BA

Mathemateg / Drama a Theatr

BA Mathemateg / Drama a Theatr Cod GW14 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y cwrs Mathemateg a Drama ac Astudiaethau Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ymdrochi mewn dwy ddisgyblaeth heriol a thrylwyr.

Mae mathemateg yn hanfodol bwysig i gymdeithas fodern, ac mae'n cyfrannu at nifer o agweddau ar fywyd, gan gynnwys gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid. Mae'r radd hon yn cynnwys y disgyblaethau craidd hanfodol, wedi'u hategu gan ddewis gwych o fodiwlau opsiynol.

Mae Drama ac Astudiaethau Theatr yn edrych drwy ffurfiau hanesyddol a sefydledig a'r tu hwnt er mwyn archwilio'r hyn y gall drama, theatr a pherfformio fod, nawr ac yn y dyfodol. Cewch gyfle i ddod ar draws ystod eang o arferion a ffurfiau beirniadol a chreadigol, a datblygu eich gallu fel ysgolhaig, meddyliwr a gwneuthurwr theatr annibynnol.

Mae galw mawr am raddedigion y radd hon ar draws llawer o ddiwydiannau, am eu sgiliau datrys problemau Mathemategol, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol. Ar yr un pryd, bydd y sgiliau deallusol, ymarferol a throsglwyddadwy a geir wrth astudio Drama ac Astudiaethau Theatr yn eich paratoi ar gyfer ystod o yrfaoedd yn y celfyddydau creadigol a'r tu hwnt.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Mathemateg yn bwnc sydd wedi bod o ddiddordeb i ddynoliaeth ers miloedd o flynyddoedd, o'r byd hynafol hyd heddiw. Mae iaith Mathemateg yn sail i ran fawr o'r byd modern – o wyddoniaeth, technoleg a pheirianneg, i gyllid a masnachu – ac felly bydd yn agor ystod eang o gyfleoedd gyrfaol i chi, tra bod Drama ac Astudiaethau Theatr yn gyfle i ddatblygu'ch sgiliau fel gwneuthurwr a meddyliwr drama, theatr a pherfformiadau cyfoes. Byddwch yn meithrin dealltwriaeth o bob un o'r ffurfiau hyn sy'n rhyngberthyn fel man astudio, meddwl ac arfer creadigol. Drwy gyfuno archwiliadau damcaniaethol ac ymarferol, byddwch yn archwilio'n feirniadol ac yn ymgysylltu ag ystod eang o arferion cyfoes, o ddrama wedi'i sgriptio i berfformiadau penodol i safle, ac o theatr ddogfennol i arbrofi â pherfformiadau cyfryngau newydd.

Pam astudio Mathemateg a Drama ac Astudiaethau Theatr yn Aberystwyth?

Mae cyrsiau Mathemateg Prifysgol Aberystwyth wedi'u hachredu gan y Sefydliad Mathemateg a'i Chymwysiadau (IMA), sef cymdeithas broffesiynol a dysgedig gwledydd Prydain ar gyfer mathemateg. Mae'r IMA yn bodoli er mwyn cefnogi datblygiad dealltwriaeth fathemategol a'i chymwysiadau, ac i hyrwyddo a gwella diwylliant mathemategol yng ngwledydd Prydain a'r tu hwnt, er budd y cyhoedd.

Bu i'r Adran Fathemateg gadw'i safle fel un o adrannau gorau Cymru yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF2014). Cyflwynodd yr adran waith ymchwil bron i 90% o'n staff, y gyfran uchaf o bob adran Fathemateg yng Nghymru. Mae canlyniadau'n dangos bod 1 ymhob 8 o'n cynnyrch ymchwil yn arwain y byd, ac mae mwy na 60% ohono un ai'n arwain y byd neu'n ardderchog yn rhyngwladol. Barnwyd bod ein holl ymchwil, a'r effaith mae'n ei chael y tu hwnt i brifysgolion, o safon rhyngwladol.

Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol ym 1872, sy'n golygu mai dyma'r adran Fathemateg hynaf yng Nghymru. Er gwaethaf ein treftadaeth, rydym wedi parhau i arloesi gan sicrhau bod y cynlluniau gradd rydym yn eu cynnig yn darparu'r radd Fathemateg orau y gallwch ei chael.

Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth yn un o'r Adrannau mwyaf nodedig o'i bath, gydag enw da ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Rydym yn cynnig ystod eang iawn o arbenigedd, sy'n amrywio o theatr a pherfformio lleol a phenodol i safle, i theatr Ewropeaidd gyfoes, drama Brydeinig a Gwyddelig, theatr ddogfennol, celf perfformio, perfformio cyfryngau newydd, gwleidyddiaeth, estheteg, athroniaeth a moeseg.

Mae llawer o'n darlithwyr yn wneuthurwyr theatr proffesiynol arweiniol ac yn ymchwilwyr gweithgar sy'n flaengar yn eu disgyblaethau, ac mae gan staff yr adran gydberthnasau gwaith gweithredol gydag ystod o gwmnïau, gan gynnwys Cwmni Brenhinol Shakespeare, National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Quarantine, Imitating the Dog a Phrosiect Magdalena, sef rhwydwaith rhyngwladol o fenywod mewn theatr gyfoes.

Yn y cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr, darperir cyfleusterau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol, gan gynnwys stiwdios ymarfer a gofodau stiwdio theatr â chyfleusterau da, lle gallwch gyflawni prosiectau a chynyrchiadau o wahanol feintiau. Rydym hefyd yn defnyddio adnoddau daearyddol unigryw Aberystwyth – ei thirwedd, ei hiaith, a'i hanes – i archwilio'r heriau a wynebir drwy weithio mewn gwahanol lefydd a sefyllfaoedd, gan ddatblygu dealltwriaeth o sut mae theatr a pherfformiad bob amser yn deillio o gyd-destunau penodol, ac yn perthnasu â nhw. Mae Canolfan y Celfyddydau, un o'r canolfannau celfyddydau campws mwyaf yng ngwledydd Prydain, wedi'i lleoli ar y prif gampws, ac mae'n lleoliad poblogaidd lle gallwch brofi perfformiadau o bob math. Mae gan yr Adran gysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau, ac rydym yn cydweithio i gynhyrchu Pasbort Theatr blynyddol o waith cymorthdaledig yn benodol i fyfyrwyr.

Mae'r ddwy adran hefyd yn cynnig nifer o gynlluniau gradd a modiwlau a gaiff eu haddysgu'n gyfan gwbl neu'n rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr adrannau.

Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Theatre in Context 1 TP11020 20
Theatre in Context 2 TP11320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Probability MA10310 10
Site-Specific Performance Project TP11420 20
Statistics MA11310 10
Studio Theatre Project TP11120 20
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10
Body, Voice, Expression. TP10220 20
Body, Voice, Perception TP10120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Acting for Camera TP25920 20
Acting: Process and Performance TP21220 20
Devised Performance Project TP21620 20
Directors' Theatre TP21820 20
New Media Performance TP23820 20
Shakespeare in Performance TP23220 20
Theatre Design Project TP22620 20
Theatre Production Project TP24940 40
Theatre and Contemporary Society TP20820 20
Advanced Dynamics MA25710 10
Applied Statistics MA26620 20
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau MT25220 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Real Analysis MA20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Drama TP30020 20
Musical Theatre Dramaturgies TP39020 20
Performance and Architecture TP33420 20
Performance and Disability TP30320 20
Place, Space and Landscape TP32820 20
Ensemble Performance Project TP35520 20
Independent Research Project TP36040 40
Playwriting TP33340 40
School Shakespeare Project TP30140 40

Gyrfaoedd

Bydd gradd mewn Mathemateg a Drama ac Astudiaethau Theatr yn eich paratoi ar gyfer opsiynau gyrfaol lle mae llawer o alw am sgiliau rhifiadol arbenigol a meddwl rhesymegol a dadansoddol, ynghyd â gallu ymarferol i ddatblygu syniadau yn brosiectau gyda hyder ac annibyniaeth.

Mae graddedigion Mathemateg wedi mynd i weithio i sefydliadau fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol a'r Swyddfa Dywydd, ond mae llwybrau gyrfa megis cyfrifo a bancio, dadansoddi risg a gwaith actiwaraidd, rheolaeth ariannol, dadansoddi buddsoddiadau, technoleg gwybodaeth, ymchwil a darlithio hefyd ar agor i chi.

Mae llawer o raddedigion Drama ac Astudiaethau Theatr wedi mynd i weithio fel actorion, perfformwyr, cyfarwyddwyr a dylunwyr, un ai'n uniongyrchol neu drwy gydweithrediad â chwmnïau proffesiynol a chydweithredol, neu ar ôl cyflawni astudiaeth ôl-raddedig bellach. Mae llawer o'n graddedigion wedi cael gwaith mewn ystod o wahanol feysydd hefyd, gan gynnwys addysgu, gweinyddu, marchnata, rheoli a chysylltiadau cyhoeddus.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Yn ogystal a dealltwriaeth a sgiliau penodol i bwnc, bydd astudio am radd mewn Mathemateg a Drama ac Astudiaethau Theatr yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • y gallu i gymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • y gallu i ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • y gallu i strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • y gallu i wrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol.

Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn allan rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae BMG yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn rhan Mathemateg eich cwrs, yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn dilyn llwybr clir drwy astudiaeth o'r disgyblaethau craidd, gan gynnwys algebra a chalcwlws, geometreg gyfesurynnol a fector, tebygolrwydd, dadansoddi mathemategol, hafaliadau differol ac ystadegau.

Yn ystod blwyddyn gyntaf eich astudiaethau Drama a Theatr, byddwch yn cyflawni nifer o fodiwlau cyflwyniadol sy'n datblygu eich sgiliau creu, meddwl ac astudio, gan archwilio rhai momentau, arferion a dulliau hanesyddol allweddol er mwyn ateb y cwestiynau canlynol: ‘Beth yw theatr?’, ‘Beth fu theatr?’ a ‘Beth allai theatr fod, nawr ac yn y dyfodol?’

Yn ystod ail a thrydedd flwyddyn y cwrs Mathemateg, byddwch yn astudio dadansoddi real, algebra haniaethol a llinol, dosrannu ac amcangyfrif, dulliau ystadegol a ffiseg fathemategol. Mae modiwlau opsiynol yn cynnwys dadansoddi rhifiadol a chymhleth, dynameg a hydrodynameg, samplu, ac atchweliadau a dadansoddiad amrywiant (ANOVA). Bydd modd i chi arbenigo ymhellach yn ystod y flwyddyn olaf, drwy ddewis o blith ystod eang o fodiwlau yn y ddwy ddisgyblaeth sy'n gweddu i'ch diddordebau. Byddwch hefyd yn cyflawni modiwl cynllunio gyrfa gorfodol fel rhan o'ch cwrs, a fydd yn cynyddu eich rhagolygon cyflogadwyedd ac yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr.

Yn ystod ail flwyddyn y cwrs Drama ac Astudiaethau Theatr, byddwch yn edrych yn fanylach ar greu theatr gyfoes drwy ddulliau ymarferol, hanesyddol a damcaniaethol, gan feithrin eich gallu fel gwneuthurwr theatr, meddyliwr ac ysgolhaig. Gallwch ddewis o blith cyfres o fodiwlau sy'n archwilio datblygiad theatr Ewropeaidd fodern, Shakespeare mewn perfformio cyfoes, cymdeithas gyfoes a theatr, ynghyd â pherfformio ar gyfryngau newydd a sgriptio perfformiadau. At hynny, bydd cyfres o fodiwlau ymarferol sy'n archwilio actio, cyfarwyddo, dyfeisio a dylunio hefyd ar gael, a gallwch hefyd ddewis eu datblygu drwy gymryd rhan mewn gwaith cynhyrchu graddfa lawn.

Byddwch yn cael cyfle yn ystod y drydedd flwyddyn i greu gwaith creadigol annibynnol, cyflawni prosiect ymchwil sylweddol, a chynnal astudiaeth ddamcaniaethol uwch. Gallwch ddewis o blith modiwlau sy'n profi ac yn ymestyn eich sgiliau creu prosiectau cynhyrchu grŵp ac unigol ac sy'n eich cefnogi i greu prosiect Theatr Gymhwysol, datblygu sgiliau entrepreneuraidd yn cynhyrchu a churadu digwyddiadau diwylliannol, neu sgriptio eich drama eich hun. Mae modiwlau opsiynol yn ystod y drydedd flwyddyn yn eich galluogi i ymgysylltu ag arbenigedd ymchwil y staff, sy'n cynnwys lle, gofod a thirwedd, athroniaeth perfformio, perfformio a gwleidyddiaeth, theatr, rhywedd a rhywioldeb, theatr ddogfennol a drama gyfoes gwledydd Prydain. Yn ystod y drydedd flwyddyn, bydd gennych gyfle i ddangos eich llwyddiant fel gwneuthurwr, meddyliwr ac ymchwilydd newydd, gan baratoi i fynd i'r byd gwaith, entrepreneuriaeth neu astudiaeth ôl-raddedig.

Mae'r cyfuniad o Fathemateg a Drama ac Astudiaethau Theatr, er ei fod yn anarferol, yn rhoi cyfle i chi archwilio eich dawn gelfyddydol bersonol a'ch meddwl rhesymu a rhesymegol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd ochr fathemategol eich gradd yn cael ei haddysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i waith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp, lle byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Ar yr ochr Ddrama ac Astudiaethau Theatr, byddwch yn cael eich addysgu ar ffurf gweithdai ymarferol, seminarau grwpiau bach, a darlithoedd. Mae'r amrywiaeth hon yn y gweithgarwch yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth dysgu ac addysgu, ac mae'n creu amgylchedd dysgu sy'n gyffrous a chynhyrchiol mewn modd unigryw. Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau ffurfiol ac wedi'u perfformio, arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau ymarferol, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp. Wrth i chi ddatblygu drwy'r radd, byddwn yn rhoi pwyslais cynyddol ar ddatblygu eich annibyniaeth a'ch hunan-reolaeth, drwy ganiatáu i chi gymryd cyfrifoldeb am eich dysgu eich hun.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, i ddatblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac i ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|