Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae ein graddau Mathemateg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich helpu i ddatgelu pwnc sy'n hanfodol bwysig i gymdeithas fodern - ar draws gwyddoniaeth, peirianneg, technoleg a chyllid.

Rydym yn ceisio creu amgylchedd dysgu cyfeillgar, agored a chefnogol, lle gall myfyrwyr gyflawni eu llawn botensial mathemategol. 

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ar gyfer y rhai nad yw'r cymwysterau mynediad digonol ganddynt mewn mathemateg, ac mae'n cynnwys mathemateg hanfodol er mwyn caniatáu i fyfyrwyr fynd ymlaen at radd anrhydedd.

Ar ôl cwblhau'r radd, byddwch yn dod yn rhan o bwll o raddedigion y mae galw mawr amdanynt, ar draws llawer o ddiwydiannau, am eu sgiliau datrys problemau, eu prosesau meddwl dadansoddol clir, a'u gallu i lunio dadl resymegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Mathemateg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers 1872, felly mae'r adran yn adeiladu ar dros 140 mlynedd o ragoriaeth addysgu, gan gyflogi darlithwyr sy'n athrawon ymroddedig ac yn ymchwilwyr a gaiff eu cydnabod yn rhyngwladol.
  • Byddwch yn datgelu disgyblaeth sy'n cyfuno'r gwaith o adnabod a dadansoddi siapiau a phatrymau gyda chasglu data a chyfrifo.
  • Mae'r Adran yn cynnig sawl modiwl a addysgir drwy gyfrwng y Gymraeg. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Ein Staff

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Foundations of Mathematics 1 MA02610 10
Foundations of Mathematics 2 MA03610 10
Introduction to Mathematical Methods 1 PH06020 20
Introduction to Mathematical Methods 2 PH06520 20
Introduction to Statistics MA00910 10
Mathematics Tutorial MA01020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Energy and the Environment PH19010 10
Information Technology for University Students CS01120 20
Introduction to Fundamentals of Physics I PH04020 20
Spreadsheets for University Students CS01010 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Cynllunio Gyrfa a Datblygu Sgiliau Mathemategol MT10720 20
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ffiseg Mathemategol FG26020 20
Applied Statistics MA26620 20
Dadansoddiad Cymhlyg MT21510 10
Introduction to Numerical Analysis and its applications MA25220 20
Algebra Llinol MT21410 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Dynamics MA25710 10
Dadansoddiad Real MT20110 10
Distributions and Estimation MA26010 10
Hydrodynameg 1 MT25610 10
Hydrodynamics 1 MA25610 10
Introduction to Abstract Algebra MA20310 10
Real Analysis MA20110 10

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Mathemateg?

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i chwilio am swyddi yn y sectorau canlynol:

  • dadansoddi ystadegol ac ystadegau cyfrifiadol
  • addysgu
  • peirianneg awyrennol
  • cyfrifo
  • bancio
  • dadansoddi risg
  • gwaith actiwaraidd
  • rheolaeth ariannol
  • dadansoddi buddsoddiadau
  • technoleg gwybodaeth

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu.

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Ar ôl i chi gwblhau'r radd hon, byddwch wedi meithrin sgiliau yn y meysydd canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio Mathemateg ac Ystadegau. Yn gyffredinol mae hyn gyfwerth â Mathemateg Safon Uwch, ynghyd â nifer o fodiwlau dethol o'r tu mewn i'r Sefydliad. Ar ôl cwblhau'r flwyddyn gyntaf, byddwch yn mynd ymlaen i archwilio Mathemateg ymhellach.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • algebra
  • calcwlws
  • geometreg gyfesurynnol a fector
  • tebygolrwydd
  • dadansoddi mathemategol
  • hafaliadau differol
  • ystadegau

Yn y drydedd a'r bedwaredd flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • dadansoddi real
  • algebra haniaethol a llinol
  • dosrannu ac amcangyfrif
  • dulliau ystadegol
  • ffiseg fathemategol
  • dadansoddi rhifiadol
  • dynameg a hydrodynameg
  • samplu
  • atchweliadau a dadansoddiad amrywiant (ANOVA)

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir ein gradd ar ffurf darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol.

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau ac arholiadau.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Rhagor o wybodaeth:

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Does dim pwnc diflas byth, ac mae'r cwrs yn mynd yn llawer dyfnach i fathemateg nag o'n i'n ei ddisgwyl. Mae cymaint o wahanol fodiwlau i ddewis ohonyn nhw, felly bydd rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi bob amser. Mae'r darlithwyr bob amser yn barod i helpu. Elin Wyn Hughes

Mae Mathemateg yn gwrs gwych gyda darlithwyr cyfeillgar ac agos-atoch. Mae'r cynnwys bob amser yn ddiddorol iawn ond yn heriol i'r graddau cywir. Mae'r adran gyfan yn gweithio'n effeithiol i gynnig yr holl gyfleusterau sydd eu hangen i gael gradd dda. Jennifer O'Neil

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|