Mathemateg gydag Addysg Cod G1X3 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio – 0800 121 40 80
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
G1X3-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
86%
Ar gael ar gyfer
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrBydd Mathemateg gydag Addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu eich gwerthfawrogiad o dechnegau mathemategol ac ystadegol uwch, ac yn cynnwys sbectrwm eang o weithgareddau datblygiad plentyndod sy'n cynnwys yr agweddau cymdeithasegol, seicolegol ac addysgol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad plant.
Ar y cwrs hwn, byddwch yn treulio dau draean o'ch amser yn yr Adran Fathemateg, a thraean ohono yn yr Ysgol Addysg. Mae'r radd yn defnyddio arbenigedd y ddwy adran i gynnig rhaglen ysgogol a pherthnasol i chi, sy'n ddeniadol iawn i gyflogwyr.
Yn ogystal â'r sgiliau mathemategol a dadansoddol arbenigol y byddwch yn eu meithrin drwy'r radd, byddwch hefyd yn meithrin ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn ddefnyddiol iawn i chi mewn unrhyw yrfa. Bydd modd i chi ymgeisio am gyrsiau hyfforddiant dysgu TAR un ai ar lefel Cynradd neu Uwchradd.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC to include B in Mathematics
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Mathematics
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Mathematics at Higher Level
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Mathematics
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|