BSc

Gwyddor y Gofod a Roboteg

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Gwyddor y Gofod a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth yw un o'r unig gyrsiau o'i fath yng ngwledydd Prydain.

Byddwch yn dysgu am sylfeini archwilio'r gofod ac yn meithrin y sgiliau sydd eu hangen i fodloni gofynion a heriau'r diwydiant gofod, ynghyd â chynllunio a datblygu teithiau Astroffiseg a Ffiseg y Gofod yn y dyfodol. Byddwch hefyd yn cael eich trochi yn hanfodion Cyfrifiadureg a'r arloesiadau technolegol diweddaraf.

Drwy astudio'r radd hon, byddwch yn cael eich trochi mewn datblygiadau cyffrous yn ymwneud â'r pwnc, er enghraifft Prosiect ExoMars 2020 presennol yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwyddor y Gofod a Roboteg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Mae Ffiseg yn cael ei haddysgu yn Aberystwyth ers sefydlu'r brifysgol, ac mae'n parhau i fod yn brofiad dysgu arloesol i bawb.
  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr yn eu maes.
  • Byddwch yn dysgu mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf sy'n darparu amgylchedd dysgu ysgogol.
  • Bydd y radd hon yn caniatáu i chi ddatblygu sgiliau a gallu y mae llawer o'r prif gyflogwyr yn y ddisgyblaeth hon yn chwilio amdanynt, a byddwch yn graddio gyda'r cymwyseddau sydd eu hangen i ddilyn yr yrfa rydych chi'n ei dewis.
Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ffiseg gymwysterau hyd at safon PhD a hanes o wneud gwaith ymchwil yn eu meysydd arbenigol.

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20
Rhaglennu gan ddefnyddio Iaith Gwrthrych-Gyfeiriadol CC12320 20
Algebra a Hafaliadau Differol FG16210 10
Calcwlws MT10610 10
Dynameg, Tonnau a Gwres FG10020 20
Trydan, Magneteg a Mater FG11120 20
Technegau Labordy ar gyfer Ffiseg Arbrofol (10 Credyd) FG15510 10

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Astronomy PH18010 10
Communication and Technology PH19510 10
Energy and the Environment PH19010 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
C and C++ CS23820 20
Sgiliau Ymchwil Ymarferol FG25720 20
Robotics and Embedded Systems CS26020 20
Scientific Python CS24520 20
Sensors, Electronics & Instrumentation PH24520 20
Stars and Planets PH28620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Computer Vision CS34110 10
Fundamentals of Machine Learning CS36110 10
Robotic Applications CS36010 10
Space Robotics CS36510 10
Physics of Planetary Atmospheres PH38820 20
Professional Skills in Engineering PH38210 10
Agile Development and Testing CS31310 10
Machine Learning CS36220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Hir CC39440 40
Project (40 Credits) PH37540 40
Prosiect (40 Credyd) FG37540 40
Prosiect Hir CC39440 40

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd yng Ngwyddor y Gofod a Roboteg?

Mae ein graddedigion wedi canfod gyrfaoedd yn y diwydiant gofod ac wedi mynd ymlaen i arbenigo yn roboteg y gofod neu faes sy'n gysylltiedig ag astroffiseg neu roboteg.

Gallai myfyrwyr hefyd ystyried y gyrfaoedd posib hyn:

  • rhaglennu cyfrifiadurol
  • datblygu systemau
  • peirianneg
  • addysgu

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, mae graddedigion eraill wedi mynd ymlaen i gyflawni astudiaeth uwchraddedig ym maes ffiseg.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl addysgu a moeseg. Rydym yn rhoi'r sgiliau canlynol i'n myfyrwyr:

  • sgiliau ymchwil a dadansoddi data
  • sgiliau mathemategol a chyfrifiadol uwch
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • isadeiledd cyfrifiaduron
  • seryddiaeth
  • ffiseg fodern
  • rhaglennu
  • dynameg glasurol.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod:

  • amgylcheddau C a C++
  • roboteg a systemau mewnblanedig
  • opteg
  • planedau
  • ffiseg arbrofol
  • python gwyddonol

Yn eich blwyddyn olaf, byddwch yn astudio ac yn ymgymryd â'r canlynol:

  • roboteg gofod
  • ffiseg mater cyddwysedig
  • technoleg lled-ddargludyddion
  • atmosfferau planedol
  • eich prosiect blwyddyn olaf

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Rydym yn addysgu ein myfyrwyr drwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol a gwaith prosiect unigol a grŵp.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr drwy waith cwrs, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, dyddiaduron labordy ac arholiadau. 

Eich tiwtor personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblem neu ymholiad, boed yn faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Roedd fy nghwrs i'n wirioneddol ddiddorol a gwerthfawr. Mae cyflawni blwyddyn mewn diwydiant wedi gwella fy sgiliau rhaglennu ymarferol ddeg gwaith drosodd, os nad mwy. Mae'r darlithwyr yn broffesiynol ac yn barod i helpu, ac mae'r cwrs yn darparu amrywiaeth eang o wybodaeth bynciol. Mae blwyddyn gyntaf y cwrs yn gyflwyniad braf a hwylus i faes cyfrifiadureg. Fel myfyriwr heb ddim profiad blaenorol yn y maes, ro'n i'n weddol betrusgar pan ddes i i'r Brifysgol, ond ymhen rhai wythnosau ro'n i'n llawn brwdfrydedd wrth gael prosiect heriol ond gwerthfawr i'w gyflawni. Daniel William James Drave

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 112

Safon Uwch BBB - BBC to include B in Physics and B in Mathematics

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM with B in A level Physics and B in Mathematics

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Physics and Mathematics at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Physics and Mathematics

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|