BSc

Daearyddiaeth Ffisegol / Mathemateg

Daearyddiaeth Ffisegol / Mathemateg Cod FG81 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Os byddwch yn dewis astudio gradd mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn cael eich addysgu yn un o adrannau Daearyddiaeth mwyaf a hynaf gwledydd Prydain. Mae'r cwrs Daearyddiaeth Ffisegol a Mathemateg yn cynnig strwythur cwrs rhyngweithiol, amrywiol a chyffrous, sy'n cyfuno theori, astudiaethau maes ac astudiaethau yn y labordy.

Byddwch yn cael eich addysgu gan staff o safon byd-eang a fydd yn helpu i ddatblygu eich dealltwriaeth o'r prosesau ffisegol sy'n ffurfio'r ddaear, o'r môr i afonydd, o rewlifoedd i losgfynyddoedd, yn cynnwys tirweddau o'r anialwch i'r Arctig, a byddwch yn datblygu dealltwriaeth ddofn o Fathemateg.

Byddwch yn cael opsiwn i deithio ar daith maes ryngwladol yn eich ail flwyddyn o astudio. Mae Aberystwyth yn ardal sy'n gyfoeth o harddwch naturiol, ac fel myfyriwr yma, ewch chi ddim yn bell heb gael cipolwg o'r môr, y traethau hardd, y mynyddoedd neu'r afonydd.


Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd BSc hon mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Mathemateg yn radd arbenigol, lle byddwch yn treulio hanner eich amser yn astudio Daearyddiaeth wyddonol, a hanner eich amser yn astudio mathemateg. Mae'r cwrs hwn yn cynnig cyfle hynod i ymchwilio i'r prosesau sy'n strwythuro'r byd naturiol, gyda chymorth gwaith dadansoddi mathemategol. Byddwch yn gwneud hyn ar raddfeydd lleol a byd-eang, a byddwch yn edrych ar y goblygiadau i gymdeithas ddynol y mae'r grymoedd pwerus hyn yn ei pheryglu.

Byddwch yn archwilio ystod o bynciau, gan gynnwys rheoli'r amgylchedd, gwyddoniaeth cwartenaidd, ecoleg fyd-eang ac amgylcheddau wyneb y ddaear, gan ddatblygu eich sgiliau mathemategol mewn meysydd megis algebra a chalcwlws, hafaliadau differol neu ystadegau.

Bydd modd i chi gyfeirio eich astudiaeth at feysydd arbenigol drwy ddewis modiwlau opsiynol yn cynnwys Dynameg Systemau Afonydd, Geomorffoleg, Systemau Gwybodaeth Daearyddol a Chanfod o Bell, neu Weithgaredd Folcanig. Bydd modd i chi hefyd ddewis eich ffocws mathemategol rhwng mecaneg ac ystadegau, gan ddewis o blith modiwlau megis Casgliadau Ystadegol Cymharol a Thechnegau Modelu Llinol, neu Hafaliadau Differol Rhannol a Hydrodynameg.

Mae'r cwrs hwn wedi'i leoli yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a'r Adran Fathemateg, dwy adran sy'n adnabyddus yn fyd-eang. Mae ein haelodau staff yn arbenigo mewn canghennau penodol o'u disgyblaethau, a byddant ar gael i roi cyngor ac arweiniad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys wrth i chi baratoi a chyflwyno eich traethawd hir terfynol.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn un o gymunedau Daearyddiaeth mwyaf Prydain, ac mae'r ddaearyddiaeth arfordirol, afonol a biolegol o gwmpas Aberystwyth yn berffaith ar gyfer mynd allan a chynnal gwaith maes rheolaidd.

Bydd y radd BSc hon mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Mathemateg yn werthfawr yn unrhyw weithle graddedig fwy neu lai. Erbyn i chi gael eich gradd, byddwch yn ymchwilydd medrus, yn ddadansoddwr hyderus, ac yn gyfathrebwr rhugl. Byddwch yn brofiadol yn cynllunio prosiectau, yn cyflwyno ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac yn arwain a chydweithio mewn tîm. Dim ond rhai o'r sgiliau y byddwch yn gallu eu cynnig mewn unrhyw weithle graddedig yw'r rhain.

Mae ein darlithwyr yn ymchwilwyr gweithgar sy'n flaengar yn eu disgyblaethau, a byddwch yn elwa ar gael dysgu'r damcaniaethau a'r technegau daearyddol diweddaraf. Yn asesiad diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (REF 2014), cadwodd yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ei choron fel adran Ddaearyddiaeth orau Cymru, gyda 78% o'r ymchwil a gyflawnir yn cael ei ystyried un ai fel ymchwil sy'n "arwain y byd" neu sy'n "ardderchog yn rhyngwladol". Mae'r Adran hefyd yn un o 10 Adran Ddaearyddiaeth orau gwledydd Prydain mewn perthynas â grym ymchwil, sy'n cynnig mesur o ansawdd yr ymchwil ynghyd â nifer y staff sy'n cyflawni ymchwil yn yr adran. O ran Mathemateg, barnwyd yr holl ymchwil a gyflwynwyd i REF 2014 fel ymchwil a gydnabyddir yn rhyngwladol neu'n uwch.

Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Mae’r holl ddarlithwyr yn yr Adran Mathemateg wedi’u cymhwyso i lefel PhD ac yn weithgar ym myd ymchwil. Mae gan y rhan fwyaf gymhwyster addysgu uwchraddedig ac mae’n rhaid i staff newydd gwblhau’r TUAAU. Mae’r adran hefyd yn cyflogi nifer o diwtoriaid rhan-amser, sydd â phrofiad dysgu eang, a rhai arddangoswyr sy’n cael eu dewis o blith ein myfyrwyr israddedig ac uwchraddedig.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Earth Surface Environments GS10520 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Algebra MT10510 10
Calcwlws MT10610 10
Algebra a Chalcwlws Pellach MT11010 10
Dadansoddi Mathemategol MT11110 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Coordinate and Vector Geometry MA10110 10
Differential Equations MA11210 10
Geometreg Gyfesurynnol a Fectoraidd MT10110 10
Hafaliadau Differol MT11210 10
Probability MA10310 10
Statistics MA11310 10
Tebygoleg MT10310 10
Ystadegaeth MT11310 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Daearyddiaeth Anrhydedd Cyfun/Prif Bwnc DA34220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Applied Environmental Management GS31120 20
Glaciers and Ice Sheets GS33420 20
Monitoring our Planet's Health from Space GS32020 20
People, Climate and Environment: a Palaeoenvironmental Perspective GS33720 20
Rheoli'r Amgylchedd Gymreig DA31720 20
Volcanic Activity: Hazards and Environmental Change GS30420 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfaol

Gall eich BSc mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Mathemateg eich paratoi ar gyfer ystod eang o opsiynau cyflogaeth neu hyfforddiant pellach. Bydd eich arbenigedd mewn Daearyddiaeth Ffisegol yn golygu y byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer cyfleoedd ym maes cartograffeg, ymgynghori amgylcheddol, cynllunio a datblygu, ac addysgu. Bydd eich hyfforddiant mathemategol yn eich cynorthwyo mewn gwaith yn ymwneud â dadansoddi rhifiadol, megis gweithio fel dadansoddwr buddsoddiadau, ystadegydd, gwyddonydd ymchwil neu athro ysgol uwchradd.

Mae ystadegau diweddar gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) yn dangos bod dros 82 y cant o raddedigion Daearyddiaeth un ai'n canfod swydd gyflogedig neu'n parhau ag astudiaeth bellach wrth raddio o gyrsiau BSc tebyg i'r un hwn. Mae 40% o'r graddedigion Mathemateg sy'n dod o hyd i waith yn gwneud hynny yn y sector busnes ac ariannol. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at yr adran rhagolygon gwaith gyda gradd mewn Daearyddiaeth a rhagolygon gwaith gyda gradd mewn Mathemateg.

Drwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau daearyddiaeth a mathemategol craidd, ynghyd ag ystod o sgiliau cyffredinol eraill y gellir eu trosglwyddo'n hawdd bron i unrhyw sefyllfa raddedig neu swydd gyflogedig broffesiynol.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Daearyddiaeth Ffisegol a Mathemateg yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau rhifiadol a chyfrifiadol uwch
  • y gallu i ymchwilio, dehongli a dadansoddi data busnes ac ariannol
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau'n effeithiol
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae BMG yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.

Cynllun Datblygu Personol

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Dysgu ac Addysgu

Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd y cyfuniad hwn yn cydbwyso'r damcaniaethol gyda'r ymarferol, a gwaith grŵp gydag aseiniadau unigol. Bydd modd i chi drafod pynciau gyda'ch cyfoedion, ac ehangu eich gallu gwaith maes yn yr awyr agored.

Mae ethos yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear a'r Adran Fathemateg yn canolbwyntio ar y myfyriwr, sy'n golygu y byddwch yn cael eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau, ond yn cael rhyddid i ffurfio eich llwybr astudio eich hun drwy ddewis modiwlau a chyfleoedd cyffrous ar gyfer gwaith maes.

Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol.

Eich tiwtor personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae fy nghwrs yn ddiddorol iawn. Rydw i wedi dysgu am lawer o wahanol agweddau ar y byd, o sut cafodd ei ffurfio i'r hyn y gallai fod yn y dyfodol. Mae'r darlithwyr i gyd yn gyfeillgar iawn, ac yn barod i helpu unrhyw un gyda phroblemau neu anawsterau. Fy hoff fodiwlau i yw'r rhai ymarferol, lle mae modd i ni wneud arbrofion. Mae'r daith maes yn yr ail flwyddyn hefyd yn fonws bach eitha da. Charlotte Hewsen

Mae Daearyddiaeth Ffisegol yn cychwyn gyda chariad tuag at yr awyr agored. Mae'n anhygoel gan ei fod e'n rhywbeth go iawn, mae e allan yna; allwch chi ddim cerdded i lawr stryd heb sylwi ar ddaearyddiaeth. Mae cymaint o bobl yn rhyfeddu at y prosesau naturiol sy'n digwydd o'n cwmpas, ond does dim llawer sydd wir yn eu deall. Drwy astudio Daearyddiaeth Ffisegol, byddwch yn dysgu gwybodaeth werthfawr am y byd o'ch cwmpas. Drwy ymgysylltu gyda'r byd rydyn ni'n byw ynddo, gallwn ei ddeall, ei hyrwyddo, a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynna'n eitha cŵl! Emily Brown

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Mathemateg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda B Safon Uwch Mathemateg

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda 5 pwynt mewn Mathemateg ar lefel uwch

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda 7 mewn Mathemateg

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|