BSc

Marchnata

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae’r radd BSc Marchnata yn Ysgol Fusnes Aberystwyth yn gwrs dynamig a chyffrous sy’n cyfuno elfennau o farchnata ac ymddygiad defnyddwyr, marchnata digidol, marchnata strategol, cynllunio, seicoleg, rheoli ac adnoddau dynol. Fe’i haddysgir gan arbenigwyr marchnata achrededig ac adnabyddus ac yn ystod y radd byddwch yn datblygu gwybodaeth gadarn am ddylanwadau allanol ar y byd marchnata a’r defnydd o dechnoleg a chyfryngau digidol, sy’n newid mor gyflym, at ddibenion marchnata.

Mae gyrfa ym maes marchnata yn ddewis dynamig ac egnïol, a’r maes ei hun yn llawn arloesi, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau “greddfol” ar sail data. Bydd y rhan fwyaf o weithwyr proffesiynol sydd ar ddechrau eu gyrfa yn y maes marchnata yn tueddu i fynd i faes marchnata digidol, ac rydym yn sicrhau ein bod yn rhoi ichi sgiliau digidol a thraddodiadol hanfodol sydd eu hangen er mwyn gallu cynnig gwerth i gwmnïau o’ch diwrnod cyntaf fel gweithiwr proffesiynol. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ganolfan Porth Graddedigion sydd wedi’i hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig. Bydd hyn yn eich galluogi i raddio â dau gymhwyster.

Trosolwg o'r Cwrs

Why study Marketing at Aberystwyth?


  • Our programmes are accredited by the Chartered Institute of Marketing (CIM).
  • On successful completion you can apply for exemption from 50% of the CIM Professional Diplomas.

You will benefit from:

  • numerous industry perspectives through guest lectures by industry professionals
  • using case study analysis, real-life scenarios and fundamental marketing theory to develop marketing strategies and tactical campaigns
  • being taught by active researchers, ensuring that you are exposed to the latest theories and knowledge in the subject area.
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid CB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Brand Management AB27420 20
Marketing Management AB27120 20
Marketing: Business Relationships and Customer Experience AB27520 20
Ymddygiad Defnyddwyr a Phrynwyr CB27220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Arweinyddiaeth Strategol CB35120 20
Digital Marketing AB37220 20
Global Marketing AB37320 20
Marketing and Digital Marketing Communication AB37120 20

Gyrfaoedd

Mae marchnata'n bwysicach nag erioed o safbwynt perfformiad busnes. Mae gweithwyr proffesiynol ym maes marchnata bellach yn arloesi ac yn dylanwadu ar fusnesau mewn amrywiaeth eang o ffyrdd, ac o'r herwydd mae gyrfa yn y maes yn dal i fod yn ddewis gwych a gwahanol. Yn ddiweddar mae ein graddedigion wedi cael swyddi gyda chyrff megis Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Reckitt Benckiser (RB), EE, OneGTM, MediaCom a Dentsu Group (Carat).

Rhagolygon gyrfaol: O'r Brifysgol i'r Byd Gwaith

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa yn y swyddi canlynol:

  • Swyddog Marchnata
  • Ymchwilydd Marchnata
  • Ysgrifennwr Copi Hysbysebu
  • Cynllunydd Cyfrifon Hysbysebu
  • Cynllunydd yn y Cyfryngau
  • Prynwr yn y Cyfryngau
  • Swyddog Cysylltiadau Cyhoeddus.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Marchnata yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio ystadegau
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • y gallu i wneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • egwyddorion sylfaenol marchnata
  • marchnata mewn cyd-destun busnes
  • rheolaeth
  • cyllid
  • twristiaeth.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech archwilio:

  • cynhyrchu ymgyrchoedd
  • strategaethau marchnata
  • ymddygiad defnyddwyr
  • dulliau ymchwil rheolaeth
  • brandio
  • marchnata busnes i fusnes
  • rheoli perthnasau â chwsmeriaid
  • rheoli adnoddau dynol.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech astudio: 

  • marchnata a chyfathrebu
  • natur a phwysigrwydd marchnata rhyngwladol ac ymwybyddiaeth brand byd-eang
  • dadansoddi sefyllfaoedd marchnata yn ansoddol ac yn feintiol
  • ffurfio cynlluniau marchnata effeithiol.

Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect ymchwil annibynnol gorfodol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Cewch eich haddysgu drwy ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach, a thiwtorialau.

Byddwn yn eich asesu ar ffurf arholiadau, traethodau a asesir, prosiectau, adroddiadau, dyddiaduron myfyriol, portffolios, a chyflwyniadau. Bydd y gwaith cwrs yn datblygu eich gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno dadl yn glir ac yn rhesymegol, a bydd seminarau yn eich helpu i fireinio eich sgiliau cyflwyno.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi ar gyfer eich amser ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bydd yr unigolyn hwn yn eich cynorthwyo â phob math o faterion, boed nhw'n academaidd ai peidio. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Fel myfyriwr israddedig Marchnata yn y drydedd flwyddyn, yr hyn dw i'n ei hoffi am farchnata yw gweithio ar brosiectau yn creu profiad a chanfyddiad sydd yr un mor ddiddorol a chyffrous i rywun arall ag y mae i fi. Heb farchnata, byddai bywyd yn llai diddorol yn gyffredinol – fydden ni ddim yn cael ein difyrru gan fideos feiral er enghraifft. Mae pawb yn hoff o ffyrdd unigryw a hwyliog o edrych ar bethau yn gyffredinol. Bu i hysbyseb gorila Cadbury gipio calonnau cenedl gyfan, ac fe'i crëwyd gan bobl greadigol oedd â meddwl busnes. Dyna pam dw i'n hoffi marchnata. Callum Russell

Fydd marchnata byth yn mynd yn ddiflas. Mae tueddiadau yn newid o hyd, ac mae'n rhaid i bob marchnatwr aros yn gyfredol â nhw. Er enghraifft, moeseg sefydliadau neu hysbysebion feiral yw'r peth newydd ar hyn o bryd! Victoria Claire Halliwell

Hyd y gwela i, Marchnata yw un o bynciau pwysica'r byd modern heddiw. Yn oes y rhyngrwyd sy'n tyfu'n barhaus, a'r camau ymlaen ym maes technoleg, mae economi'r byd wedi profi trawsnewidiadau radical, ac mae marchnadoedd y byd yn fwy cystadleuol nag erioed. Ac felly mae dysgu'r damcaniaethau a'r cysyniadau sydd y tu ôl i farchnata, ei agweddau amrywiol a'i gysylltiadau â'r byd busnes, yn gallu helpu i ddarparu dealltwriaeth well – a hyd yn oed cyfleoedd i archwilio dulliau a thechnegau newydd o gysylltu a denu cwsmeriaid. Danielle Storey

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|