Pam Astudio Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth?
- Mae Adran Gwleidyddiaeth
Ryngwladol yn cael ei hadnabod fel arweinydd yn y maes ledled y byd ac o safon ryngwladol ragorol,
a ni yw’r gorau yng Nghymru o ran ein hymchwil arloesol. (Fframwaith
Rhagoriaeth Ymchwil 2014).
- Fe’i dysgir mewn
adran a sefydlwyd ym 1919 ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, a hi oedd yr adran gyntaf
yn y byd i astudio Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar lefel prifysgol.
- Mae’r darlithwyr
sydd yn dysgu’r pwnc yn frwdfrydig, ac yn ymroddedig i ddarparu amgylchedd
dysgu rhagorol, arloesol a deinamig i’n myfyrwyr.
- Rydym
wedi derbyn clod uchel gan ein myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (ACF).
- Mae gennym lyfrgell
hawlfraint ar y campws, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- Cyfleoedd i gymryd
rhan yn ein cynllun Lleoliadau Seneddol uchel ei barch gydag Aelod Seneddol
(Tŷ’r Cyffredin, San Steffan) neu AC (y Cynulliad Cenedlaethol, Caerdydd).
- Gelli gyfrannu tuag
at y cylchgrawn Gwleidyddiaeth Ryngwladol hynaf i gael ei redeg gan fyfyrwyr ym
Mhrydain, sef ‘Interstate’, sydd â’i
gartref yn yr Adran hon.
Ein Staff
Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Hanes a Hanes Cymru gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.
Beth allaf i ei wneud gyda gradd mewn BA Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol ?
Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn sicrhau proffesiwn mewn llawer o feysydd gwahanol:
- Addysg;
- Y Gyfraith;
- Archifwyr;
- Cyhoeddwyr;
- Gwleidyddion;
- Gweision Sifil;
- Y Cyfryngau;
- Y Lluoedd Arfog;
- Entrepreneuriaid.
Fel adran, rydym ni’n falch iawn o’n cyn-fyfyrwyr nodedig ac uchel eu parch:
- Dr Tîm Brain, cyn Brif Gwnstabl Swydd Gaerloyw;
- Guto Bebb, Aelod Seneddol;
- Dr Joanne Cayford, BBC;
- Berwyn Davies, Pennaeth Swyddfa Addysg Uwch Cymru ym Mrwsel;
- Iwan Griffiths, Gohebydd chwaraeon S4C.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddwch yn astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gwella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Lleoliadau myfyrwyr yn y sector treftadaeth
Mae gan ein hadran gysylltiadau cryf gyda’r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (gan gynnwys cyfleoedd cyfrwng Cymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Llundain. Mae’r lleoliadau hyn yn cynnig cyfle i gael profiad ymarferol a dealltwriaeth o’r sector treftadaeth, ac yn werthfawr iawn ar unrhyw CV!
Trydar gan fyfyrwyr ar leoliad yn 2014 gyda Chymdeithas yr Hynafiaethwyr:
‘Wedi gweld tri chopi o’r Magna Carta ar unwaith heddiw!’ ‘Clod i Brifysgol Aber am fy helpu i gael y lleoliad – methu aros tan fory’
Cyfleoedd rhyngwladol: Erasmus a’r rhaglen Astudio Dramor
- Mae cael amrywiaeth o brofiadau’n bwysig ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol, ac mae cynlluniau Erasmus neu Astudio Dramor yn cynnig cyfleoedd rhagorol. Mae Hanes a Hanes Cymru wedi sefydlu rhaglenni cyfnewid Erasmus gyda phrifysgolion yn yr Almaen, Prâg, Budapest a Norwy. Mae gan yr Adran gysylltiadau gyda nifer o golegau yn America hefyd. https://www.aber.ac.uk/en/international/study-abroad/
Mentora gan gyn-fyfyrwyr a sgyrsiau graddedigion:
- Bydd y Cynllun Mentora gan Gyn-fyfyrwyr yn eich galluogi i gysylltu â graddedigion o’r gorffennol mewn amrywiaeth o yrfaoedd mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Mae Hanes a Hanes Cymru hefyd yn trefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd. Ymhlith y sgyrsiau diweddar mae ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’ a gyflwynwyd gan gyn-fyfyriwr a raddiodd yn ddiweddar sydd bellach wedi sicrhau lle ar gynllun hyfforddi uchel ei fri yn Oriel y Tate.
Beth fyddi di’n ei ddysgu?
Mae modiwlau craidd y radd hon yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau ymchwil sylfaenol yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o faterion hanesyddiaethol, a materion a syniadaethau craidd gwleidyddiaeth.
Yn dy flwyddyn gyntaf byddi’n darganfod:
- Dulliau a chyfnodau newydd;
- Rhyfel, strategaeth a chudd-wybodaeth;
- Rwsia Tsiecoslof ers 1900: Cenedlaetholdeb, Totalitariaeth a Democrateiddio;
- Y gwaith diweddar mwyaf cyffrous ym meysydd hanes a gwleidyddiaeth.
Yn dy ail flwyddyn byddi’n archwilio:
- Dulliau hanesyddol (Sut mae disgyblaeth hanes wedi newid dros amser, o ran ei hystyr, ei dulliau a'i hysgrifennu);
- Moderniaeth Gynnar yn Ewrop;
- Rhyfel a Chymdeithas mewn Hanes.
Yn dy drydedd flwyddyn byddi’n astudio:
- Cymdeithas Prydain a’r Chwildro Ffrengig;
- Defod , Brenhiniaeth a Phŵer yn Lloegr Angywaidd a Normanaidd.
Sut byddi’n cael dy ddysgu?
- Ar y cwrs hwn byddi’n cael dy ddysgu drwy gyfuniad o ddarlithoedd a seminarau. Yn y darlithoedd cyflwynir pwnc a thrafodir materion allweddol, ac mewn seminarau byddi’n ymuno â grŵp llai o fyfyrwyr er mwyn trafod yn fwy anffurfiol a dadansoddi pwnc mewn mwy o ddyfnder. Bydd seminarau felly yn ffordd wych i ti roi dy syniadau dy hun ar brawf a thrafod dy brofiadau dy hun, yn ogystal â rhannu profiadau a syniadau dy gyd-fyfyrwyr.
- Mae’r ddwy Adran wedi ymrwymo i ddysgu drwy diwtorialau unigol a grwpiau seminar bach, ochr-yn-ochr â darlithoedd traddodiadol, ac rydym hefyd yn cyflwyno dysgu arloesol o safon uchel a fydd yn dy helpu i gyrraedd dy botensial. Bydd gwneud gwaith darllen cyn dod i seminarau yn golygu y galli wedyn gymryd rhan gyflawn yn y trafodaethau a’r rhannu syniadau fydd yn digwydd. Mae’r nifer fach o fyfyrwyr fydd ym mhob grŵp seminar yn golygu y byddi’n derbyn llawer o sylw gan y darlithwyr.
- Mae’r tiwtorialau personol yn rhoi cyfle i ti gael sylw unigol ac adborth defnyddiol gan dy ddarlithydd ar dy waith cwrs. Bydd gwaith cwrs yn helpu i ddatblygu dy allu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn drefnus a rhesymegol, a bydd seminarau yn gymorth i wella dy sgiliau cyflwyno.
Tiwtor Personol
- Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i ti am y cwrs gradd cyfan, ac fe fydd yn gallu dy helpu os bydd gen ti broblemau neu ymholiadau, boed rheiny’n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i ti gysylltu â dy diwtor personol ar unrhyw adeg os byddi angen cymorth.