn ogystal â darpar fyfyrwyr a rhieni, yn chwilio am radd ‘safon aur’. Dyma’r radd honno. Os ydych chi'n fyfyriwr iaith gyntaf ac yn gobeithio ymuno â'r gweithle proffesiynol yng Nghymru, boed hynny mewn maes cyfreithiol neu greadigol, dewch i Aberystwyth i gychwyn ar eich taith. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyflwyniad i Gymraeg Proffesiynol CY12720 20
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY11420 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20
Beirdd a Llenorion o 1900 hyd heddiw CY11220 20
Sgiliau Astudio Iaith a Llên CY13120 20
Themau a Ffigurau Llen c.550-1900 CY11120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law LC13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Cyfraith Camwedd CT11120 20
Cyfraith Cytundebau CT13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Tort LC11120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astudiaethau Trosi ac Addasu CY25720 20
Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry CY25820 20
Gloywi Iaith CY20120 20
Y Gymraeg yn y Gweithle CY25620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Climate Change and Environmental Law LC27720 20
Commercial Law LC26220 20
Company Law LC27220 20
Contract Law * LC23820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20
Cyfraith Cytundebau CT23820 20
Cyfraith Ewrop CT20720 20
Cyfraith Gyhoeddus CT20620 20
Cyfraith Tir CT24820 20
Cyfraith Troseddol CT20520 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT20820 20
Drugs and Crime LC28220 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT24920 20
Equity and Trusts LC24920 20
European Law LC20720 20
Family and Child Law LC26420 20
Human Rights LC25220 20
Humanitarian Law LC27620 20
Intellectual Property Law LC28620 20
International Law LC26920 20
Labour Law LC26820 20
Land Law LC24820 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Medicine Ethics and the Law LC26720 20
Principles of Evidence LC26520 20
Public Law LC20620 20
Seiberdroseddu a Seiberddiogelwch CT21920 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT20420 20
Sports Law and Society LC27920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC22420 20
Cyfraith Camwedd CT21120 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC29120 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT20220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astudiaethau Trosi ac Addasu CY35720 20
Bro a Bywyd: Dehongli Treftadaeth Lenyddol y Cymry CY35820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Company Law LC37220 20
Criminal Law LC30520 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Cybercrime and Cybersecurity LC31920 20
Cyfraith Ewrop CT30720 20
Cyfraith Gyhoeddus CT30620 20
Cyfraith Tir CT34820 20
Cyfraith Troseddol CT30520 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT30820 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Drugs and Crime LC38220 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT34920 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Equity and Trusts * LC34920 20
European Law * LC30720 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Humanitarian Law LC37620 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Labour Law LC36820 20
Land Law * LC34820 20
Law and Criminology Dissertation LC39020 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Principles of Evidence LC36520 20
Principles of Professional Conduct, Public & Administrative Law, Legal System of England & Wales & L LC31320 20
Property Law and Practice LC31820 20
Public Law * LC30620 20
Seiberdroseddu a Seiberddiogelwch CT31920 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC32420 20
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg CT39020 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT30220 20
Trusts, Wills and the Administration of Trusts and Estates LC31720 20
Prosiect Hir CY35940 40

Gyrfaoedd

Mae ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn cynnig cyfle gwych i ddatblygu eich hyder i ymdrin â’r gyfraith yn ddwyieithog, gan fagu sgiliau trawsieithu, dadansoddi, a chyfosodiad a fydd yn ddefnyddiol ar gyfer y gweithle ac yn baratoad da ar gyfer eich gyrfa.

Mae graddedigion Adran y Gyfraith a Throseddeg ac Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog yn y meysydd canlynol:

  • addysg
  • y Cyfryngau
  • gwaith cymdeithasol
  • y Gyfraith
  • cyfieithu.

Mae graddedigion y ddwy adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel:

  • cyhoeddi llyfrau
  • swyddi yn y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu.

Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddwch wedi eu datblygu dros gyfnod eich cwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd yn y Gyfraith a Chymraeg Proffesiynol yn rhoi amrywiaeth eang o sgiliau trosglwyddadwy i chi, sy’n bwysig iawn i gyflogwyr. 

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • ymchwilio a dadansoddi data
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon
  • gweithio’n annibynnol
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb
  • sgiliau technoleg gwybodaeth.

Cyfleoedd am brofiad gwaith wrth astudio

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig.

Cewch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a'r Cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith.

Dysgu ac Addysgu

Beth y byddaf fi'n ei ddysgu? 

Y flwyddyn gyntaf 

Bydd modiwl craidd y Gyfraith yn y flwyddyn gyntaf yn darparu hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau e.e.: Cyfraith Cytundebau, Cyfraith Droseddol a Chyfraith Camwedd. Mae'n rhaid astudio a phasio’r rhain er mwyn cael eithriad rhag cam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith. Byddwch hefyd yn archwilio strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr, astudio'r gydberthynas rhwng cynsail farnwrol a'r gyfundrefn lysoedd, a dadansoddi'r broses o greu deddfwriaeth, a sut caiff ei dehongli gan farnwyr. Yn ogystal â hyn, byddwch yn gallu manteisio ar gyfleoedd proffesiynol a chymdeithasol ardderchog megis ymweld â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytai’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain, a chewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan gyda'n Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau cyfreitha ac eirioli allweddol, naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg. 

Yn ystod eich modiwlau Cymraeg Proffesiynol, byddwch yn cael cyflwyniad cynhwysfawr i Gymraeg Proffesiynol. Byddwch chi'n dysgu rhychwant o sgiliau megis cyfieithu ar y pryd, sgiliau gweinyddol, siarad cyhoeddus, golygu a marchnata. Byddwch chi'n cael eich dysgu gan ddarlithwyr yr Adran a gan gyflogwyr sydd yn gweithio gyda'r Gymraeg. Bydd cyfle ichi weithio fel tîm ac i ddatblygu eich sgiliau marchnata wrth drefnu'r Noson Llên a Chân. Cewch ddysgu mwy am y nosweithiau hynod lwyddiannus hyn ar y dudalen Myfyrio a Mwynhau yn Gymraeg ar ein gwefan, a bydd modd i chi weithredu ar fwrdd golygyddol Y Ddraig, cylchgrawn llenyddol yr adran. Chi a'r myfyrwyr eraill fydd yn comisiynu ac yn golygu'r gwaith. Dysgwch fwy am Y Ddraig ar yddraig.cymru. 

Yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf 

Yn yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf byddwch yn astudio modiwlau dewisol yn unig. Drwy ddewis o blith rhestr hir o fodiwlau a gynigir yn yr adran, bydd modd i chi deilwra eich astudiaethau i gyd-fynd â'ch diddordebau a'ch amcanion gyrfaol. Mae'r modiwlau'n amrywio o Gyfraith Fasnachol i Hawliau Dynol, ac o Gyfraith Ryngwladol i Seicoleg a Throseddu. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y tab Modiwlau. 

Bydd eich modiwlau Cymraeg Proffesiynol yn cynnwys y canlynol: 

Y Gymraeg yn y Gweithle, sy'n fodiwl profiad gwaith. Byddwch yn cwblhau cyfnod o brofiad gwaith mewn lleoliad lle defnyddir y Gymraeg ar lefel broffesiynol. Gallwn gynnig dewis eang o leoliadau, sy'n cynnwys nifer o gyrff cenedlaethol, sy'n golygu y cewch gyfle i gael profiad uniongyrchol o yrfa sydd o ddiddordeb i chi. Byddwch yn creu portffolio o dasgau sy'n gysylltiedig â'r gweithle. 

Bro a Bywyd - Modiwl sy’n trafod twristiaeth a threftadaeth lenyddol yw'r modiwl hwn. Byddwch yn dilyn darlithoedd ac yn mynd ar deithiau maes i lefydd o arwyddocâd diwylliannol. Byddwch yn llunio prosiect a fydd yn hybu diddordeb y cyhoedd mewn elfen o'r diwylliant Cymraeg, ee llyfryn, podlediad, ffilm fer neu ddeunydd ar gyfer gwefan. 

Gloywi Iaith – Modiwl yw hwn a fwriadwyd i feithrin gallu myfyrwyr i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. Fe'i dysgir ar sail grwpiau dan ofal tiwtor, a gosodir tasg ysgrifenedig yn wythnosol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau o ansawdd uchel. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Bydd gennych fynediad hefyd at fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol a’ch sgiliau cyflwyno Cymraeg ar yr un pryd. 

Sut y caf fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cofnodion astudio neu bortffolios, a chyflwyniadau llafar.

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cwrs gradd. Eich tiwtor personol fydd eich prif gyswllt os bydd gennych unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu bersonol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol, a Safon Uwch Cymraeg Iaith Gyntaf (gradd B)

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|