BSc

Daearyddiaeth Ffisegol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth yn un o'r adrannau mwyaf profiadol a sefydledig o'i bath. Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle unigryw i astudio daearyddiaeth yn un o leoliadau harddaf Ewrop.

Mae'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear – sydd wedi'i lleoli ar arfordir Bae Ceredigion ac wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o amgylcheddau hardd, yn cynnwys môr, gweundir, mynyddoedd a glaswelltir – mewn lleoliad unigryw i wneud y mwyaf o'r tirweddau sydd o'i chwmpas, gan gynnig amrywiaeth anhygoel o gyfleoedd gwaith maes a hamdden. Bydd y radd hon, sydd wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG), yn eich paratoi gyda'r sgiliau, y gallu a'r arbenigedd i wynebu ac ymwneud â'r heriau amgylcheddol sy'n wynebu cymdeithas heddiw.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Daearyddiaeth Ffisegol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae'r rhaglen hon wedi'i hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG)

Fel cymuned Ddaearyddiaeth fawr a dynamig, gallwn gynnig ystod eang iawn o arbenigedd, cyfleoedd a chyfleusterau daearyddiaeth:

  • prosesau dalgylch afonydd
  • rhewlifeg
  • bioddaearyddiaeth
  • newid amgylcheddol cwaternaidd
  • tueddiadau cyfredol o ran Geoberyglon
  • systemau gwybodaeth ddaearyddol a chanfod o bell
  • cyfleoedd gwaith maes yn Seland Newydd, Creta, Efrog Newydd ac Iwerddon
  • dyfarniadau teithio i ariannu eich anturiaethau eich hun (hyd at £400) sydd ar gael bob blwyddyn
  • cyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf i wella dysg
  • labordai â stoc llawn, gyda gwledd o offer dadansoddi e.e. sbectromedrau màs a sganwyr craidd, y gellir eu defnyddio ar gyfer gwaith maes ac astudiaeth annibynnol.
Ein Staff

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An introduction to Earth Materials GS12520 20
Earth Surface Environments GS10520 20
Sut i Greu Planed DA11520 20
Life on Earth GS10720 20
Living in a Dangerous World GS10020 20
Ymchwilio'r Byd: Casglu a Dadansoddi Data DA10320 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Daearyddiaeth Ffisegol?

Mae ein graddedigion wedi canfod cyflogaeth, er enghraifft, fel ymgynghorwyr amgylcheddol, cynllunwyr, gweision sifil, syrfewyr, ac ym maes addysg, ymhlith llawer o feysydd eraill.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio ym mhob cwrs rydym yn ei ddarparu. Mae ein graddau'n cynnig sylfaen gadarn ar gyfer amrywiaeth eang o yrfaoedd ar draws ystod o sectorau. Mewn economi fyd-eang sy'n newid yn gyflym, mae ein graddedigion yn hyblyg ac yn gallu defnyddio ystod o sgiliau trosglwyddadwy, sy'n golygu bod galw amdanynt o hyd.

Mae'r setiau sgiliau'n cynnwys:

  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • sgiliau cyfathrebu yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunain

Profiad gwaith:

Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflawni Blwyddyn mewn Diwydiant, yna mae'n bosib y bydd ein chwaer-gwrs o ddiddordeb i chi, sef Daearyddiaeth Ffisegol gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant (F846). Mae'r maes llafur yn union yr un fath â'r cwrs hwn (F840), ond byddwch yn cyflawni lleoliad gwaith rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf o astudio. 

Cyfleoedd Cyfnewid Rhyngwladol:

Ar gyfer y rhai sy'n dymuno astudio gydag un o'n Prifysgolion partner yn Ewrop neu weddill y byd, yna mae'n bosib y bydd y cwrs Daearyddiaeth Ffisegol gyda Blwyddyn Integredig yn Astudio Dramor yn apelio atoch (F845). Mae'r cwrs hwn yn union yr un fath â chwrs F840, ond byddwch yn astudio dramor rhwng yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael eich cyflwyno i'r canlynol:

  • cysyniadau allweddol mewn astudiaeth ddaearyddol
  • problemau a thechnegau wrth gasglu, dadansoddi a chyflwyno data daearyddol
  • newid hinsawdd
  • prosesau tirwedd
  • newid amgylcheddol byd-eang

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn datblygu ymhellach ym meysydd:

  • sgiliau ymchwil cyfrifiadurol a labordy, i baratoi ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol
  • dadansoddi setiau data meintiol
  • cynhyrchu mapiau a graffigau eraill sy'n dehongli data daearyddol

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn taith maes breswyl ym Mhrydain neu dramor, a gallwch ddewis modiwlau opsiynol i arbenigo neu gynnal diddordeb eang ar draws Daearyddiaeth.

Yn eich trydedd flwyddyn:

  • byddwch yn cynnal prosiect ymchwil annibynnol yn cynnwys casglu, dadansoddi a dehongli eich data eich hun
  • bydd ymgynghorydd personol yn cael ei ddynodi i chi, a fydd yn cynnig arweiniad
  • bydd modiwlau opsiynol amrywiol, megis rhewlifeg, hydroleg, peryglon folcanig, a newid hinsawdd yn y gorffennol, yn eich galluogi i deilwra eich astudiaeth i weddu i'ch diddordebau.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Caiff ein cyrsiau eu haddysgu ar ffurf darlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol gyda chyfrifiaduron ac mewn labordai, tiwtorialau grwpiau bach, cyrsiau maes a goruchwyliaeth unigol ar gyfer gwaith prosiect.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy ystod o ddulliau gwahanol. Asesir rhai modiwlau yn rhannol gydag arholiadau traddodiadol, ond mae rhai'n cynnwys elfennau o waith cwrs. Mae gennym rai modiwlau hefyd lle gall fod gofyn i'r myfyrwyr gynhyrchu adroddiadau ymarferol, rhoi cyflwyniadau llafar, dylunio tudalennau gwe, cynhyrchu ffilmiau byrion, neu gyfrannu at fforymau trafod ar-lein. Asesir rhai modiwlau, yn arbennig y tiwtorialau a'r cyrsiau maes, yn gyfan gwbl ar ffurf gwaith cwrs.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae Daearyddiaeth Ffisegol yn cychwyn gyda chariad tuag at yr awyr agored. Mae'n anhygoel gan ei fod e'n rhywbeth go iawn, mae e allan yna; allwch chi ddim cerdded i lawr stryd heb sylwi ar ddaearyddiaeth. Mae cymaint o bobl yn rhyfeddu at y broses naturiol sy'n digwydd o'n cwmpas, ond does dim llawer sydd wir yn ei deall. Drwy astudio Daearyddiaeth Ffisegol, byddwch yn dysgu gwybodaeth werthfawr am y byd o'ch cwmpas. Drwy ymgysylltu gyda'r byd rydyn ni'n byw ynddo, gallwn ni ei ddeall, ei hyrwyddo, a'i gadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ac mae hynna'n eitha cŵl! Emily Brown

Mae Daearyddiaeth Ffisegol ym MHOBMAN - yn enwedig yn Aberystwyth. Allwch chi ddim mynd yn bell heb gael cip o'r môr, y traethau, y mynyddoedd neu'r afonydd, a pha bwnc gwell i'w ddewis nag un sy'n caniatáu i chi archwilio sut cafodd y rhain eu creu, a sut maen nhw'n newid heddiw. Mae'n bwnc fydd yn fy syfrdanu am byth, ac mae'r cwrs ei hun yn ei egluro mewn ffordd mor ddiddorol, mewn manylder mor anhygoel. Rachel Say

Yr hyn rydw i'n ei hoffi fwyaf am fy nghwrs yw ei fod ym mhobman o fy nghwmpas i yma yn Aberystwyth - mae ganddon ni'r môr, y mynyddoedd, yr afonydd, a'r cymoedd. Fy ngradd i yw'r unig un lle galla i ei gweld o fy nghwmpas ble bynnag ydw i yn y byd. Jonathon Ackroyd

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|