BSc

Seicoleg a Chymdeithaseg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y radd mewn Seicoleg a Chymdeithaseg yn eich galluogi i gysylltu â damcaniaeth ac ymchwil seicolegol ac i archwilio sut y cymhwysir seicoleg i faterion personol a chymdeithasol yn y byd go-iawn. Bydd y cwrs hefyd yn gyfle ichi drafod agweddau personol a chymdeithasol ar brofiad dynol o wahanol safbwyntiau.


Trosolwg o'r Cwrs

Ar y radd hon byddwch yn dysgu sut i bwyso a mesur syniadau, cysyniadau ac ymagweddau yn feirniadol ar draws yr holl bwnc ac o fewn elfennau penodol o Seicoleg a Chymdeithaseg. Bydd y cwrs hefyd yn canolbwyntio ar y cysylltiadau rhwng ymddygiad pobl a’r systemau cymdeithasol ehangach (yn cynnwys cymunedau, dinasoedd, a chenhedloedd) yr ydym yn byw ynddyn nhw. Byddwch yn dysgu sut i ymgymryd ag ymchwil annibynnol, gan gymhwyso ystod o sgiliau yn ymwneud â chasglu data, dadansoddi a chyflwyno. Byddwch hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio’r cysyniadau allweddol sy’n gysylltiedig â Chymdeithaseg mewn sefyllfaoedd go iawn, a datblygu eich sgiliau cyflogadwyedd.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Seicoleg a Chymdeithaseg yn Aberystwyth:

  • elwa ar amrywiaeth eang o arbenigedd ymhlith ein staff sy’n weithredol o ran ymchwil
  • defnyddio cyfarpar tracio llygaid, electroenceffalogram (EEG), ac offer mesur ffisiolegol ac ymddygiadol
  • manteisio ar ystod o ddosbarthiadau ymarferol ac ymarferion maes ar draws y ddwy ddisgyblaeth
  • dysgu yn sgil prosiectau ymchwil byw fydd yn eich galluogi i feithrin dealltwriaeth o’r byd cymdeithasol o safbwynt damcaniaethol ac empirig.


Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Introduction to Social Theory GS25020 20
Understanding (in)equality and (in)justice GS24220 20
Cognitive Psychology PS21820 20
Qualitative Research Methods PS21410 10
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astudio Cymru Gyfoes DA20820 20
Geographical Perspectives on the Sustainable Society GS28910 10
Lleoli Gwleidyddiaeth DA23020 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20
Placing Culture GS22920 20
Placing Politics GS23020 20
Pobl a Grym: Deall Gwleidyddiaeth Gymharol Heddiw GQ23920 20

Gyrfaoedd

Bydd astudio Seicoleg a Chymdeithaseg yn rhoi ichi sylfaen gadarn i allu ystyried ystod eang o yrfaoedd mewn meysydd yn cynnwys y cyfryngau, gwaith cymdeithasol, datblygu rhyngwladol, ymgysylltu â chymdeithas a’r gwasanaeth sifil, ymhlith eraill.

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio ym maes yr

  • Heddlu
  • Iechyd a gofal cymdeithasol
  • Gwaith cymdeithasol
  • Polisi cymdeithasol (yn cynnwys tai cyhoeddus, gwaith cymdeithasol, gweinyddu llywodraeth leol, a’r sector gwirfoddol)
  • Rheolaeth
  • Newyddiaduraeth
  • Cysylltiadau cyhoeddus
  • Dysgu
  • Ymchwil

Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Cyflwyniad i Ddulliau Ymchwil mewn Seicoleg/Introduction to Research Methods in Psychology
  • Introduction to Core Topics in Social and Individual Behaviour
  • Understanding Sameness and Difference
  • Brain, Behaviour and Cognition
  • Key Concepts in Sociology
  • Place and Identity.

Yr ail flwyddyn:

  • Quantitative Research Methods
  • Cognitive Psychology
  • Understanding (in)equality and (in)justice
  • Qualitative Research Methods
  • Social Psychology
  • Introduction to Social Theory.

Y drydedd flwyddyn:

  • Psychology Research Project
  • Behavioural Neuroscience
  • Everyday Social Worlds
  • Developmental Psychology.


Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|