MBiol

Microbioleg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os ydych chi wedi eich cyfareddu gan ficrobau, byddwch yn ffynnu ar ein cwrs gradd MBiol Microbioleg yma ym Mhrifysgol Aberystwyth. O ddewis astudio MBiol Microbioleg, byddwch yn achub y blaen drwy gyfuno BSc â blwyddyn yn ychwanegol o astudio ar lefel uwchraddedig er mwyn graddio gyda chymhwyster Meistr. Yn ystod y tair blynedd o astudio ar lefel israddedig, byddwch yn darganfod byd rhyfeddol bacteria, ffyngau a firysau, a'u rôl mewn clefydau heintus sy’n effeithio ar bobl, anifeiliaid a phlanhigion. Yn ystod eich blwyddyn olaf yn astudio ar lefel Meistr, cewch gyfle i ddefnyddio’ch gwybodaeth pwnc-benodol a’ch dealltwriaeth ohoni wrth ymgymryd â phrosiect ymchwil, gan gydweithio’n agos ag un o’n grwpiau ymchwil. 

Os ydych yn dymuno bod yn rhan o ddatrys problemau byd-eang megis newid yn yr hinsawdd, llygredd ac ymwrthedd i wrthfiotigau, mae gradd mewn Microbioleg yn fan cychwyn da, a bydd ein gradd MBiol Microbioleg yn cynnig yr wybodaeth fanwl ac eang a fydd ei hangen arnoch i ddilyn gyrfa lwyddiannus fel gwyddonydd proffesiynol.

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited Degree

Ceir pwyslais ymarferol cryf ar ein cyrsiau gradd Microbioleg, a byddwch yn dysgu amrywiaeth eang o dechnegau mewn meysydd megis geneteg, biocemeg ac epiliaeth. 

Gofynir am arbenigedd mewn imiwnoleg, geneteg, biocemeg, bioleg celloedd a dulliau ymchwil wrth astudio microbioleg, ac fe gewch hyfforddiant yn y meysydd hyn drwy gydol y cwrs. Byddwch yn dysgu am broblemau byd-eang megis ymwrthedd gwrthficrobaidd a phathogenau sy’n datblygu, ynghyd â’r defnydd buddiol a wneir o ficrobau ym meysydd biotechnoleg cynhyrchu bwyd ac amaeth. Drwy gydol y cwrs ceir pwyslais cryf ar hyfforddiant ymarferol ym maes technegau microfiolegol a moleciwlaidd a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel gwyddonwyr proffesiynol. Ceir modiwlau ymarferol yn y flwyddyn gyntaf a’r ail, a bydd traean o’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio ar y prosiect ymchwil uwch. 

Cewch eich dysgu gan staff addysgu brwdfrydig iawn sydd yn arbenigwyr yn eu pynciau ac sy’n cynnal ymchwil yn holl feysydd microbioleg. Cewch hefyd ddefnyddio ein cyfleusterau o’r radd flaenaf sy’n cynnwys ystafelloedd microsgopeg a bio-ddelweddu, labordai modern, a chyfleusterau egino. Yn ogystal â’r cyfleusterau modern hyn a geir o dan do, mae gan Brifysgol Aberystwyth ffermydd a choetiroedd ar gyfer astudio microbau amgylcheddol a'r rhai sy'n effeithio ar iechyd anifeiliaid. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Amrywiaeth Microbau a Phlanhigion BG19920 20
Sgiliau ar gyfer Biolegwyr BG16820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biological chemistry BR17320 20
Disease Diagnosis and Control BR15420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Monitro a Microbioleg Amgylcheddol BG26020 20
One Health Microbiology BR26520 20
Practical and Professional Skills in Microbiology BR24720 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Cell and Cancer Biology BR25920 20
Immunology BR22220 20
Proteins and Enzymes BR26620 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Biotechnology BR35520 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Molecular Pharmacology BR36120 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Field and Laboratory Techniques BRM4820 20
Frontiers in the Biosciences BRM4920 20
MBiol Research Project BRM2860 60
Research Methods in the Biosciences BRM6420 20

Gyrfaoedd

Beth mae ein graddedigion yn ei wneud erbyn hyn?  

Mae ein graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn y meysydd canlynol: 

  • ymchwil wyddonol  
  • geneteg foleciwlaidd glinigol 
  • cadwraeth natur 
  • addysg.

Mae myfyrwyr o'n hadran hefyd wedi mynd ymlaen i gyflawni hyfforddiant mewn Deintyddiaeth a Meddygaeth.

Pa sgiliau fydda i'n eu datblygu wrth astudio Microbioleg?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl gyrsiau. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data 
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch 
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth 
  • y gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser 
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • hunangymhelliant a hunanddibyniaeth 
  • y gallu i weithio mewn tîm, i drafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Sgiliau allweddol a chymwyseddau MBiol Microbioleg

Sgiliau astudio 

Byddwch yn datblygu gywbodaeth fanwl a dealltwriaeth feirniadol o’r testunau allweddol cyfoes ym maes Microbioleg. Byddwch yn meistroli’r broses ymchwil ac yn cyfrannu at sylfaen wybodaeth y pwnc yn ystod yr ymchwil yn eich blwyddyn olaf. Trwy gydol hyn, cewch lawer o gyfleoedd i ddatblygu’n ymchwilydd myfyriol ac annibynnol ac fe gewch gefnogaeth academyddion arbenigol sy’n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd.

Hunangymhelliant a disgyblaeth 

Mae astudio ar lefel uwchraddedig yn gofyn am ddisgyblaeth a hunangymhelliant. Er y byddwch yn gallu elwa ar arbenigedd ac arweiniad ein staff profiadol, chi fydd yn gyfrifol am ddyfeisio a chwblhau prosiect ymchwil eich blwyddyn olaf. Bydd y broses hon yn cryfhau eich sgiliau fel gweithiwr hunangynhaliol – priodwedd a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr.

Sgiliau trosglwyddadwy 

Cynlluniwyd MBiol Microbioleg i roi ichi ystod o sgiliau trosglwyddadwy y gellir eu defnyddio mewn amrywiaeth o gyd-destunau gwaith. Mae’r cwrs yn cynnwys nifer o fodiwlau a ddysgir ac astudio annibynnol o dan arweiniad sy'n canolbwyntio ar y myfyriwr. Mae hyn yn cynnig fframwaith a fydd yn eich caniatáu i ddatblygu’ch gwybodaeth pynciol trwy fynd ar drywydd meysydd sy’n benodol i'ch diddordebau chi a datblygu sgiliau meddwl yn wreiddiol, dadansoddi, dehongli ac ymresymu. Bydd asesiadau rheolaidd ar ffurf adroddiadau, traethodau, cyflwyniadau seminar, précis, ac astudiaethau achos, a fydd yn eich paratoi am wahanol ofynion y gweithle modern.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith sy'n cael eu rheoli gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i flociau adeiladu biocemegol celloedd a byddwch yn dysgu am strwythur a swyddogaeth moleciwlau, a’r rhyngweithiadau biotig ac anfiotig sydd wedi digwydd ar y ddaear dros gyfnodau bydol a gofodol. Cewch hefyd ddysgu am effeithiau’r rhyngweithiadau dynamig hyn ar flodeueg a ffawna y cyfnod presennol. Yn ogystal â hynny, byddwch yn archwilio’r prif lwybrau metabolig sy'n bodoli ac yn ymchwilio i amrywiaeth bywyd microbaidd a phwysigrwydd micro-organebau megis pathogenau. Byddwch yn astudio ecoleg a heriau’r dyfodol megis ymateb i'r hinsawdd byd-eang a gwarchod bioamrywiaeth ynghyd â’r amrywiaeth syfrdanol a geir ar y Ddaear. Byddwch yn dysgu am yr egwyddorion allweddol sy’n sail i theori ac ymarfer ym maes geneteg ac yn dod yn ymwybodol o’r datblygiadau diweddar yn y maes hwn. Byddwch yn dysgu trwy ymgymryd â chyfres o arbrofion cysylltiedig a fydd yn datblygu sgiliau ymarferol elfennol sy’n angenrheidiol i ymchwil mewn bioleg. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi ddatblygu’r sgiliau sy’n allweddol i yrfaoedd academaidd a phroffesiynol llwyddiannus, megis rheoli amser, meddwl yn feirniadol a dysgu myfyrgar. 

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth am rolau microbau mewn ecosystemau daearol a dyfrol, gan ganolbwyntio ar eu pwysigrwydd ym maes cylchu bioddaeargemegol. Byddwch yn datblygu’r sgiliau sylfaenol a ddisgwylir gan raddedigion sy’n gweithio mewn maes sy’n ymwneud â microbioleg, megis astudio ystod eang o ficrobau sy’n seiliedig ar facteria byw. Byddwch hefyd yn dysgu am y dulliau annibynnol o’u hadnabod, gan ddehongli data o ddadansoddiadau meintiol a biowybodol, ac yn datblygu safbwyntiau ynghylch y cysylltiad rhwng microbioleg a chymdeithas a pholisi. Byddwch yn ymchwilio i'r berthynas rhwng iechyd ac afiechyd mewn pobl, anifeiliaid, fector pryfed a’r amgylchedd sydd wedi dod yn ganolbwynt i wyddor meddygol a milfeddygol yn y broses o dderbyn bod micro-organebau buddiol a niweidiol ill dau yn dylanwadu ar iechyd. Byddwch yn archwilio’r egwyddorion allweddol sy’n sail I gynllunio ymchwil wyddonol dda, gan gynnwys trin data ac ystadegau ac ystyried yr egwyddorion allweddol sy’n sail i wyddoniaeth arbrofol. Bydd hyn yn eich paratoi ar gyfer y traethawd hir. 

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn archwilio sut mae organebau neu ddeunydd biolegol yn cael eu defnyddio i ddatblygu neu greu cynnyrch er budd pobl. Mae biotechnolegau traddodiadol yn cynnwys gwneud bara a bragu tra mae cynhyrchion biotechnoleg fodern yn cynnwys cynnyrch moleciwlaidd a biolegol, cyffuriau a biodanwyddau. Byddwch yn dysgu am y cysyniad o afiechyd sy’n ganlyniad i ymosodiad gan organeb ficrobaidd sy’n rhan bwysig o filfeddygaeth yn ogystal ag amaeth. Byddwch yn ystyried y berthynas rhwng symptomau a mecaniaethau pathogenig trwy gyfres o astudiaethau achos sy’n cynnwys esiamplau o bathogenau ar sail firws, bacteria, ffwng ac oomycete sy'n heintio pobl, anifeiliaid a phlanhigion, ac yn archwilio mecaniaethau rheoli clefydau. Yn olaf, byddwch yn ymgymryd ag ymchwil fanwl ar thema sy’n cyd-fynd â’ch diddordebau chi a fydd yn seiliedig ar arbrofion labordy ac ymarferion gwaith maes, gan gynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol ar sail ffynonellau data eilradd, neu’n ymwneud â dadansoddi data a geir mewn gwybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi. Byddwch yn gweithio’n annibynnol dan arweiniad eich goruchwyliwr. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn astudio ar lefel uwchraddedig. Bydd hyn yn golygu astudio’r sgiliau ymchwil sy’n hanfodol i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil terfynol, sef prosiect ymchwil wyddonol annibynnol y byddwch yn ei wneud mewn cydweithrediad agos ag un o’n grwpiau ymchwil. Byddwch yn ymarfer ac yn datblygu’r sgiliau ysgrifennu sy’n berthnasol i wyddonydd ymchwil proffesiynol, ac yn cynhyrchu papur ymchwil ar ddiwedd y prosiect.  Prosiect ymchwil dadansoddol yw hwn fel arfer sy’n archwilio pwnc o’ch dewis chi, yn amodol ar gymeradwyaeth eich goruchwyliwr. Byddwch yn ymchwilio i'r technegau gwaith maes a labordy a ddefnyddir i gynnal ymchwiliadau i broblemau go iawn ym maes microbioleg. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae pynciau yn gorgyffwrdd ac yn dod i ddeall gwahanol ddulliau ymchwil, gan gynnwys sut i'w gyfleu a’r ffyrdd y defnyddir yr wybodaeth gan y rhanddeiliaid.   

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu mewn darlithoedd, gweithdai, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. 

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, ymarferion ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, portffolios, Wikis, erthyglau cylchgrawn, cadw cofnodion gwaith maes, ac arholiadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 120

Safon Uwch ABB-BBB with B in Biology or Human Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics and a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:
BTEC not accepted for this scheme

Bagloriaeth Ryngwladol:
32-30 points overall with 6 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75% overall with 7 in a relevant science

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|