BSc

Bioleg Planhigion (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Bioleg Planhigion (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C202 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae gan raddedigion Bioleg Planhigion gyfleoedd gyrfaol gwych, ac mae Prifysgol Aberystwyth yn lle delfrydol ar gyfer cam cyntaf eich gyrfa. Rydym yn gartref i raglenni bridio planhigion a gydnabyddir yn rhyngwladol ar gyfer gweiriau sy’n uchel o ran siwgr, adnoddau a chronfeydd data geneteg planhigion, gerddi botaneg, a’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion. Mae ein campws hefyd wedi'i leoli o fewn cefn gwlad hardd a hygyrch sy'n gartref i amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau. 

Trwy ddilyn y radd hon byddwch yn astudio pob agwedd ar fywyd planhigion, o’r moleciwlaidd i’r ecolegol, ac ar yr un pryd yn archwilio materion byd-eang sy’n ymwneud â phlanhigion. Byddwch yn ystyried sut y gall technoleg sy’n seiliedig ar blanhigion ein cynorthwyo i wynebu her poblogaeth ddynol sy’n tyfu a bygythiadau’r dyfodol, yn cynnwys diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd. Bydd y cwrs hefyd yn rhoi cyfleoedd bywyd go iawn i chi herio eich gwybodaeth a meddwl yn greadigol. 

Mae'r cwrs hwn wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. 

Trosolwg o'r Cwrs

The taught component of the Plant Biology with integrated year in industry degree (C202) is identical to the standard three-year BSc Plant Biology (C200). The year in industry is taken in your third year in the UK or overseas, is supervised and assessed, and will count towards your degree grade. During your year in industry, you will pay a discounted tuition fee.  

Why study Plant Biology at Aberystwyth University?

BSc Plant Biology will provide you with real-life opportunities to challenge your knowledge and think creatively. You will benefit from many fieldwork opportunities looking at both environmental and agricultural scenarios.

At Aberystwyth, you will be studying in an area rich in a variety of stunning landscapes and beautiful habitats, including marine, moorland, mountain, woodland and grassland ecosystems, offering a fabulous variety of fieldwork and recreational opportunities.

Many nature reserves are within easy reach, including Snowdonia and the Brecon Beacons National Parks. 

Our world-class facilities include botany gardens with a wide range of temperate and tropical plants, an extensive range of growth rooms and glasshouses, a museum of historic botanical specimens, and plant genetic resources collections and databases. We are also home to the National Plant Phenomics Centre, giving you the possibility of engaging with our world-leading plant breeding programmes.

Aberystwyth also has its very own and unique ‘Phyte Club’ where students from across the University assemble weekly to botanise at our Botanical Garden, in horticultural glasshouses and the field.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Climate Change: Plants, Animals and Ecosystems BR21120 20
Controlled Environment Crop Production and Horticulture BR23520 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Wildlife Surveying BR29620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Applied Molecular Biology and Bioinformatics BR20620 20
Aquatic Botany BR25820 20
Arolygu Bywyd Gwyllt BG29620 20
Pynciau llosg yn y Biowyddorau BG21720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60
Integrated Year in Industry BRS0160 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Frontiers in Plant Science BR35820 20
Microbial Pathogenesis BR33720 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Bioinformatics and Functional Genomics BR37120 20
Cwrs Maes Ecoleg Ddaearol BG36620 20
Sustainable Land Management BR30420 20
Terrestrial Ecology Fieldcourse BR36620 20

Gyrfaoedd

Mae’r cyfleoedd gyrfa ar gyfer gwyddonwyr planhigion yn wirioneddol ragorol, gyda llawer o swyddi a dim ond ychydig o wyddonwyr hyfforddedig yn y maes hwn. Mae ein Hathrofa mewn sefyllfa berffaith i’ch helpu i fanteisio ar gysylltiadau yn y DU ac yn rhyngwladol. Mae ein graddedigion yn gweithio ym maes rheoli cadwraeth, mewn athrofeydd ymchwil planhigion dan nawdd y Llywodraeth a rhai diwydiannol, ac yn y gwasanaeth sifil gwyddonol.

Pa sgiliau y byddaf yn eu hennill wrth astudio Bioleg Planhigion?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu. Mae ein myfyrwyr yn gadael Prifysgol Aberystwyth gyda'r sgiliau canlynol:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • sylfaen drylwyr mewn sgiliau technoleg gwybodaeth
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?  

Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn edrych ar yr amrywiaeth anhygoel o fywyd ar y Ddaear, ac yn cael sylfaen drylwyr yn y fioleg sy'n hanfodol i ddeall biota, gan gynnwys ffisioleg, geneteg, bioleg celloedd a microbau. Byddwch yn edrych ar egwyddorion sylfaenol ecoleg a'r berthynas rhwng rhywogaethau, gan gwmpasu trosglwyddo egni, rhyngweithiadau rhyng-rywogaethol ac o fewn rhywogaethau, a defnyddio adnoddau. Byddwch yn dysgu am gyfansoddiad pridd a phrosesau pridd allweddol, ac yn cael eich cyflwyno i esblygiad, bioamrywiaeth a ffisioleg fflora’r tir, ynghyd â'r ffordd y mae pobl yn manteisio arno. Byddwch yn astudio datblygiad cynefinoedd Prydain a’u rheoli, ac yn ystyried heriau'r dyfodol megis ymateb i hinsawdd y byd a gwarchod bioamrywiaeth. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau ymarferol angenrheidiol sydd eu hangen ar gyfer ymchwil ym maes bioleg trwy gyfres o arbrofion cysylltiedig.  

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio ffisioleg planhigion, cynhyrchu planhigion yn arddwriaethol a chynhyrchu cnydau. Byddwch yn ystyried cynefinoedd, tirweddau a'r cymunedau o rywogaethau sy'n byw ynddynt, ac yn ennill sgiliau ymarferol hanfodol. Byddwch yn caffael sgiliau adnabod ac arolygu rhywogaethau ac yn eu cymhwyso’n uniongyrchol mewn cwrs maes preswyl yn ystod gwyliau'r Pasg. Byddwch yn ymchwilio i effaith newid yn yr hinsawdd fel un o’r prif heriau i fioamrywiaeth fyd-eang yn y dyfodol; a thrwy deithiau maes a dosbarthiadau ymarferol byddwch yn defnyddio’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu er mwyn mynd i’r afael â phroblemau a dod o hyd i atebion.    

Yn y drydedd flwyddyn, byddwch yn mynd ar leoliad gwaith mewn diwydiant. Gallwch dreulio eich blwyddyn mewn diwydiant, neu ran ohoni, dramor. 

Yn y flwyddyn olaf, byddwch yn dod i werthfawrogi ymchwil gwyddor planhigion ac yn dysgu am bathogenesis microbaidd. Gallwch ddewis astudio pynciau fel gwyddor cnydau a glaswelltir neu genomeg, neu gymryd rhan mewn cyrsiau maes, sy’n rhoi’r cyfle i chi ymweld â rhai o brif fannau bioamrywiaeth a choedwigoedd glaw trofannol y byd. Bydd prosiect ymchwil yn caniatáu ichi wneud ymchwil manwl o dan arweiniad arolygydd. Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, a chynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data.   

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes.  

Asesu 

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, llyfr nodiadau maes ac arholiadau. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r cwrs yn wych, rwy'n cael astudio ystod eang o bynciau sy'n fy ngalluogi i i deilwra fy modiwlau i'm chwaeth fy hun, a sicrhau bod fy nghwrs gradd yn cyd-fynd â'm diddordebau a'm hanghenion. Elizabeth Smith

Mae'r cwrs yn eang iawn ac mae'n darparu ar gyfer diddordebau unrhyw un sy'n dymuno astudio bioleg. Mae'r modiwlau yn yr ail flwyddyn yn eich galluogi i arbenigo mewn meysydd pwnc y mae gennych ddiddordeb ynddynt. Mae hyblygrwydd y cynllun gradd yn ddeniadol iawn i ddarpar fyfyrwyr nad ydyn nhw'n siŵr eto ble mae eu gwir ddiddordebau. Mae'r elfennau ymarferol yn amrywiol ac wedi'u gwasgaru'n dda dros y flwyddyn academaidd ac yn atgyfnerthu'r deunydd darlithio. Jodie Ackland

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC with B in Biology

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|