BA

Daearyddiaeth Ddynol / Llenyddiaeth Saesneg

BA Daearyddiaeth Ddynol / Llenyddiaeth Saesneg Cod LQ73 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Wrth ddewis astudio gradd mewn Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn rhan o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, un o'r adrannau mwyaf ei maint a mwyaf dynamig o'i bath ym Mhrydain. Mae Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg (LQ73) yn bwnc cyffrous a gwerth chweil i'w astudio. Byddwch yn archwilio natur ac effaith prosesau diwylliannol, cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol ar raddfa leol i raddfa fyd-eang. Wrth astudio Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg byddwch yn meithrin ystod eang o sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn gynyddol. Fel arfer, mae 91% o'n graddedigion Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear mewn gwaith (neu'n astudio ar gyfer cymhwyster uwchraddedig) ymhen 6 mis ar ôl graddio.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r cwrs BA Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg yn gynllun cyd-anrhydedd rhyfeddol lle byddwch yn ymchwilio i gymdeithasau dynol a gwleidyddiaeth lle ar y cyd ag astudio llenorion mawrion a'u llenyddiaeth. Mae gan y Brifysgol draddodiad balch o ragoriaeth ymchwil, fel y dangoswyd yn yr asesiad Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014) diweddaraf. Gosodwyd y Brifysgol ymhlith y 50 sefydliad uchaf ar gyfer pŵer a dwyster ei hymchwil. Cyflwynwyd 77% o'r staff cymwys i'r Fframwaith, a nodwyd bod 95% o ymchwil y brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2015 yn dangos lefelau uchel o foddhad mewn Daearyddiaeth Ddynol a Chymdeithasol a Daearyddiaeth Ffisegol a chyrsiau Gwyddor yr Amgylchedd, gyda 91% o fyfyrwyr yn fodlon ag ansawdd yr addysgu. Roedd boddhad cyffredinol yn uwch na chyfartaledd gweddill Prydain ar gyfer y pwnc.

Roedd 96% o'n graddedigion Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear mewn gwaith neu'n astudio ymhellach ymhen 6 mis ar ôl graddio, 11 pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol a thri phwynt canran yn uwch na chyfartaledd y pwnc ledled gwledydd Prydain (DLHE 2014).

Mae canlyniadau Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr 2015 yn dangos lefelau uchel o foddhad ymhlith myfyrwyr Saesneg, gyda chyfradd boddhad o 88% ar gyfer ansawdd yr addysgu.

Roedd 93% o'n graddedigion Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol o flwyddyn 2014 mewn gwaith neu'n astudio ymhellach ymhen 6 mis ar ôl graddio, pedwar pwynt canran yn uwch na'r flwyddyn flaenorol ac yn gyfartal â chyfartaledd cyffredinol y sector ledled gwledydd Prydain (DLHE 2014). Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu ein buddsoddiad mewn mentrau cyflogadwyedd arloesol a strategol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr, sy'n cwmpasu pob un o'n Hathrofeydd academaidd ac y credwn yn gryf eu bod yn debygol o wella ein sgoriau cyflogadwyedd ymhellach.

Fel rhan o'ch astudiaethau daearyddiaeth ddynol, byddwch yn archwilio'r grymoedd dynol sy'n newid pob amgylchedd daearyddol, o fetropolisau dinesig cyfoes a chymunedau gwledig i feysydd chwarae plant a lleiniau caled ar draffyrdd. Fel rhan o'ch astudiaethau llenyddiaeth, byddwch yn ystyried testunau ac awduron sy'n ymwneud â chymdeithasau, diwylliannau a hanes ac yn eu siapio.

Bydd astudio Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg yn brofiad amrywiol ac ysgogol a gallwch ei deilwra i weddu i'ch diddordebau. Bydd modd i chi arbenigo yn y ddau faes drwy ddetholiad o fodiwlau opsiynol. Gallai eich opsiynau gynnwys Newid Hinsawdd; Ysgrifennu Canoloesol a'r Dadeni; Gosod Gwleidyddiaeth; Erotigrwydd Rhamantus; Tirweddau Moderniaeth Brydeinig; a Llenyddiaeth Affricanaidd-Americanaidd ymhlith llawer o opsiynau eraill.

Cynhelir y cwrs hwn ar y cyd gan yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sy'n enwog yn rhyngwladol, ac yn un o'r cymunedau Daearyddiaeth mwyaf yng ngwledydd Prydain, a'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol fywiog. Mae aelodau o staff y ddwy adran yn ymchwilwyr ac yn arbenigwyr cyhoeddedig yn eu meysydd. Byddant ar gael i roi cyngor ac arweiniad drwy gydol eich cwrs, gan gynnwys wrth i chi baratoi i ysgrifennu a chyflwyno eich traethawd hir terfynol sylweddol.

Bydd cymhwyster BA mewn Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg yn werthfawr mewn unrhyw weithle graddedig mwy neu lai. Ar ôl ennill eich gradd, byddwch yn ymchwilydd galluog, yn ddadansoddwr hyderus ac yn gyfathrebwr rhugl. Bydd gennych brofiad o gynllunio prosiectau, cyflwyno ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac arwain a chydweithio mewn lleoliadau tîm. Mae'r sgiliau hyn yn rhai o blith nifer y byddwch yn gallu eu cyflwyno i unrhyw weithle graddedig.

Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfa

Bydd y radd gyd-anrhydedd BA mewn Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o opsiynau cyflogaeth a hyfforddiant pellach. Fel daearyddwr, byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer cyfleoedd ym maes cartograffeg, ymgynghori amgylcheddol, datblygu a chynllunio trefol ac addysgu. Fel myfyriwr sydd wedi graddio mewn llenyddiaeth, byddwch yn addas ar gyfer cyfleoedd ym maes cyhoeddi a golygu, newyddiaduraeth, marchnata a chyfathrebu, gwaith llyfrgell ac addysgu.

Mae ystadegau diweddar gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos bod dros 82% o raddedigion Daearyddiaeth a thros 92% o raddedigion Saesneg naill ai'n canfod swydd gyflogedig neu'n parhau ag astudiaeth bellach ar ôl graddio o gyrsiau BA tebyg i'r un cyd-anrhydedd hwn.

Drwy gydol eich cwrs, byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau craidd a chyffredinol y gellir eu trosglwyddo'n hawdd, bron i unrhyw sefyllfa waith broffesiynol neu raddedig.

Byddwch yn cael cyfle i werthuso a gwella ar eich arferion ymchwil, adolygu dadleuon ar faterion perthnasol yn feirniadol, cyflwyno data drwy amrywiaeth o sianelau a mynegi ymateb gwybodus i ymholiadau. Byddwch hefyd yn hyderus wrth ddarllen ac arfarnu deunydd ffynhonnell yn gyflym ac yn effeithlon; dewis a defnyddio'r dulliau mwyaf priodol o blith amrywiaeth o fethodolegau beirniadol; a chyflwyno dadleuon cryf a pherswadiol.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Daearyddiaeth Ddynol a Llenyddiaeth Saesneg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau rhifiadol a chyfrifiadurol uwch
  • y gallu i ymchwilio, dehongli a dadansoddi data busnes ac ariannol
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau meddwl creadigol a dadansoddol
  • sgiliau gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • gweithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith

Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae'r cynllun yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.

GO Wales

Gweinyddir GO Wales gan Wasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol, ac mae'n gweithio gyda busnesau lleol i greu lleoliadau gwaith cyflogedig am gyfnod o ychydig wythnosau i fyfyrwyr. Mae'n rhoi cyfle i chi gael profiad gwaith gwerthfawr, a fydd yn gwella eich CV ac yn eich gwneud yn fwy apelgar i gyflogwyr posib.

Cynllun Datblygu Personol

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, i ddatblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac i ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Dysgu ac Addysgu

Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, ac mae cyfran ddaearyddol y cwrs hwn yn cynnwys gweithdai a theithiau maes. Bydd y cyfuniad hwn yn cydbwyso'r damcaniaethol â'r ymarferol fel y gallwch drafod y pynciau gyda'ch cyfoedion ac ymestyn eich galluoedd gwaith maes yn yr awyr agored.

Mae ethos yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, sy'n cyd-redeg y cwrs cyd-anrhydedd hwn, yn canolbwyntio ar y myfyriwr, sy'n golygu y byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, ond yn cael rhyddid i ffurfio eich llwybr astudio eich hun drwy ddewis modiwlau a chyfleoedd cyffrous i wneud gwaith maes. 

Byddwch yn elwa'n fawr o astudio Daearyddiaeth Ddynol yn y Sefydliad Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear gan ei fod wastad wedi bod ar flaen y gad o ran arloesi ym maes addysgu ac ymchwil. Yn yr Ymarfer Asesu Ymchwil diweddaraf (2008), roedd yr Adran ymhlith y 12 uchaf ym Mhrydain ar gyfer Daearyddiaeth, gyda 45% o ymchwil naill ai'n "arwain y byd" neu'n "ardderchog yn rhyngwladol".

Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, arholiadau, cyflwyniadau llafar a thraethawd hir terfynol mewn Llenyddiaeth Saesneg. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol.

Eich tiwtor personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dw i wrth fy modd! Dw i wedi cael blas ar amrywiaeth o feysydd gwahanol ac mae wedi caniatáu i fi ddewis modiwlau sy'n cyd-fynd â fy niddordebau. Mae'r tiwtoriaid yn wych - maen nhw'n gyfeillgar ac yn hawdd mynd atyn nhw. Bydden i'n ei argymell i unrhyw un sy'n ystyried gwneud daearyddiaeth ddynol. Ashley Wilding

Dw i'n dwlu ar fy nghwrs Daearyddiaeth Ddynol am ei fod wedi gwneud i fi edrych ar y byd o fy nghwmpas mewn ffordd wahanol a mwy diddorol. Dw i'n gallu deall pam ei fod e fel mae e, a sut olwg fydd arno yn y dyfodol o bosib. Mae wir wedi agor fy llygaid i'r gwahanol brosesau sy'n siapio'n cymdeithas fodern. Rebecca Priest

Mae fy nghwrs Daearyddiaeth Ddynol yn caniatáu i fi edrych ar y byd o safbwynt gwahanol, a gwerthfawrogi'r syniad o le a'r ffordd mae ymdeimlad o le yn siapio bywyd bob dydd. Dw i nawr yn gallu eistedd ar fainc mewn parc a gwylio pobl; dadansoddi sut mae pobl yn gweithredu mewn mannau cyhoeddus, ond o dan deitl ethnograffeg. Mae daearyddiaeth ddynol yn ystyried cysylltiadau gofodol yr ardaloedd sydd heb gael eu hystyried o'r blaen, neu sy'n cael eu cymryd yn ganiataol. Mae fel edrych drwy bâr o sbectol epistemolegol. Florence Genis

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|