BSc

Mathemateg / Ffiseg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r radd Mathemateg a Ffiseg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn caniatáu i chi archwilio dwy ddisgyblaeth sy'n perthyn yn agos mewn modd cydlynol a strwythuredig.

Byddwch yn canfod elfennau craidd pob maes pwnc, ac yn cael dealltwriaeth gadarn o'r sgiliau mathemategol a rhifiadol a fydd yn bwysig i'ch dealltwriaeth o gysyniadau ffisegol a ffenomena naturiol.

Mae galw mawr am raddedigion Mathemateg a Ffiseg ar draws llawer o ddiwydiannau, megis peirianneg, technoleg a chyllid. 


Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Mathemateg a Ffiseg yn Aberystwyth?

  • Mae Mathemateg a Ffiseg wedi'u haddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth ers 1872, a dyma'r brifysgol gyntaf yng Nghymru i addysgu'r pynciau hyn. Ar y cwrs gradd achrediad dwbl hwn, byddwch yn rhannu'ch amser yn gyfartal rhwng y ddwy ddisgyblaeth academaidd hon sy'n cyd-fynd yn wych â'i gilydd, mewn dwy adran sy'n torri tir newydd ym maes ymchwil ac arloesedd.
  • Bu i'r Adran Fathemateg gadw'i safle fel un o adrannau gorau Cymru yn y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf (REF 2014). Barnwyd bod ein holl ymchwil, a'r effaith mae'n ei chael y tu hwnt i brifysgolion, o safon rhyngwladol.
  • Mae'r Adrannau Mathemateg a Ffiseg ar flaen y gad o ran darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y pynciau hyn ar lefel addysg uwch yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dynameg, Tonnau a Gwres FG10020 20
Trydan, Magneteg a Mater FG11120 20
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd) FG15510 10
Modern Physics PH14310 10
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Algebra Llinol MT21410 10
Trydan a Magnetedd FG22510 10
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Optics PH22010 10
Principles of Quantum Mechanics PH23010 10
Thermodynamics PH21510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Dynamics MA25710 10
Applied Statistics MA26620 20
Cyflwyniad i Ddadansoddiad Rhifiadol a'i Gymwysiadau MT25220 20
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Real Analysis MA20110 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Concepts in Condensed Matter Physics PH32410 10
Particles, Quanta and Fields PH33020 20
Sgiliau Ymchwil Ymarferol (10 credyd) FG35110 10
Prosiect (20 Credyd) FG35620 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfaol

Caiff graddedigion ym maes Mathemateg a Ffiseg eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr am eu sgiliau rhifedd a datrys problemau.

Gallai graddedigion Mathemateg a Ffiseg fynd i yrfaoedd mewn meysydd megis:

  • peirianneg
  • ysgrifennu a chyhoeddi gwyddonol
  • dadansoddi risg
  • ymchwil gweithredol
  • ymgynghori busnes
  • ffiseg feddygol
  • meteoroleg
  • cyfrifiadureg
  • cyfrifo a chyllid 

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Mathemateg / Ffiseg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr.

Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Cyfleoedd profiad gwaith

Fel myfyriwr yma, byddwch yn gallu manteisio ar y gwahanol gyfleoedd sy'n bodoli, megis GwaithAber, AberYmlaen, BMG a GO Wales.

Mae'r adran yn cefnogi myfyrwyr sy'n chwilio am waith gwirfoddol, yn enwedig yn addysgu mathemateg ym mhob sector. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan yr adran.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

  • Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich dealltwriaeth o ystod eang o dechnegau damcaniaethol, arbrofol a chyfrifiadol mewn Mathemateg a Ffiseg, a bydd yn eich addysgu i gymhwyso'r technegau rydych wedi'u dysgu er mwyn datrys problemau.
  • Mae dwy flynedd gyntaf y cwrs yn canolbwyntio bennaf ar fodiwlau sy'n trin ystod eang o themâu ym maes algebra, calcwlws, hafaliadau gwahaniaethol, mecaneg cwantwm, deinameg a ffiseg thermol.
  • Ynghyd â'ch modiwlau craidd yn y drydedd flwyddyn, bydd gennych ystod eang o ddewis o blith Mathemateg a Ffiseg, a fydd yn caniatáu i chi deilwra'r cwrs i weddu i'ch diddordebau. Byddwch hefyd yn cyflawni prosiect lle byddwch yn ymchwilio i broblem o natur arbrofol, ddamcaniaethol neu fodelu cyfrifiadurol o dan oruchwyliaeth aelod o'r staff Ffiseg.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Byddwch yn cael eich addysgu drwy gyfres o ddulliau ac ymagweddau dysgu ac addysgu, sy'n amrywio o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau ffurfiol i weithdai, gwaith ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.
  • Byddwch yn cael eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, asesiadau parhaus, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy, dehongli data ac arholiadau.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar ac agos-atoch. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn, ond yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil

Mae Ffiseg bob dydd yn gwella eich dealltwriaeth o'r bydysawd a phopeth rydyn ni'n ei brofi. Mae gwyddonwyr angerddol yn rhoi gwybod i chi am eu cyfraniadau tuag at wyddoniaeth sy'n flaenllaw ym maes ffiseg. Caiff eich amser ei rannu rhwng cael profiad ymarferol yn y labordy yn defnyddio offer cyffrous, yn cynnwys laserau, osgilosgopau a sbectomedrau, a darlithoedd fydd o ddiddordeb i chi ac yn eich ysbrydoli. Mae pob modiwl yn herio eich deallusrwydd ac yn caniatáu i chi feddu ar y wybodaeth y mae'r rhan fwyaf o bobl yn elwa arno, ond nad ydyn nhw'n gwybod ei fod yn bodoli. Mae myfyrwyr yn rhagori, ac yn ehangu eu meddyliau. Mae angen amser ac ymdrech, ond mae'r sgiliau a'r ddealltwriaeth rydych chi'n eu meithrin o'r radd flaenaf. Sarah Chandler


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 112

Safon Uwch BBB-BBC to include B in Mathematics and B in Physics component.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Mathematics and B in Physics

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26 with 5 points in Mathematics and Physics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics and Physics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|