Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Cynllun yw hwn ar gyfer myfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol, gyda’r bwriad o gyflwyno hanfodion astudio hanes ar lefel israddedig. Bydd ein blwyddyn sylfaen yn cynnig ichi sylfaen gadarn mewn sgiliau allweddol megis ysgrifennu traethodau, dadansoddi a sut i ystyried ffynonellau cynradd ac eilradd, a bydd hynny’n eich paratoi ar gyfer gweddill eich gradd Hanes.


Trosolwg o'r Cwrs

Yn ystod eich gradd, byddwch yn datblygu sgiliau hanesydd gan ddysgu’r dulliau a ddefnyddir i archwilio ac ymgysylltu â’r gorffennol. Wrth ichi brofi’r amrywiaeth eang o fodiwlau sydd ar gael yn yr Adran, byddwch yn ymgyfarwyddo â damcaniaethau hanesyddol fydd yn peri ichi feddwl, y dulliau ymchwilio diweddaraf, a ffynonellau hanesyddol difyr sy’n amrywio o lawysgrifau canoloesol a baledi modern cynnar i gyfryngau torfol modern, straeon hanes llafar, a hanes a diwylliant materol.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Hanes (gyda blwyddyn sylfaen integredig) yn Aberystwyth:

  • astudio yn yr adran hanes hynaf yng Nghymru, gyda dros gan mlynedd o ysgolheictod ac addysgu o safon fyd-eang
  • dewis eang o fodiwlau hanes, a addysgir gan arbenigwyr yn y maes
  • dulliau addysgu arloesol, â’r pwyslais ar ffynonellau cynradd
  • mynediad llawn fel myfyrwyr i lyfrau, llawysgrifau ac archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy’n un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y DU, bum munud o’r Adran - un o gasgliadau archif hanesyddol pwysicaf y DU, a chartref archif genedlaethol Cymru
  • gweithgareddau allgyrsiol gan gynnwys teithiau maes a chynadleddau dan arweiniad myfyrwyr
  • lleoliadau gwaith ac interniaethau perthnasol.


Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Social Science GS09720 20
The ‘Othered' Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY28520 20
Concro'r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA21820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Culture, Society and the Victorians HY29320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC23520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA29320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY29120 20
Famine in Medieval England HY25520 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY29220 20
Germany since 1945 HY29620 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY25620 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY28920 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA24520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY22020 20
The European Reformation HY26520 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY29420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH20120 20
Wales under the Tudors WH23520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY26720 20
Beirdd a Noddwyr: Llên a Hanes c.1300-1500 CY20720 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
History as myth-Making: the 'Myth of the Blitz' HY23420 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Reading a Building HY23120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Seals in Their Context in Medieval England and Wales HY24420 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig HA30340 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Between Revolution and Reform: China since 1800 HY38520 20
Britain at War 1939-45 (Part 1) HQ37520 20
Britain at War 1939-45 (Part 2) HQ37620 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1842-1914 (Rhan 1) HP37420 20
Bywyd a Gwaith ym Meysydd Glo Prydain, 1914-1948 (Rhan 2) HP37520 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 1 HQ33320 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 2 HQ33420 20
Concro'r Byd: Tŵf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc HA31820 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Culture, Society and the Victorians HY39320 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Cymru a'r Tuduriaid HC33520 20
Diwylliant, Cymdeithas a'r Fictoriaid HA39320 20
Environmental History of the Neotropics (Latin America and the Caribbean) in the Capitalocene HY39120 20
Famine in Medieval England HY35520 20
From Burma to Myanmar (Part I): colonial Burma under British rule (1824-1941) HQ39220 20
From Burma to Myanmar (Part II): Challenges for a young nation state since 1942 HQ39320 20
From Poor Law to Welfare State: Poverty and Welfare in Modern Britain, 1815-1948 HY39220 20
Germany since 1945 HY39620 20
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel HP33120 20
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol HP33220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Medieval England and Germany, c. 1050-1250 HY35620 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 1) HQ33120 20
Ritual, kingship and power in Norman and Angevin England: methods, sources & actors (Part 2) HQ33220 20
Roads to Modernity: Germany and Japan in the Age of Empires, 1860s-1930s HY38920 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori America, 1607-1867, ar Ffilm a Theledu HA34520 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The British Isles in the Long Eighteenth Century HY30120 20
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution HQ35020 20
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict HQ35620 20
The European Reformation HY36520 20
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915 HQ39620 20
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944 HQ39720 20
The Irish in Britain, c. 1850-1922 (Part 2): Community and Conflict HQ35520 20
The Irish in Britain, c.1815-70 (Part 1): Migration and Settlement HQ35420 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Nazi Dictatorship: Regime and Society in Germany 1933-1945 HY39420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
Wales and the Kings of Britain: Conflict, Power and Identities in the British Isles 1039-1417 WH30120 20
Wales under the Tudors WH33520 20
War, Politics and People: England in Context in the Fourteenth Century HY36720 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn dod o hyd i waith mewn amrywiol feysydd gan gynnwys: y sector treftadaeth; addysg; ysgoloriaeth ac ymchwil academaidd; curadu a rheoli archifau; y gyfraith; cyhoeddi; gwleidyddiaeth genedlaethol, ranbarthol a lleol; y gwasanaeth sifil; yr heddlu; y lluoedd arfog; y cyfryngau a’r diwydiant creadigol; a busnes a mentergarwch.

Dysgu ac Addysgu

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Critical Thinking and Research Skills
  • Foundation - Dialogue
  • Foundation in Liberal Arts
  • Learning Experience.

Yr ail flwyddyn:

  • Cyflwyno Hanes
  • Cydio mewn Hanes: Ffynonellau a’u Haneswyr.

Y drydedd flwyddyn:

  • Llunio Hanes.

Y flwyddyn olaf:

  • Traethawd Hir.

Dyma rai o’r modiwlau dewisol y gallwch eu hastudio i ddatblygu eich diddordebau arbenigol:

  • Concwest, Uno a Hunaniaeth yng Nghymru 1250-1800
  • Milwyr, Myfyrwyr a Masnachwyr: Teithio a Symudedd yn Ewrop Ganoloesol
  • Ewrop a’r Byd, 1000-2000
  • Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850
  • Cymdeithas, Pobl a Gwleidyddiaeth: Cymru, 1800-1999
  • Concro’r Byd: Twf a Chwymp Ymerodraethau Prydain a Ffrainc
  • Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008
  • Cymdeithas Cymru Fodern 1868-1950
  • Gwrando ar Hanes: y Mudiad Hawliau Sifil yn America.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|