BA

Cymraeg (i Ddechreuwyr)

BA Cymraeg (i Ddechreuwyr) Cod Q522 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Ni fu erioed amser mor gyffrous i astudio Cymraeg yn y brifysgol. Mae sefydlu Senedd i Gymru ac ehangu ei phwerau yn y blynyddoedd diweddar wedi cyfrannu at y galw am raddedigion o'r radd flaenaf i ymuno â gweithlu proffesiynol dwyieithog ac i weithio'n hyderus drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

O ddewis y cynllun gradd BA Cymraeg (i Ddechreuwyr) yn Aberystwyth, byddwch yn ymuno â chymuned lle mae’r Gymraeg yn rhan annatod o wead cymdeithas ac yn cael cyfle i fyw ac astudio mewn tref sydd yn un o gadarnleoedd yr iaith. Mae’r cwrs gradd BA Cymraeg (i Ddechreuwyr) yn gwrs pedair blynedd ac yn ogystal â datblygu eich rhuglder a hyder yn y Gymraeg - ar lafar ac yn ysgrifenedig - bydd hi’n cynnig cyfleoedd i chi ddysgu am lenyddiaeth, diwylliant, gwleidyddiaeth, hanes, a chymdeithaseg

Lleolir Aberystwyth mewn ardal sy'n gyforiog o hanes - mewn amgylchedd ble mae'r canoloesol a’r modern yn eistedd ochr yn ochr â’i gilydd yn gyfforddus - a dyma'r lle delfrydol i astudio un o ieithoedd hynaf Ewrop. Cofrestrwch ar gyfer y radd bedair blynedd BA Cymraeg (i Ddechreuwyr) a dechreuwch eich antur Gymraeg! 

Trosolwg o'r Cwrs

Ar y cwrs gradd BA Cymraeg (i Ddechreuwyr) byddwch yn dysgu Cymraeg o'r dechrau'n deg a gallwch edrych ymlaen at ddod yn rhugl wrth siarad, darllen ac ysgrifennu yn Gymraeg erbyn diwedd eich astudiaethau. 

Byddwch yn dechrau drwy astudio modiwlau iaith dwys a fydd yn eich cyflwyno i eirfa a phatrymau syml ac ymadroddion pob dydd gyda’r pwyslais ar siarad yr iaith ac fe gewch eich dysgu mewn grwpiau bach, cyfeillgar, a chan staff addysgu sydd yn arbenigwyr yn eu meysydd. Wrth i chi symud ymlaen drwy’r cwrs, byddwch yn ymuno â myfyrwyr eraill yn yr adran i gael eich trwytho mewn llenyddiaeth. 

Rydym yn cynnig modiwlau cyffrous ar ein holl gyrsiau, ac mae Aberystwyth, gyda’i chymuned Gymraeg fywiog, yn lle a fydd yn caniatau ichi ffynnu. Yn ategol i'ch astudiaethau, cewch gyfle i fanteisio ar agosrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda’i chasgliad o adnoddau llenyddol, clywedol a gweledol gwych, ac i gymryd mantais o’r bywyd cymdeithasol Cymraeg byrlymus a geir yn Aberystwyth. Cewch ymaelodi ag Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), byw yn neuadd Pantycelyn neu Fferm Penglais, a chymryd rhan mewn llu o weithgareddau hwyliog a drefnir i'n myfyrwyr Cymraeg eu hiaith.

Ein Staff

Mae holl staff academaidd Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd yn ysgolheigion sy'n gwneud gwaith ymchwil ac yn arbenigwyr yn eu dewis feysydd astudio, gan gynnwys astudiaethau iaith a llenyddiaeth yn ogystal ag ysgrifennu creadigol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Beginning Modern Welsh 1 WE11220 20
Beginning Welsh ii WE11320 20
Introduction to Welsh Literature WE11420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llafar CY13020 20
Llenyddiaeth Gymraeg: cyfoes a hanesyddol CY11520 20
Trafod y Byd Cyfoes twy'r Gymraeg CY10920 20
Ysgrifennu Cymraeg Graenus CY11720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cymraeg Llyfr a Chymraeg Llafar CY21420 20
Cymraeg y Gweithle Proffesiynol CY20520 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Gloywi Iaith yr Ail Iaith CY31120 20

Gyrfaoedd

Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu nifer fawr o sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Dyma rai enghreifftiau: 

  • ymchwilio a dadansoddi data 
  • meddwl yn greadigol a datrys problemau’n effeithlon 
  • gweithio’n annibynnol 
  • trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i gwrdd terfynau amser tynn 
  • mynegi syniadau a chyfathrebu gwybodaeth yn glir a threfnus, ar lafar ac yn ysgrifenedig 
  • hunan-gymhelliant a hunan-ddibyniaeth 
  • gwaith tîm, gallu trafod cysyniadau mewn grwpiau, gan drafod amrywiol syniadau a dod i gytundeb 
  • sgiliau technoleg gwybodaeth. 

Rhagolygon Gyrfa 

Mae adborth gan gyflogwyr yn dangos yn gyson bod gradd yn y Gymraeg yn arwydd o gyrhaeddiad ar lefel uchel, ac mae tystiolaeth bod galw mawr am raddedigion o'r fath mewn amrywiaeth o swyddi.  

Mae graddedigion Adran y Gymraeg yn mynd ymlaen i swyddi ardderchog. Mae llawer yn mynd ymlaen i fyd addysg, tra bo’r cyfryngau Cymraeg yn denu llawer i berfformio, gweinyddu a chynhyrchu. Aiff rhai o raddedigion yr adran i weithio mewn meysydd fel gwaith cymdeithasol a’r gyfraith. Yn sgil Deddf yr Iaith Gymraeg a sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol cynyddodd y galw am weision sifil sy’n medru’r Gymraeg, ac am bobl i gyfieithu ac i weinyddu mewn sawl cylch. Mae graddedigion yr adran hefyd yn cael swyddi mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill fel cyhoeddi llyfrau, y diwydiant twristiaeth, masnach a’r heddlu. Bydd y sgiliau ymchwilio a dadansoddi y byddi wedi eu datblygu dros gyfnod dy gwrs gradd hefyd yn sail cadarn i astudio’n uwchraddedig ac am yrfa yn y byd academaidd. 

Dysgwch am swyddi rhai o’n graddedigion ar y dudalen Ydy fy swydd yn dy siwtio? 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith pan fyddi'n astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig. 

Cewch hefyd wella eich cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a’r cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith a reolir gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth bydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn astudio ein modiwlau iaith dwys. Ar y dechrau, byddwch yn canolbwyntio ar ddod i ddeall gramadeg y Gymraeg ac dysgu geirfa. Cewch gyfle i ymarfer yr wybodaeth newydd hon mewn gwahanol gyd-destunau er mwyn dod yn gyfarwydd â iaith bob dydd a datblygu eich sgiliau wrth siarad Cymraeg. Wrth i chi ddod yn fwy hyderus, bydd digon o gyfleoedd i ddarllen ac ysgrifennu’r iaith. Byddwch hefyd yn dysgu am lenyddiaeth Gymreig o’r Oesoedd Canol hyd heddiw, gan ddarllen cyfieithiadau o rai gweithiau, ac yn astudio testunau dethol mewn mwy o fanylder.  

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn cadarnhau ac yn atgyfnerthu y sgiliau llafar a ddysgwyd o’r newydd yn y flwyddyn gyntaf ac yn darganfod diwylliant Gymreig, hanes cymdeithasol a'i sefydliadau. Rhoddir sylw i’r iaith lafar safonol a chanolbwyntir ar faterion sy’n ymwneud â Chymru a’r byd cyfoes yn gyffredinol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau ysgrifenedig ac yn atgyfnerthu eich dealltwriaeth o ramadeg y Gymraeg. 

Yn y drydedd flwyddyn cewch eich cyflwyno i egwyddorion sylfaenol Cymraeg safonol lle canolbwyntir ar gyweiriau’r iaith ynghyd â nodweddion Cymraeg safonol megis confensiynau sillafu’r iaith a threigladau. Cewch gyfle hefyd i ddatblygu eich sgiliau ieithyddol ac ymarferol a fydd yn fanteisiol ichi yn y gweithle dwyieithog yng Nghymru. 

Yn y flwyddyn olaf byddwn yn meithrin eich gallu i ysgrifennu'r Gymraeg yn safonol a chywir ac i'w llefaru'n raenus. 

Sut bydda i’n cael fy addysgu? 

Yn Adran y Gymraeg byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd traddodiadol, seminarau a dulliau dysgu arloesol eraill. Mae awyrgylch fwy anffurfiol yn y seminarau, er mwyn meithrin trafodaeth fwy agored.  

Sut bydda i'n cael fy asesu? 

Bydd eich gwaith yn cael ei asesu drwy arholiadau, drwy asesu cyson, a thrwy osod a marcio traethodau ac ymarferion. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei bennu ichi am gyfnod cyfan eich cwrs gradd. Bydd y tiwtor yn gallu cynnig cymorth ichi gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, yn faterion academaidd neu bersonol. Bydd croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth arnoch. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% yn gyffredinol gyda thystiolaeth o allu ieithyddol

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|