BSc

Seicoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Seicoleg (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod WF7F Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Mae ein gradd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS) a’i chynllunio i ddatblygu a llunio eich dealltwriaeth o’r meddwl ac o ymddygiad dynol. Ein hethos yw dysgu mewn ffordd sy’n caniatáu ichi ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol y gallwch ei defnyddio i ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd go iawn.

I’ch cefnogi i wneud hyn, mae ein gradd wedi ei hadeiladu o gylch pynciau craidd hanfodol ym maes seicoleg, sy’n sylfaen ar gyfer yr amrywiaeth o fodiwlau dewisol arbenigol yr ydym yn eu cynnig yn yr ail a’r drydedd flwyddyn.

Mae gan yr adran gyfleusterau addysgu ac ymchwil rhagorol, yn cynnwys labordai gydag amrywiaeth o gyfarpar ac offer. Gyda’r adnoddau hyn cewch ddatblygu’ch diddordebau a defnyddio technegau creadigol i ddatrys problemau trwy gydol eich gradd.

Trosolwg o'r Cwrs

At Aberystwyth, we offer a wide range of modules that allow you to explore the varied aspects of Psychology. Students on our Psychology degrees have access to exciting research tools to understand brain and cognitive activity, as well as behavioural measurement equipment. 

Our Psychology degree will give you a broad foundation in psychology that enables you to tailor your interests and provide you with a solid platform for a varied number of career opportunities. 

You will benefit from:

  • a wide range of expertise among our research-active staff
  • eye tracking, an electroencephalogram (EEG), physiological measurement equipment and behavioural measurements equipment
  • a focus on applying psychology
  • studying a course fully accredited by the British Psychological Society
  • the ability to study abroad or work in industry on a placement as part of your degree
  • studying in a department with an exceptional track record for student employability.
Ein Staff

Mae holl staff dysgu'r Adran Seicoleg yn gwneud gwaith ymchwil ac mae gan bob un o’r staff parhaol gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf TUAAU neu maent yn gymrodyr/cymrodyr uwch o'r academi addysg uwch. Mae gan dros hanner y staff hefyd gymhwyster CPsychol, sy'n dynodi safon uchaf y Gymdeithas Seicoleg Brydeinig o ran gwybodaeth ac arbenigedd mewn seicoleg.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cognitive Psychology PS21820 20
Dulliau Ymchwil Meintiol SC21310 10
Qualitative Research Methods PS20310 10
Social Psychology PS20220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Evolutionary Psychology PS21020 20
Forensic Psychology PS21220 20
Health Psychology PS20720 20
Issues in Clinical Psychology PS21720 20
Psychology in Practice PS20620 20
Seicoleg Iechyd SC20720 20
Seicoleg mewn gweithred SC20620 20
The Psychology of Language PS20420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work Placement PSS0260 60
Work Placement PSS0360 60

Gyrfaoedd

Bydd gradd Seicoleg o Brifysgol Aberystwyth yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd, ac yn rhoi ichi gyfleoedd i hyfforddi ymhellach, yn cynnwys:

  • seicoleg glinigol, addysgol, alwedigaethol, chwaraeon ac ymarfer corff
  • seicotherapi a chwnsela
  • gwaith cymdeithasol
  • gofal iechyd
  • adnoddau dynol
  • gwasanaeth cyngor gyrfaol
  • marchnata
  • cyhoeddi
  • hysbysebu.

Rydym wedi ymgorffori cyflogadwyedd ym mhob elfen o’r cwrs hwn, ac mae gennym nifer fawr o gyfleoedd sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen i adeiladu CV ar gyfer gyrfa bosibl ym maes seicoleg neu faes arall cysylltiedig, gan gynnwys:

  • ymchwil effeithiol a dadansoddi data
  • datrys problemau’n effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm
  • y gallu i gyfathrebu'n effeithiol chryno
  • sgiliau technoleg gwybodaeth.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Mae Seicoleg yn ddisgyblaeth amlochrog ac mae strwythur ein cwrs gradd a sut y cewch eich addysgu yn adlewyrchu hyn. Ein hethos yw addysgu mewn ffordd sy'n eich galluogi i ddatblygu gwybodaeth gysyniadol a damcaniaethol y gallwch ei chymhwyso i ddatrys problemau mewn sefyllfaoedd yn y byd go iawn. I'ch cefnogi yn hyn o beth, mae eich gradd, sydd wedi’i hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain, wedi'i seilio ar bynciau craidd hanfodol ym maes seicoleg, sy'n sylfaen ar gyfer y modiwlau dewisol amrywiol ac arbenigol a gynigiwn yn yr ail a'r flwyddyn olaf.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch:

  • Yn dechrau troi’n Seicolegydd drwy ddatblygu gwybodaeth graidd mewn meysydd fel ymddygiad cymdeithasol ac unigol, yr Ymennydd a gwybyddiaeth a materion hanesyddol ym maes seicoleg.
  • Yn dechrau datblygu ystod eang o sgiliau drwy ddefnyddio dulliau a thechnegau a fydd yn eich galluogi i ymchwilio i ffenomenau seicolegol. 

Yn eich ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf, byddwch:

  • Yn siapio eich cwrs gradd drwy ddewis o blith ein hystod unigryw o fodiwlau dewisol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi greu'ch llwybr personol eich hun drwy eich cwrs gradd.
  • Yn cymhwyso sgiliau a ddysgir drwy gydol eich gradd drwy lunio eich traethawd ymchwil eich hun, yn seiliedig ar eich syniadau a’ch diddordebau personol mewn cyd-destun seicolegol.

Yn eich trydydd blwyddyn, byddwch gweithio mewn diwydiant.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Mae eich datblygiad academaidd a deallusol wrth wraidd eich profiad o’r cwrs Seicoleg yn Aberystwyth. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddull addysgu sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr, gan wneud eich anghenion dysgu yn flaenoriaeth o ran yr hyn a addysgir a sut rydym yn eich addysgu.

Rydym yn darparu addysgu ysbrydoledig drwy amrywiaeth eang o fformatau gwahanol, o ddarlithoedd traddodiadol i waith mewn grwpiau bach. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymhwyso’ch gwybodaeth mewn gweithdai ac ymarferion labordy, lle byddwch yn gallu manteisio ar ein hamrywiaeth eang o offer a chyfleusterau ymchwil arbenigol. Yn Aberystwyth gallwch fod yn hyderus y byddwch yn cael y profiad dysgu gorau mewn adran sydd ar flaen y gad yn y maes.

Asesu

Bydd eich datblygiad yn cael ei asesu mewn amrywiaeth eang o ffyrdd gan gynnwys: arholiadau traddodiadol, traethodau, wicis, blogiau, arsylwadau a chyflwyniadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|