BSc

Daearyddiaeth Ffisegol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wedi’i gynllunio ar gyfer darpar fyfyrwyr nad oes ganddynt gefndir academaidd ddigonol neu berthnasol, mae’r cwrs gyda blwyddyn sylfaen integredig yn ddewis perffaith i gael mynediad at y cyllun gradd hynod boblogaidd hwn. Bydd y flwyddyn sylfaen yn rhoi ichi sail academaidd gadarn i’ch galluogi i fynd ymlaen i fwynhau’r radd israddedig lawn yn eich ail flwyddyn

Trosolwg o'r Cwrs

Ar ôl y flwyddyn sylfaen, byddwch yn astudio’r prosesau sylfaenol sy’n ffurfio ein byd. Gyda chefnogaeth ymchwil o safon byd a wneir gan ein staff, mae’r themâu allweddol yn cynnwys: newid amgylcheddol Cwaternaidd; systemau hydrolegol; prosesau rhewlifol; geomorffoleg; gwyddoniaeth systemau pridd; a dynameg ecosystemau.

Rydym yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gwaith maes, gan gynnwys taith faes yn rhad ac am ddim ar ddechrau’r flwyddyn gyntaf. Yn yr ail flwyddyn, rydym yn cynnig ystod o deithiau i gyd-fynd ag arbenigeddau a chyllidebau amrywiol. Yn ddiweddar, bu teithiau i Dde a Chanolbarth Cymru (am ddim) a Chreta (am dâl ychwanegol). Yn ogystal â hyn cynigir teithiau undydd dewisol (mae’r cyrchfannau yn gallu newid) ar sawl modiwl trwy gydol eich gradd.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Daearyddiaeth Ffisegol (gyda blwyddyn sylfaen integredig) yn Aberystwyth:

  • cael eich dysgu gan ymchwilwyr sy’n arwain y byd yn eu meysydd trwy gydol eich cwrs
  • cyfleusterau gwych i wneud gwaith dadansoddi cemegol a ffisegol mewn labordy, a mynediad at y pecynnau diweddaraf ym maes synhwyro o bell a GIS.




Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Management GS00420 20
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20
The ‘Othered' Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An introduction to Earth Materials GS12520 20
Earth Surface Environments GS10520 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Life on Earth GS10720 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd wedi’i wreiddio yn ein holl gyrsiau. Mae ein graddau’n darparu sylfaen gadarn i amrywiaeth fawr o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu dibynnu ar set o sgiliau trosglwyddadwy mewn economi fyd-eang sy’n newid yn gyflym, sy’n sicrhau bod galw mawr amdanynt. Mae graddedigion y cwrs hwn wedi dod o hyd i waith fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweithwyr sifil, tirfesurwyr, ac addysgwyr, ymhlith eraill.



Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2/Academic Skills Foundation 1 & 2
  • Environmental Management
  • Foundation - Dialogue
  • Learning Experience.

Yr ail flwyddyn:

  • Earth Surface Environments
  • Byw Gyda Newid Byd-eang/Living with Global Change
  • Life on Earth
  • Researching the World: Data Collection and Analysis
  • Sut i Greu Planed/How to Build a Planet.

Y drydedd flwyddyn:

  • Reconstructing Past Environments
  • Chemical Analysis of Natural Materials
  • Geographical Information Systems
  • Gwaith Maes Daearyddiaeth/Geography Fieldwork
  • Physical Analysis of Natural Materials
  • Geomorffoleg Afonydd/Catchment Systems
  • The Frozen Planet.

Y flwyddyn olaf:

  • Traethawd Estynedig Daearyddiaeth/Geography Dissertation.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|